Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mr Huw Jones
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Mawrth, 2016.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar 10 Mawrth, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:
• Llongyfarchiadau i Mr Rhun ap Iorwerth ar gael ei ailethol yn Aelod Cynulliad dros Ynys Môn a dymuniadau gorau iddo yn y swydd. • Llongyfarchiadau i Mr Arfon Jones ar gael ei ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gogledd Cymru. • Dymuniadau gorau i bawb sy’n cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhelir yn Sir y Fflint ddiwedd y mis hwn. • Dymuniadau gorau i bawb sy’n cystadlu yn y Sioe Wanwyn a gynhelir yn Llanfair-ym-Muallt y mis hwn. • Dymuniadau gorau i bawb sy'n cymryd rhan yn y Rali Ffermwyr Ifanc ar 14 Mai, 2016. • Cydymdeimlwyd â theulu'r cyn-gynghorydd David Lewis Roberts a fu farw'n ddiweddar. • Cydymdeimlwyd â’r cyn-gynghorydd Mrs Fflur Hughes a'i theulu ar eu profedigaeth yr wythnos ddiwethaf. • Cydymdeimlwyd hefyd ag unrhyw Aelod Etholedig neu unrhyw aelod o staff y Cyngor sydd wedi cael profedigaeth.
Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn tawelwch fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled Morris Jones at y gwaith gwych a wnaed gan Arweinyddion Clwb Ieuenctid Penysarn, Carol Whittaker a Gordon Hayes, a phobl ifanc y clwb sydd wedi ymchwilio i'r cysylltiadau lleol o fewn y Rhyfel Byd Cyntaf ac sydd wedi llwyddo i egluro cysylltiadau teuluol unigolyn nad oedd neb yn gwybod ei hanes cyn hynny ac a enwir ar y Gofeb Ryfel ym Mhenysarn. Gofynnodd i'r Cadeirydd ysgrifennu at bobl ifanc Clwb Ieuenctid Pensarn i gydnabod eu gwaith. |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni oedd yr un ddeiseb wedi ei derbyn yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2015/16 PDF 119 KB Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â pharagraff 4.1.16 y Cyfansoddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol gan Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2015/16.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at rai o'r materion allweddol yr oedd y Weinyddiaeth wedi eu hwynebu yn y flwyddyn a aeth heibio fel a ganlyn:
• Pwysau parhaus yn sgil gostyngiadau cyllidebol a'r her o ddarparu gwasanaethau o fewn cyd-destun o lymder ariannol. • Ailstrwythuro'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. • Sicrhau cynnydd yn erbyn amcanion y Cynllun Corfforaethol – Cynllun Gwella tymor hir y Cyngor – o dan ei chwe phrif thema. • Datblygiadau eraill yn cynnwys cadarnhau cyfranogiad yr Awdurdod yng Nghynllun y Swyddfa Gartref ar gyfer Adleoli Unigolion Bregus Syria; gweithio i adnabod safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr; croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i'r Ynys yn 2017 a chwarae rhan yn natblygiad Wylfa Newydd.
Gorffennodd yr Arweinydd ei adroddiad drwy ddiolch i'r Prif Weithredwr, yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Penaethiaid Adran a holl staff y Cyngor am eu gwaith caled a'u hymroddiad dros y flwyddyn ddiwethaf. Mynegodd hefyd ei werthfawrogiad o'r gefnogaeth a roddwyd gan ei gyd-gynghorwyr.
Rhoddwyd cyfle i’r Cyngor ofyn cwestiynau i'r Arweinydd ar gynnwys yr Adroddiad Blynyddol. Ceisiwyd a rhoddwyd eglurhad mewn perthynas â'r materion canlynol:
• Er mwyn rhoi hwb i'r economi leol, bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cyfleoedd i gwmnïau sy’n lleol i Ynys Môn a'r ardal sydd union gyfagos yng nghyd-destun y datblygiadau Ynys Ynni ac yn enwedig y gwaith paratoi ar gyfer datblygu Wylfa Newydd. • Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi ar yr adeg briodol i gynyddu cyfranogiad yr Awdurdod yng Nghynllun y Swyddfa Gartref ar gyfer Adleoli Unigolion Bregus Syria drwy roi noddfa i fwy o ffoaduriaid bregus o Syria na’r 10 o deuluoedd / 30 o unigolion y gwnaed ymrwymiad yn eu cylch dros y tair blynedd nesaf. • O ran y rhaglen Ynys Ynni a datblygiad Wylfa Newydd, bydd pob ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r angen i liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar gymunedau ac yn enwedig ar bentref Tregele a'i drigolion fel cymuned a fydd yn gweld gwaith adeiladu mawr.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys. |
|
Safonau'r Gymraeg a Pholisi Iaith y Cyngor PDF 836 KB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Gwella, Partneriaethau, Cymunedau a Gwasanaethau).
