Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Blynyddol, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 12fed Mai, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2016/17.

 

(Cyfeirir yr Aelodau at Drefn y Busnes yng nghyswllt y seremoni i ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir a ddosberthir yn y cyfarfod).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS yn Gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2016/17.

 

Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi, sicrhaodd y Cynghorydd Parry y byddai'n ymdrechu i gyflawni ei ddyletswyddau fel Cadeirydd hyd eithaf ei allu.  Diolchodd i'w ragflaenydd, y Cynghorydd Jim Evans am y ffordd urddasol ac anrhydeddus yn yr oedd wedi cyflawni ei ddyletswyddau dinesig fel Cadeirydd y Cyngor Sir. 

 

Diolchodd y Cadeirydd ymadawol, y Cynghorydd Jim Evans, i’r holl Aelodau a'r Swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod ei gyfnod yn y swydd ac yn arbennig i'r Adran Gwasanaethau  Democrataidd. Rhoddodd y Cynghorydd Evans grynodeb o uchafbwyntiau ei flwyddyn fel Cadeirydd y Cyngor gan gynnwys codi £ 2,800 yn ystod y Noson Elusennol a gynhaliwyd yng Ngwesty Carreg Bran, Llanfairpwll.  Rhannwyd yr arian a godwyd rhwng Tŷ Gobaith a Ward  Plant Ysbyty Gwynedd.

 

2.

Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2016/17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Richard O. Jones yn Is-Gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2016/17.

 

Diolchodd y Cynghorydd Richard O. Jones i'w gyd-Aelodau am yr anrhydedd a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Cadeirydd a’i gynorthwyo yn ei ddyletswyddau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

 

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai gwasanaeth Sul y Cadeirydd yn cael ei gynnal yng Nghapel Moriah, Llangefni ar 3 Gorffennaf, 2016.

 

4.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw eitem ar y Rhaglen gan unrhyw Aelod neu Swyddog.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod rhai Aelodau o'r Cyngor Sir wedi holi a ddylent ddatgan diddordeb mewn perthynas ag Eitem 9 - Cynllun Taliadau Cydnabyddiaeth Aariannol i Aelodau 2016/17.  Ymatebodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro bod yna ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 9 dan y Côd Ymddygiad i Aelodau ond bod darpariaeth yn y Côd a oedd yn dweud nad oedd y diddordeb yn un sy'n rhagfarnu ac felly gall pob Aelod gymryd rhan yn y drafodaeth ar yr eitem ar y sail honno.

 

5.

Datganiad gan yr Arweinydd/Aelodau'r Pwyllgor Gwaith

Yn unol â Pharagraff 4.4.1.2 o’r Cyfansoddiad, derbyn gwybodaeth gan yr Arweinydd ynghylch enwau’r Cynghorwyr y mae ef/hi wedi’u dewis i fod yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u cyfrifoldebau portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 y Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd yr Aelodau canlynol fel y rhai yr oedd wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio: -

 

Y Cynghorydd Richard Dew gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cynllunio a Datblygu Economaidd

Y Cynghorydd Kenneth P. Hughes gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Addysg

Y Cynghorydd Aled Morris Jones gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y Cynghorydd H. Eifion Jones gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cyllid

Y Cynghorydd J. Arwel Roberts gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Rheoli Gwastraff

Y Cynghorydd Alwyn Rowlands gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Adnoddau Dynol, Technoleg Gwybodaeth a Busnes y Cyngor

Y Cynghorydd Ieuan Williams (Arweinydd) gyda chyfrifoldeb am y Rhaglen Ynys Ynni a Phrosiectau Mawr

 

6.

Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2016/17

Ethol Cadeirydd yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Vaughan Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2016/17.

 

7.

Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau unrhyw rannau o’r Cynllun Dirprwyo y mae’n rhaid i’r Cyngor, yn unol â’r Cyfansoddiad, gytuno arnynt (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 y Cyfansoddiad).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cyfryw ran o’r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai swyddogaeth y Cyngor yw cytuno iddo fel y nodir yn Rhan 3.2 y Cyfansoddiad.

 

8.

Cydbwysedd gwleidyddol pdf eicon PDF 290 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ynghylch trefniadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD: -

 

·           Cadarnhau'r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddau a ddyrannwyd i bob un o'r Grwpiau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a nifer y seddi a roddir yn unol â defod ac arfer i Aelodau nad ydynt yn destun cydbwysedd gwleidyddol fel y nodir yn y matrics a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad;

·           Yn amodol ar yr uchod, cadarnhau bod y seddi a roddwyd i Aelodau digyswllt yn parhau ar sail y penodiadau cyfredol;

·           Bod Arweinwyr y Grwpiau yn rhoi gwybod i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted â phosib os oes unrhyw newidiadau i Aelodaeth eu Grwpiau ar Bwyllgorau.

 

9.

Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau 2016/17 pdf eicon PDF 257 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau ar gyfer 2016/17. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

·           Cadarnhau y dylai'r uwch gyflogau fod yn daladwy i'r deiliaid swyddi canlynol yn ystod 2016/17: -

 

Cadeirydd y Cyngor

Is-Gadeirydd y Cyngor

Arweinydd y Cyngor

Dirprwy Arweinydd y Cyngor

Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (5)

Cadeirydd y ddau Bwyllgor Sgriwtini

Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio

Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf

 

·           Cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2016 mewn perthynas â thalu uwch gyflogau (fel yr amlinellir ym mharagraff 2.11 yr adroddiad) a chadarnhau lefel yr uwch gyflogau yn ystod 2016/17 ar gyfer: -

 

Aelodau’r Pwyllgor Gwaith

Cadeiryddion Pwyllgorau

Pennaeth Dinesig a Dirprwy Bennaeth Dinesig

 

·           Nodi manylion eraill taliadau a lwfansau ar gyfer 2016/17 fel a ragnodir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

10.

Cyrff Allanol pdf eicon PDF 312 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn am gadarnhau’r rhestr o benodiadau a wneir i gyrff allanol.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r penodiadau fel y manylir yn yr atodlen a gyflwynwyd i'r Pwyllgor.

 

11.

Cynllun Datblygu Hyfforddiant i Aelodau - Datblygu Hyfforddiant Aelodau 2016/17 pdf eicon PDF 87 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Cynllun Datblygu Aelodau ar gyfer 2016/17.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu ac ymgymryd â’r Cynllun Hyfforddiant i Aelodau fel y nodir  yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

12.

Rhestr o Gyfarfodydd y Cyngor 2016/17 pdf eicon PDF 415 KB

i)   Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

ii)   Cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir am y flwyddyn i ddod:-

 

   27 Medi, 2016              -       2.00 pm

   15 Rhagfyr, 2016         -       2.00 pm

   28 Chwefror, 2017       -       2.00 pm

   Mai, 2017                       -       (Cyfarfod Blynyddol) – dyddiad i’w gadarnhau

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredin y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -

 

·           27 Medi 2016 am 2.00 pm

·           15 Rhagfyr  2016 am 2.00 pm

·           28 Chwefror, 2017 am 2.00 pm

·           Mai, 2017 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i'w gadarnhau.

 

13.

Cadarnhau'r Pwyllgorau

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau cyfredol canlynol fel y cyfeirir at hynny yn Adran 3.4 Cyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol :-

 

·           Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o’r Cyngor Sir)

 

·           Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau

 

·           Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol

 

·           Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig

 

·           Is-Bwyllgor Indemniadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 yng Nghyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -

 

·           Panel Tâl a Graddfeydd

·           Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau

·           Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol

·           Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig

·           Is-Bwyllgor Indemniadau