Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mercher, 9fed Rhagfyr, 2015 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru Grid Cenedlaethol - Ymgynghoriad Cam 2 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Datblygu Cynaliadwy.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Swyddogion o’r Adran Gynllunio a Mr. Peter Hulson o ARUP Consultants i’r cyfarfod.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod Adran 42 Deddf Cynllunio 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i ‘hyrwyddwrprosiectau isadeiledd sydd o bwys cenedlaethol (NSIP), sef National Grid yn yr achos hwn, gynnal ymgynghoriad cyn-gwneud-cais gyda rhestr benodedig o gyrff, awdurdodau lleol a’r rheini sydd â diddordeb yn y tir y mae’r prosiect yn effeithio arno, cyn gwneud cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu. Yn ôl amserlen gyfredol National Grid, disgwylir y bydd y broses statudol hon o ymgynghori ac ymgysylltu yn digwydd yn hwyrach yn 2016.

 

Mae’r deunydd ymgynghori gerbron yr Awdurdod ar hyn o bryd ac mae’n ffurfio rhan o ymgynghoriad cam 2 National Grid, sef ymgynghoriad anstatudol ei natur, ynghyd â’r deunydd ymgynghori ar leoli ceblau o dan ddaear yn ardal y Fenai ac sydd i fod i gael ei ryddhau yn ystod gwanwynhaf 2016. Pwrpas y deunydd ymgynghori yw cyfrannu at y broses a dylanwadu arni. Er bod ymgynghoriad diweddaraf National Grid o natur anstatudol, ni ellir gorbwysleisio difrifoldeb a phwysigrwydd y mater dan sylw i’r Ynys a’I thrigolion, ac mae’r Awdurdod wedi llunio ymateb yn erbyn y cefndir hwn ac mae’n ymateb sydd mor fanwl, cynhwysfawr a chadarn â’r ymateb a roddir gan yr Awdurdod fel rhan o’I ymwneud â gweithdrefnau ymgynghori ffurfiol.

 

Nodwyd bod ail gam yr ymgynghoriad anstatudol gan National Grid ynglŷn ag adeiladu ail linell drosglwyddo trydan foltedd uchel 400kv a pheilonau ar draws Ynys Môn wedi dechrau ar 21 Hydref, 2015 a bydd yn rhedeg am gyfnod o 8 wythnos tan 16 Rhagfyr, 2015. Roedd dogfen yr ymateb ffurfiol gan yr Awdurdod ynghlwm yn yr adroddiad. Mae ymateb yr Awdurdod wedi arwain at gynnal dadansoddiad manwl a chynhwysfawr o gyflwyniad National Grid, sydd wedi arwain at ryw 345 o sylwadau gwahanol.

 

Rhestrodd y Swyddog Caniatadau Mawr y prif themâu a adnabuwyd yn yr ymgynghoriad ail gam a rhoddodd ddadansoddiad manwl o’r materion a godwyd ym mhob un o’r themâu allweddol hyn i’r Cyngor Sir:-

 

· Yn gynamserol ac â diffygion

· Cymdeithasol-economaidd

· Cyfleoedd am Swyddi a chyfleoedd i’r Gadwyn Gyflenwi

· Yr Iaith Gymraeg

· Asesiad Effaith ar Iechyd

· Effeithiau cronnus

· Lliniaru

· Costau

 

Nodwyd bod nifer o sylwadau, pwyntiau eglurhad a cheisiadau am wybodaeth bellach wedi’u cynnwys yn y ddogfennaeth fel y gallai National Grid roi sylw i’r pwyntiau a godwyd pan fo angen a chywiro unrhyw ddiffygion a ganfuwyd.

 

Nododd Mr. Peter Hulson, ARUP eu bod yn rhannu pryderon yr Awdurdod ynglŷn â

diffiniad y prosiect, eglurder ar y strategaeth i sicrhau caniatâd ac ymgysylltu’n foddhaol â’r gymuned â budd-ddeiliaid ehangach ar gamau lliniaru a rheoli. Mae’n rhaid i National Grid amlinellu sut bydd yn ymgynghori ar groesi’r Fenai, gan gynnwys y dulliau adeiladu arfaethedig a’r camau lliniaru. Mae angen gadael digon o amser i’r awdurdod lleol gael trafodaeth ddigonol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.