Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 10fed Mawrth, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 195 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:-

 

·      9 Rhagfyr, 2015 (Arbennig)(10.00am)

·      9 Rhagfyr, 2015 (2.00pm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol a chadarnhawyd eu bod yn gywir:-

 

• 9 Rhagfyr, 2015 (Arbennig) (10.00 a.m.);

• 9 Rhagfyr, 2015 (2.00 p.m.).

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt Eitem 7 – Premiymau’r Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo sydd wedi bod yn Wag am Gyfnod Hir fel a ganlyn:-

 

Y Cynghorwyr R.A. Dew, Jeff M. Evans, Ann Griffith, K.P. Hughes, T.Ll. Hughes, T.V. Hughes, Aled M. Jones, Dylan Rees.

 

Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

 

(Fe wnaeth yr Aelodau uchod a’r Swyddog adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem).

 

Derbyniwyd datganiad o ddiddordeb personol gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yng nghyswllt Eitem 9 – Cynllun Datblygu Lleol ar y CydYr Amserlen yn y Cytundeb Cyflawni.

 

Fe wnaeth yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ynghyd â’r Penaethiaid Swyddogaeth ar gyfer Adnoddau a Busnes y Cyngor, ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yn Eitem 13 - Datganiad Polisi Tâl ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cadeirydd y datganiadau a ganlyn:-

 

Llongyfarchwyd Grŵp Cordia o Ysgol Uwchradd David Hughes ar ennill y gystadleuaeth Cân i Gymru ddydd Sul diwethaf, 5 Mawrth. Dyma’r ail flwyddyn i enillwyr y gystadleuaeth ddod o Ynys Môn.

 

• Mae dau o lysgenhadon chwaraeon ifanc o Ysgol Uwchradd David Hughes wedi cyrraedd y rhestr fer am wobrau cenedlaethol. Mae Glesni Tegid wedi cyrraedd y rhestr fer am y Wobr Myfyriwr y Flwyddyn – Sky Sports Living for Sport. Mae Cerys Davies wedi cyrraedd y rhestr fer am y Wobr Rising Star, Womenspire.

 

Llongyfarchwyd Clwb Ffermwyr Ifanc Bodedern ar ennill cystadleuaeth y Wobr Ddrama Iaith Gymraeg trwy Gymru yn ddiweddar.

 

Llongyfarchwyd Clwb Ieuenctid Brynsiencyn hefyd am eu hymdrechion wrth gasglu £280 tuag at Bwyllgor Apêl lleol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Aled M. Jones ar ddod yn daid am y tro cyntaf.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Noson Elusen y Cadeirydd a fyddai’n cael ei chynnal yng Ngwesty Carreg Bran, Llanfairpwll ar 15 Ebrill, 2016.

 

Cydymdeimlwyd â Mr Huw Jones, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar ôl iddo golli ei dad yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu staff a oedd wedi dioddef profedigaeth yn ddiweddar.

 

Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn tawelwch fel arwydd o barch a chydymdeimlad.

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff  4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.

5.

Cyllideb 2016/17 pdf eicon PDF 632 KB

a)     Cyllideb Refeniw 2016/17

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

b)      Rhaglen Gyfalaf

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

c)      Y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

ch)   Gosod y Dreth Gyngor

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

d)      Newidiadau i’r Gyllideb

 

Cyflwyno unrhyw newidiadau i’r gyllideb y derbyniwyd rhybudd yn eu cylch yn unol â Pharagraff 4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad.

 

(Sylwer: Rhaid ystyried y cyfan o’r papurau uchod fel un pecyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Deilydd Portffolio (Cyllid) gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer 2016/17, y Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a gosod y Dreth Gyngor fel eitem 5 (a) i (ch) yn y Rhaglen. Dymunodd ddiolch i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’i staff am eu gwaith wrth baratoi’r gyllideb. Diolchodd hefyd i’r Deilydd Portffolio Cysgodol, y Cynghorydd Llinos M. Huws am fynychu nifer o gyfarfodydd ynglŷn â gosod y gyllideb ar gyfer 2016/17 ynghyd â’r gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r holl Aelodau Etholedig mewn amryw o seminarau a chyfarfodydd sydd wedi digwydd.

