Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 2ail Chwefror, 2017 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd R.A. Dew ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 3.

2.

Derbyn unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at benderfyniad y cyn Gynghorydd Mr. Derlwyn R. Hughes I sefyll i lawr o’i rôl fel Aelod Etholedig fis diwethaf ar ôl derbyn cyngor meddygol.  Roedd Mr. Derlwyn Hughes yn cynrychioli Ward Moelfre wedi iddo gael ei ethol yn aelod o’r Cyngor Bwrdeistref yn 1989.

 

Roedd yn Ddeilydd Portffolio Hamdden ac yn fwy diweddar yn Gadeirydd y

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Mr. Derlwyn R. Hughes yn Aelod Etholedig uchel ei barch a dymunodd yn dda iddo yn y dyfodol.

______________________________________________________________

 

Atgoffodd y Cadeirydd y Cyngor fod Noson Elusennol y Cadeirydd yn cael ei

chynnal yng Ngwesty Breeze Hill, Benllech nos Wener, 24 Mawrth, 2017 am 7.00 pm.

3.

Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol pdf eicon PDF 181 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cadlywydd Steve Heneghan, Dirprwy Gadlywydd Morol Rhanbarthol Cymru a Gorllewin Lloegr a Mr. David Alexander, Cynrychiolydd y Llynges Frenhinol ar Ynys Môn.

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn

perthynas â chaniatáu Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges

Frenhinol.

 

Ym mis Rhagfyr 2013, cymeradwywyd y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cyngor Sir:-

 

Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn gofyn i Gyngor Sir Ynys Môn roi Rhyddid y Sir i’r Llynges Brydeinig a Chymdeithas y Llynges Fasnachol. Mae hyn i gydnabod iddynt gadw’n ddiogel y ffyrdd mordwyo a’r fasnach sy’n bodoli rhwng y Deyrnas Gyfunol a gweddill y Byd. Dylid ystyried y seremoni Rhyddfraint hon fel digwyddiad I gofio Rhyfel Mawr 1914-18 a Choffáu 70 o flynyddoedd ers Brwydr Môr Iwerydd.”

 

I ganiatáu Rhyddid y Sir nodwyd bod angen trefnu protocolau a gweithdrefnau ac achlysur seremonïol er mwyn cwrdd â rhai meini prawf penodol. Byddai angen dilyn y gweithdrefnau canlynol:-

 

Cyflwyno adroddiad i Gyfarfod Arbennig o’r Cyngor sy’n argymell y dylai’r Cyngor, gan ddefnyddio ei bwerau dan Adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1972, ystyried cynnig Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol. Mae angen mwyafrif o ddwy ran o dair o’r Cyngor i gymeradwyo’r penderfyniad a bydd cynrychiolwyr o’r Llynges Frenhinol yn bresennol yn eu

lifrai er mwyn derbyn y cynnig ar ran y Llynges Frenhinol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Aled M. Jones hanes y Llynges Frenhinol a’i

chysylltiadau ag arfordir Ynys Môn a Gogledd Cymru. Cyfeiriodd at y Gwasanaeth Llongau Tanfor a’r hanes o weithredoedd arwrol yn ystod y ddau Ryfel Byd.  Cyfeiriodd at Mr. William Williams o Amlwch a dderbyniodd y Groes Fictoria am ei ddewrder wrth wasanaethu fel morwr yn y Llynges Frenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Cydweithiodd y Llynges Frenhinol a’r Llynges Fasnachol yn llwyddiannus yn ystod Rhyfel y Falklands ym 1982. Chwaraeodd gŵr lleol o Amlwch, yr Is-gapten Keith Mills o’r Forlu Frenhinol, ran allweddol yn yr ymgyrch i amddiffyn De Georgia yn ystod Rhyfel y Falklands.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Ll. Jones fod gan Wasanaeth Llongau Tanfor y

Llynges Frenhinol gysylltiadau cryf â Chaergybi. Cyfeiriodd at achos trasig y llong danfor HMS Thetis a suddodd ger arfordir Ynys Môn yn 1939 gan golli 99 o fywydau. Roedd urddas pobl Caergybi yn aruthrol a chladdwyd y dynion ifanc mewn seremoni filwrol lawn ym Mynwent Maeshyfryd yng Nghaergybi.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol bod Cyngor Sir Ynys Môn yn caniatáu Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol a bod trefniadau yn cael eu gwneud i gynnal Seremoni Rhyddid y Sir yng Nghaergybi yn ystod penwythnos olaf mis Mehefin 2018.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cadlywydd Steve Heneghan i annerch y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cadlywydd Heneghan, ar ran Prif Arglwydd y Morlys a Phennaeth Staff y Morlys yr Arglwydd Lyngesydd Syr Philip Jones KCB ADC, ei bod yn bleser o’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.