Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Huw Jones
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
· 12 Mai, 2016 (10.30 am) · 12 Mai, 2016 (2.00 pm) · 26 Mai, 2016 (Arbennig)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfodydd Cyngor Sir Ynys Môn fel a ganlyn:
• Mai 12fed, 2016 (10.30 am) • Mai 12fed, 2016 (2.00 pm) • Mai 26ain, 2016 (Arbennig) |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:
• Llongyfarchiadau i’r cystadleuwyr o Ynys Môn a fu’n llwyddiannus yn Sioe Frenhinol Cymru, Sioe Môn a’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddar; • Llongyfarchiadau i’r disgyblion ysgol uwchradd hynny a fu’n llwyddiannus yn eu harholiadau TGAU a Lefel A; • Llongyfarchiadau i aelodau staff y Cyngor sydd wedi llwyddo yn eu harholiadau ac sydd wedi cymhwyso yn eu priod feysydd; • Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Nicola Roberts sydd wedi graddio o Brifysgol Bangor yn ddiweddar; • Llongyfarchiadau i Dîm Pêl-droed Rhieni o Amlwch a enillodd y gystadleuaeth ‘Codi Gôl’ a welwyd ar S4C yn ddiweddar; • Llongyfarchiadau i Glesni Tegid o Ysgol David Hughes, Porthaethwy sydd wedi ennill gwobr ‘Myfyriwr Cymraeg y Flwyddyn’ gydag Academi Chwaraeon Sky; • Llongyfarchiadau i Cerys Davies a Harri Evans o Ysgol David Hughes, Porthaethwy sydd wedi cael eu dewis yn aelodau o Grŵp Llywio Cenedlaethol Llysgenhadon Ifanc Cymru; • Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Ann Griffith sydd wedi ei hapwyntio’n Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd; • Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd John Griffith sydd wedi priodi’n ddiweddar; • Cynhelir agoriad swyddogol derbynfa newydd ‘Cyswllt Môn’ ar Hydref 7fed, 2016.
Roedd Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn dymuno estyn ei gydymdeimlad â Chadeirydd y Cyngor Sir, Arweinydd y Cyngor a’u teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Roedd yr holl Aelodau a Swyddogion hefyd yn dymuno estyn eu cydymdeimlad â’r Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor.
Ymhellach, roedd Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn dymuno estyn neges o gydymdeimlad i unrhyw Aelod neu aelod o staff y Cyngor sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.
Safodd yr Aelodau a Swyddogion mewn tawelwch fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. |
|
Cwestiynau a dderbyniwyd dan reol 4.1.12.4 o’r cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau yn unol â Rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad. |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. |
|
Cydbwysedd Gwleidyddol PDF 90 KB Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddwyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd – bod angen i’r Cyngor adolygu trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar ei Bwyllgorau yn dilyn derbyn gwybodaeth bod un Aelod wedi ymddiswyddo o’r Grŵp Annibynnol. Yn unol â phrotocolau rheolaeth wleidyddol trafodwyd y trefniadau rheolaeth wleidyddol diwygiedig gydag Arweinwyr y Grwpiau.
PENDERFYNWYD :-
• Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddi a ddyrennir i bob un o’r Grwpiau dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a nifer y seddi a roddir yn ôl arfer a thraddodiad i’r Aelodau nad yw cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol iddynt a hynny’n ôl yr wybodaeth yn y matrics; • Yn unol â’r argymhelliad uchod, bod y Cyngor yn dirprwyo i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau, yr hawl i benderfynufaint o seddi a ddyrennir i Aelodau Digyswllt yn codi o’r newidiadau hyn a rhoi gwybod am hynny i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd; • Bod yr Arweinydd yn hysbysu’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ynghylch aelodaeth y Grŵp Annibynnol ar Bwyllgorau amrywiol yn sgil y newidiadau. |
|
Adolygiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 2015/16 PDF 794 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 25 Gorffennaf, 2016 a’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Medi, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf, 2016 a’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Medi, 2016.