 

Adroddodd oherwydd yr arbedion a gyflawnwyd ei bod wedi bod yn bosib cynyddu cyllideb rhai gwasanaethau pwysig sydd dan bwysau. Bydd cyllideb y Gwasanaethau Plant ar gyfer  2016/17 yn cael ei chynyddu £500k i adlewyrchu’r pwysau cynyddol ar y gwasanaeth. Bydd cyllideb y Gwasanaethau Oedolion ar gyfer  2016/17 yn cael ei chynyddu tua £300k, a defnyddiwyd £400k o gronfeydd wrth gefn i gynyddu’r gyllideb ddirprwyedig i ysgolion ar gyfer 2016/17.

 

Oherwydd sylwadau yn ystod y broses ymgynghori cyhoeddus a thrafodaethau’r pwyllgor sgriwtini, bu’n bosib gostwng y cynnydd i’r Dreth Gyngor i 3.5% yn hytrach na 4.5% fel y cynigiwyd yn wreiddiol. Roedd y Deilydd Portffolio o’r farn fod y cynnydd yn cymharu’n dda gydag awdurdodau lleol eraill yng ngogledd Cymru. Roedd yn croesawu llwyddiant y Cyngor gyda’i raglen moderneiddio ysgolion a’r cyfleuster Gofal Ychwanegol yn Llangefni. Gyda dros £1m yn cael ei ychwanegu at gronfeydd wrth gefn yr awdurdod y llynedd, ystyriai fod y Cyngor mewn sefyllfa gadarn ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, dywedodd y Deilydd Portffolio (Cyllid) y byddai cyllideb y Cyngor ar gyfer 2017/18 yn dal i fod yn heriol a bydd yn rhaid i wasanaethau gael eu trawsnewid a bydd rhaid cwblhau’r prosiect Gweithio’n Gallach.

 

Roedd y Deilydd Portffolio Cysgodol ar gyfer Cyllid, y Cynghorydd Llinos M. Huws hefyd eisiau diolch i Swyddogion yr Adran Gyllid am eu gwaith o baratoi’r gyllideb. Fodd bynnag, dywedodd ei bod yn bryderus fod y Dreth Gyngor yn cynyddu 3.5%. Dywedodd y Cynghorydd Huws y byddai’n ymatal rhag pleidleisio oherwydd y toriad o 2% i’r setliad i lywodraeth leol ar gyfer cyllideb 2016/17 gan Lywodraeth Cymru. Nododd fod ganddi bryderon difrifol y byddai’r Awdurdod yn wynebu toriadau pellach i’w gyllideb eto y flwyddyn nesaf.

 

Roedd Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn absenoldeb y Cadeirydd, hefyd eisiau diolch i’r Swyddogion a’r holl Aelodau am eu gwaith o baratoi ar gyfer cyllideb 2016/17. 

 

Roedd Aelodau’r Wrthblaid o’r farn y byddai’r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn effeithio ar deuluoedd ifanc gyda phlant a’r henoed. Codwyd pryderon ynglŷn â chyflwr ysgolion h.y. toeau’n gollwng, toiledau mewn cyflwr gwael iawn a ffenestri sydd angen eu hamnewid. 

 

Ar ôl ystyried y papurau fel pecyn sengl a’r sylwadau a wnaed yn y cyfarfod heddiw, cymerwyd pleidlais ar y gyllideb derfynol oedd yn cael ei chynnig gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2016/17. Roedd y bleidlais fel a ganlyn:- 

 

O  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adolygiad Canol Blwyddyn – Rheoli Trysorlys 2015/16 pdf eicon PDF 765 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor ei gymeradwyo, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori adolygiad o’r sefyllfa canol blwyddyn yng nghyswllt gweithgarwch Rheoli Trysorlys.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Derbyn yr adroddiad adolygiad canol blwyddyn ar Reoli’r Trysorlys.

 

·      Cyfeirio’r adroddiad at y Pwyllgor Archwilio iddo ei adolygu a rhoi adborth.