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w gymeradwyo gan y Cyngor, adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) a oedd yn ymgorffori drafft o’r Polisi Iaith Gymraeg arfaethedig.
Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill, 2016 wedi penderfynu –
• Cymeradwyo’r Polisi Iaith ac awdurdodi’r swyddogion perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio, i gwblhau unrhyw waith golygu pellach i’r polisi drafft cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn; • Argymell i’r Cyngor Sir y dylid mabwysiadu Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor fel mater o ddewis lleol a newid Fframwaith Polisi’r Cyngor fel a ganlyn er mwyn adlewyrchu hynny:
· Dileu ‘Cynllun Iaith Gymraeg’ o’r rhestr o gynlluniau y mae’n rhaid i’r Cyngor eu mabwysiadu yn ôl y gyfraith (rhan 3.2.2.1.1 y Cyfansoddiad); · Cynnwys y ‘Polisi Iaith Gymraeg’ o dan y rhestr o’r cynlluniau a’r strategaethau eraill y penderfynodd y Cyngor y dylai’r Cyngor llawn eu mabwysiadu fel mater o ddewis lleol (rhan 3.2.2.1.3 y Cyfansoddiad).
Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) ar y cyd-destun a dywedodd y bydd cynnydd yn cael ei fonitro’n flynyddol.
Cynigiodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws welliant i baragraff 3.2.4 y Polisi i'r perwyl y bydd y Cyngor yn monitro cynnydd yn flynyddol trwy gyhoeddi adroddiad arno i’w gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini ar yr un pryd â'r adroddiad blynyddol ar weithrediad y Polisi Iaith Gymraeg. Eiliodd y Cynghorydd R. Meirion Jones y cynnig a chymeradwywyd y gwelliant gan y Cyngor.
Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith a chymeradwyo'r Polisi Iaith Gymraeg ar gyfer y Cyngor, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad yn amodol ar y newid i baragraff 3.2.4 a amlinellwyd. |
|
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol PDF 100 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill, 2016.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Cyngor ei gymeradwyo, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) a’r Swyddog Monitro ynglŷn â dirprwyo grymoedd a ymgorfforir yn Neddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 i swyddogion priodol yn y Cyngor.
Dywedwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill, 2016 wedi penderfynu fel a ganlyn:
Argymell i'r Cyngor llawn ei fod yn:
• Mabwysiadu'r pwerau a gynhwysir yn Neddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol,Trosedd a Phlismona 2014 mewn perthynas â gwaharddebau sifil, rhybuddion a gorchmynion gwarchod cymunedol, rhybuddion a gorchmynion cau, rhesymau absoliwt ar gyfer cael meddiant o anheddau, gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus a gorchmynion cau adeiladau. • Cytuno i ddiwygio'r cynllun dirprwyo i swyddogion yn y Cyfansoddiad er mwyn dirprwyo’r hawl i weithredu’r pwerau fel y cawsant eu mabwysiadu ymhlith y Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. • Rhoi awdurdod i'r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro wneud y newidiadau angenrheidiol i'r cynllun dirprwyo i swyddogion yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r ffaith fod y pwerau a gynhwysir yn y Ddeddf y sonnir amdanynt yn yr adroddiad hwn wedi cael eu mabwysiadu a’u dirprwyo.
Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith, a
• Mabwysiadu'r pwerau a gynhwysir yn Neddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 mewn perthynas â gwaharddebau sifil, rhybuddion a gorchmynion gwarchod cymunedol, rhybuddion a gorchmynion cau, rhesymau absoliwt ar gyfer cael meddiant o anheddau, gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus a gorchmynion cau adeiladau. • Cytuno i ddiwygio'r cynllun dirprwyo i swyddogion yn y Cyfansoddiad er mwyn dirprwyo’r hawl i weithredu’r pwerau fel y cawsant eu mabwysiadu ymhlith y Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. • Rhoi awdurdod i'r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro wneud y newidiadau angenrheidiol i'r cynllun dirprwyo i swyddogion yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r ffaith fod y pwerau a gynhwysir yn y Ddeddf y sonnir amdanynt yn yr adroddiad hwn wedi cael eu mabwysiadu a’u dirprwyo. |
|
Côd Ymddygiad Newydd ar gyfer Aelodau PDF 79 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w gymeradwyo gan y Cyngor, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn nodi newidiadau i'r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau.
Penderfynwyd -
• Nodi'r newidiadau yn y Côd. • Awdurdodi'r Swyddog Monitro i newid y Cyfansoddiad i ymgorffori'r newidiadau i'r Côd a chyhoeddi'r newidiadau yn unol â gofynion Adran 51 (b) Deddf Llywodraeth Leol 2000. |
|
Dogfen Gyflawni Flynyddol (Cynllun Gwella) 2016/17 PDF 931 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w gymeradwyo gan y Cyngor, adroddiad y Pennaeth Trawsnewid a oedd yn ymgorffori'r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ddrafft ar gyfer 2016/17.
Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill, 2016 wedi penderfynu fel a ganlyn:
• Awdurdodi Swyddogion trwy'r Aelod Portffolio i ymgymryd â'r dasg o gwblhau'r drafft terfynol ac argymell i’r Cyngor llawn fabwysiadu'r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2016/17 yn ei gyfarfod a gynhelir ar 12 Mai, 2016. • Cadarnhau bod modd cyflawni’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol fel cynllun sy'n nodi gwaith y Cyngor ac sydd wedi’i alinio â blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol y rhaglennwyd eu cyflawni yn ystod 2016/17.
Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith a chymeradwyo'r Ddogfen Gyflawni Flynyddol (Cynllun Gwella) ar gyfer 2016/17. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer 2015/16 PDF 969 KB Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer 2015/16 gan y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.
Crynhodd y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones waith y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ystod y flwyddyn a chyfeiriodd yn benodol at bwysigrwydd Rheoli Risg, Gweithgareddau Atal Twyll a monitro sut mae Rheolwyr yn gweithredu argymhellion Archwilio o ran gwaith y Pwyllgor ac i sicrhau bod trefniadau llywodraethu corfforaethol y Cyngor yn gadarn.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys. |
|
Adroddiad Blynyddol Sgriwtini 2015-16 PDF 642 KB Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Sgriwtini ar gyfer 2015/16 gan y Cynghorydd R. Meirion Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a chan y Cynghorydd Derlwyn Hughes, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.
Cyfeiriodd Cadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini at rôl esblygol sgriwtini ac at effeithiolrwydd y defnydd cynyddol a wnaed yn ystod y flwyddyn o banelau canlyniad sgriwtini i gynnal adolygiadau manwl o feysydd penodol yn ogystal â sgriwtini cyn gwneud penderfyniad er mwyn helpu i lunio a llywio penderfyniadau.
Penderfynwyd -
• Nodi a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Sgriwtini ar gyfer 2015/16 • Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn "Eiriolydd Sgriwtini" o fis Mai, 2016 i fis Mai, 2017. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2015/16 PDF 150 KB Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2015/16 gan y Cynghorydd Vaughan Hughes, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi'r materion a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2015/16. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau PDF 214 KB Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2015/16 gan Mr Mike Wilson, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.
Crynhodd Mr Mike Wilson y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Safonau yn erbyn yr amcanion yn ei Raglen Waith ar gyfer 2015/16 fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a chyfeiriodd yn benodol at batrwm o welliant o ran nifer y cwynion ac at yr adolygiad o’r Cofrestrau o Diddordebau Aelodau a chanlyniad yr adolygiad. Bydd ffocws y Pwyllgor yn 2016/17 ar baratoi ar gyfer yr hyfforddiant a fydd yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai, 2017.
Penderfynwyd:
• Nodi gweithgareddau'r Pwyllgor Safonau yn 2015/16. • Cymeradwyo Rhaglen y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2016/17 fel yr amlinellwyd hi yn Atodiad B yr adroddiad. |