PENDERFYNWYD :-
• Nodi’r ffigyrau alldro sydd yn yr adroddiad; • Nodi’r dangosyddion darbodus a thrysorlys 2015/16 dros dro. |
|
Datganiad Cyfrifon 2015/16 ac Adroddiad ISA 260 PDF 2 MB Cyflwyno Datganiad Cyfrifon ac Addroddiad Archwilio Allanol ar archwilio’r Datganiadau Ariannol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 21 Medi 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant ar 21 Medi, 2016.
PENDERFYNWYD :-
• Derbyn Datganiad Cyfrifon 2015/16; • Nodi bod y Pwyllgor Archwilio wedi derbyn y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol ac wedi ei gyfeirio at sylw Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr er mwyn iddynt ei lofnodi. |
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Trawsnewid Llywodraethiant a Phrosesau Busnes) fel Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fel Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a Chyfarwyddwr dynodedig y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad blynyddol yn adolygu effeithiolrwydd y gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn o ran ymateb i heriau a hefyd yn diffinio’r amcanion ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae’r adroddiad yn edrych yn ôl ac yn cloriannu pa mor dda mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymateb i’r meysydd gwella a gafodd eu hadnabod gan AGGCC yn ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol am 2014/15. Y meysydd a gafodd eu hadnabod yn yr adroddiad oedd y Gwasanaethau Plant lle’r oedd AGGCC wedi nodi bod y gwelliannau’n parhau i fod yn fregus. Mae nifer y plant mewn gofal wedi cynyddu’n sylweddol ac mae nifer y plant ar y gofrestr wedi cynyddu hefyd. Mae recriwtio a chadw staff profiadol wedi bod yn broblem o fewn y gwasanaeth ond mae’r sefyllfa wedi gwella erbyn hyn ac mae nifer o staff profiadol a staff newydd gymhwyso wedi ymuno â’r tîm yn ddiweddar ond mae angen rhoi digon o amser iddynt sefydlu eu hunain o fewn eu rolau gyda’r Gwasanaethau Plant.
Nododd ymhellach fod blaenoriaeth wedi cael ei rhoi i’r Gwasanaethau Plant a bod Panel o aelodau etholedig wedi’i sefydlu i fonitro gweithrediad Cynllun Gwella’r Gwasanaethau Plant ac i wella dealltwriaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Buddsoddwyd yn sylweddol yn y Gwasanaethau Plant i sicrhau fod gwasanaethau statudol yn cael eu cyflenwi ac i gydymffurfio â gofynion statudol. Mae AGGCC wedi cyhoeddi y bydd y Gwasanaethau Plant yn cael eu harolygu yn ystod yr Hydref a bydd hyn yn rhoi cyfle i arfarnu’r gwelliannau a wnaethpwyd o fewn y gwasanaeth ac adnabod faint rhagor o waith sydd angen ei wneud.
Roedd y Prif Weithredwr Cynorthwyol yn falch bod gwaith wedi dechrau ar ddatblygu cyfleuster Gofal Ychwanegol yn Llangefni.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2015/16 Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol.
|
|
Strategaeth Iaith Gymraeg PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaeth) fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Medi, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Gwella Partneriaethau, Cymunedau a Gwasanaethau) mewn perthynas â Strategaeth Iaith Gymraeg 2016-21.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Strategaeth Iaith Gymraeg 2016-21. |
|
Adolygiad o Bolisi Gamblo’r Awdurdod PDF 859 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Medi 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas ag adolygiad o Bolisi Gamblo’r Awdurdod.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Polisi Gamblo diwygiedig. |
|
Strwythur Staffio Uwch Swyddogion PDF 279 KB Cyflwyn adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol mewn perthynas â strwythur staffio diwygiedig ar gyfer y Penaethiaid Gwasanaeth.
PENDERFYNWYD derbyn strwythur staffio diwygiedig y Penaethiaid Gwasanaeth a chymeradwyo gwneud i ffwrdd â chyfeiriadau yng Nghyfansoddiad y Cyngor at swydd y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd). |