 

7.

Premiymau’r Dreth Gyngor ar gyfer Ail Gartrefi ac Eiddo sydd wedi bod yn wag am Gyfnod Hir pdf eicon PDF 401 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ynghylch a ddylid codi premiymau’r Dreth Gyngor ar anheddau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir neu anheddau y mae rhywun yn byw ynddynt yn achlysurol (gelwir yn ail gartrefi fel arfer) o 1 Ebrill 2017 ymlaen, ac os penderfynir gwneud hynny, pennu pa ganran o bremiwm y Dreth Gyngor y dylid ei godi ar anheddau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir ac ail gartrefi o 1 Ebrill 2017 ymlaen.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod newidiadau deddfwriaethol wedi dod i rym yn sgil Deddf Tai (Cymru) 2014 oedd yn rhoi pwerau dewisol i awdurdodau lleol benderfynu codi premiwm ar anheddau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir neu ail gartrefi (neu’r ddau). Roedd Deddf 2014 yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 drwy roi dwy adran newydd i mewn ynddi, sef 12A a 12B, sy’n galluogi awdurdod sy’n bilio (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol) yng Nghymru i dynnu unrhyw ddisgownt a roddir i anheddau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir neu anheddau y mae rhywun yn byw ynddynt yn achlysurol, a chodi swm uwch o’r dreth gyngor (premiwm). Bydd gan awdurdodau lleol yn awr y dewis i benderfynu ar faint o bremiwm i’w godi, o 0% hyd at uchafswm o 100% o gyfradd safonol y dreth gyngor sy’n berthnasol i’r eiddo. Gall awdurdod sy’n bilio wneud, amrywio neu ddiddymu penderfyniad a wnaed dan Adrannau 12A a 12B y Ddeddf, ond dim ond cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’r penderfyniad yn ymwneud â hi. Ar gyfer ail gartrefi fodd bynnag, mae’n rhaid i awdurdod sy’n bilio wneud ei benderfyniad cyntaf dan Adran 12B o leiaf flwyddyn cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y bydd y premiwm yn berthnasol iddi. Golyga hyn er mwyn codi premiwm o 1 Ebrill 2017 bod rhaid i awdurdod sy’n bilio wneud ei benderfyniad ar gyfer ail gartrefi cyn 1 Ebrill 2016. Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth, 2016 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor llawn y dylid gosod Premiwm y Dreth Gyngor ar 25% o gyfradd safonol y Dreth Gyngor ar gyfer anheddau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir ac anheddau y mae rhywun yn byw ynddynt yn achlysurol (sef ail gartrefi).

 

Nododd yr aelodau fod angen dybryd am dai i deuluoedd ifanc lleol ar yr Ynys ac roeddent yn cefnogi’r cynnydd yn y Premiwm Dreth Gyngor. Dywedwyd fod angen i dai gwag fod ar gael i’w rhentu neu i’w prynu mewn cymunedau lleol. Roedd rhai o’r Aelodau’n ystyried y dylid cynyddu Premiwm y Dreth Gyngor 30%.

 

PENDERFYNWYD:-

 

1. Bod Cyngor Sir Ynys Môn (“Cyngor Llawn”), fel awdurdod bilio yng Nghymru, yn defnyddio ei bwerau dewisol, o dan adrannau 12A a 12B Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) fel y’i mewnosodwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) i ddatgymhwyso unrhyw ddisgownt/disgowntiau a ganiatawyd i anheddau gwag hirdymor ac anheddau a feddiennir yn achlysurol (a elwir fel arfer yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Polisi Trwyddedu pdf eicon PDF 955 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar adolygiad o Bolisi Trwyddedu’r Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad a’r Polisi Trwyddedu diwygiedig.

9.

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd - Amserlen Cytundeb Cyflawni pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar y broses a ddilynwyd  yn cynnwys cyfeiriad  i’r Asesiad o’r effaith ar y Iaith Gymraeg a chynaliadwyedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar y broses a ddilynwyd, a chyfeiriwyd at yr Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg a chynaladwyedd. 

 

Amlinellodd y Deilydd Portffolio (Cynllunio) y broses roedd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn ei dilyn yn ei waith ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Yn unol â’r cytundeb rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Môn, roedd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi ystyried yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer y Cytundeb Cyflawni yn ei gyfarfod ar 29 Ionawr, 2016. Penderfynodd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd argymell bod y ddau Gyngor yn cymeradwyo’r amserlen ddiwygiedig yn unigol, sef yr amserlen a welir yn Atodiad 1 yr adroddiad. Rhoddodd Cyngor Gwynedd ystyriaeth i’r adroddiad yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth, 2016 a phenderfynodd gymeradwyo’r amserlen. Nodwyd, pan fydd y Cynghorau wedi cymeradwyo’r amserlen ddiwygiedig, bydd y Cytundeb Cyflawni’n cael ei ddiwygio’n unol â hynny a’i anfon i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth.

 

Codwyd cwestiynau pam nad oedd Asesiad Iaith Gymraeg annibynnol wedi cael ei gynnal yng nghyswllt y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Atebodd y Rheolwr Cynllunio (Polisi) fod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi cynnal Asesiad Iaith Gymraeg ei hun ar ran Cynghorau Môn a Gwynedd a’i bod wedi defnyddio methodoleg gydnabyddedig i wneud y gwaith. Nododd fod y fethodoleg yn ymdrin â’r mater mewn ffordd holistaidd, gan gydnabod bod bywyd yn y cymunedau wedi newid dros y blynyddoedd, sydd oll yn cael effaith ar yr iaith Gymraeg. Ystyrir bod y sawl sy’n cynllunio defnydd tir mewn sefyllfa dda i allu ystyried a dod i farn ddeallus ar y mater. Dymunai’r Swyddog Monitro nodi, o dan Gyfansoddiad y Cyngor nid oes gan y Cyngor yr awdurdod i awgrymu y dylid cynnal asesiad iaith gwahanol. Mae’r Cyngor wedi gweithio ar y cyd â Chyngor Gwynedd ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac mae hyn yn cyfyngu unrhyw newidiadau fel y nodir uchod.

 

Cynigiodd yr Wrthblaid y byddai cyfnod o adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn rhoi cyfle i ailymweld â’r mater a hoffai wneud y pwynt yn glir y dylid cynnal Asesiad Iaith Gymraeg annibynnol fel rhan o’r cyfle hwnnw. Fe wnaeth aelodau’r Wrthblaid ymatal rhag pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD bod Cyngor Sir Ynys Môn yn cymeradwyo’r amserlen ddiwygiedig (ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad), ar gyfer paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd er mwyn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol.

 

10.

Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer Rheoli Asedau (Tir ac Adeiladau) pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn perthynas â’r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol ar gyfer Tir ac Adeiladau 2015/2020.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol ar gyfer Tir ac Adeiladau am y cyfnod 2015/2020.

 

11.

Penderfyniadau Gweithredol Brys

Rhoi gwybod, er gwybodaeth, am y penderfyniadau brys a ganlyn a wnaed yn unol â Rhan 4.5.16.10 y Cyfansoddiad.

 

1.  3 Chwefror 2016 – Adroddiadyn awdurdodi caffael rhanbarthol (cefnogaeth i ysgolion) a sicrhau’r pris gorau (gwybodaeth yn y ddolen sydd ynghlwm).

 

http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/r/f/o/Binder---Capita-Sims_Cymraeg_CYHOEDDUS.pdf

 

2.  4 Chwefror 2016 – Adroddiad yn rhyddhau arian i drwsio difrod a achoswyd i ganolfannau hamdden gan stormydd fel nad oes angen eu cau am gyfnod dros dro (gwybodaeth yn y ddolen sydd ynghlwm).

 

http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/j/i/t/Arweinydd_050216.pdf

 

3.  22 Chwefror 2016 – Adroddiad ar ddatblygiad Tai Gofal Ychwanegol, Llangefni i gwrdd ag amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer derbyn grant ac i sicrhau na chollir cymorth grant (gwybodaeth yn y ddolen sydd ynghlwm).

 

http://democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/g2978/Penderfyniadau%2022ain-Chwe-2016%2009.00%20Pwyllgor%20Gwaith.pdf?T=2&LLL=1

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd, er gwybodaeth, y penderfyniadau brys a ganlyn gan y Pwyllgor Gwaith a wnaed yn unol ag adran 4.5.16.10 y Cyfansoddiad.

 

·           3 Chwefror, 2016 – Adroddiad yn awdurdodi caffael rhanbarthol (cefnogaeth i ysgolion) a sicrhau’r prisiau gorau (mae dolen i wybodaeth yn yr agenda);

·           4 Chwefror, 2016 – Adroddiad yn awdurdodi rhyddhau arian i drwsio difrod a achoswyd gan stormydd mewn canolfannau hamdden fel nad oes angen eu cau dros dro (mae dolen i wybodaeth yn yr agenda);

·           22 Chwefror, 2016 – Adroddiad ar y Datblygiad Tai Gofal Ychwanegol, Llangefni i fodloni amserlen grantiau Llywodraeth Cymru a sicrhau na chaiff y grant ei golli (mae dolen i wybodaeth yn yr agenda).

 

 

12.

Ymgynghoriad Horizon Ionawr 2016 - Diweddariad ar Brosiect Wylfa Newydd a ffeithlenni ar brosiectau

Y Prif Weithredwr i adrodd ar yr angen i ymateb i’r adroddiad, gan gynnwys trefnu sesiwn friffio ar gyfer Aelodau a pharatoi ymateb y Cyngor mewn ymgynghoriad gyda’r arweinyddion grŵpiau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr adroddiad llafar ar yr angen i ymateb i Ymgynghoriad Horizon, Ionawr 2016 – Diweddariad ar Brosiect Wylfa Newydd a Ffeithlenni ar Bynciau, erbyn 24 Mawrth, 2016.  Yn dilyn sesiynau briffio ar y mater bydd ymateb y Cyngor yn cael ei ymgorffori ar ôl ymgynghori gydag Arweinyddion y Grwpiau i roi cyfle i’r Aelodau Etholedig ymateb i’r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r awdurdod i’r Prif Weithredwr ymateb ar ran y Cyngor i Ymgynghoriad Horizon, Ionawr 2016 mewn ymgynghoriad ag Arweinyddion y Grwpiau.

13.

Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 69 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitoro wrth y Cyngor mai pwrpas Eitem 14 – Datganiad ar y Polisi Tâl ar yr Rhaglen yw i’r Cyngor dderbyn y Datganiad Polis Tâl  ar gael wedi hynny ar wefan y Cyngor Sir.  Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno canllawiau ond nid gofynion statudol y dylai’r eitem gael ei thrafod yn gyhoeddus.  Nododd fod y mater wedi cael ei roi o dan y pennawd ‘Cau Allan y Wasg a’r Cyhoedd’ i roi cyfle i’r Cyngor drafod unrhyw fater yr ystyrir sy’n gyfrinachol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, gan y byddai’r adroddiad ar gael wedi hynny ar wefan y Cyngor ac oherwydd y newidiadau a’r arbedion a waned yn ddiweddar i’r Uwch Dim Arweinyddiaeth, ei fod yn ystyried na ddylai’r mater gael ei drafod yn breifat.

 

PENDERFYNWYD na ddylid cau allan y wasg a’r cyhoedd ar gyfer Eitem 14 – Datganiad Polisi Tâl ac y dylai gael ei thrafod mewn sesiwn agored.

14.

Datganiad ar y Polisi Tâl

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio (Rheolwr Busnes y Pwyllgor Gwaith, Perfformiad, Trawsnewid, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol) fod Deddf Lleoliaeth 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ddatblygu a chyhoeddi eu polisi tâl ar bob agwedd o Gyflogau Prif Swyddogion.  Roedd yn dymuno diolch i’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a’i staff am eu gwaith wrth gwblhau’r broses arfarnu swyddi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad ar y Polisi Tâl ar gyrer 2016/17.