Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am
2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Richard O Jones yn unfrydol fel Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2017/18.
Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi, sicrhaodd y Cynghorydd R O Jones y byddai'n ymdrechu i gyflawni ei ddyletswyddau fel Cadeirydd hyd eithaf ei allu. Diolchodd i'w ragflaenydd, y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS am y ffordd anrhydeddus yr oedd wedi cyflawni ei ddyletswyddau dinesig fel Cadeirydd y Cyngor Sir.
Diolchodd y Cadeirydd ymadawol, y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS, i’r holl Aelodau a Swyddogion am eu cymorth yn ystod ei gyfnod yn y swydd ac yn arbennig i’r Adran Gwasanaethau Democrataidd. Rhoddodd y Cynghorydd Parry grynodeb o uchafbwyntiau ei flwyddyn fel Cadeirydd y Cyngor Sir, gan gynnwys codi £3,100 yn ystod y Noson Elusennol a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Breeze Hill, Benllech. Rhannwyd yr arian rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a Cynnal Gofalwyr Ynys Môn.
|
|
Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dylan W. Rees yn Is-Gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2017/18.
Diolchodd y Cynghorydd Dylan W. Rees i'w gyd-Aelodau am yr anrhydedd a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Cadeirydd a’i gynorthwyo gyda’i ddyletswyddau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol am ei gyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd y mae ei dymor yn dod i ben. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyniad gan Ymgeisydd i gefnogi ei Henwebiad i fod yn Arweinydd y Cyngor PDF 472 KB Yn unol â Pharagraff 2.7.3.1 y Cyfansoddiad, ar ôl cyflwyno cyflwyniad ysgrifenedig (maniffesto) eisoes i’r Prif Weithredwr cyn 5:00 pm ar 11 Mai 2017 (a gefnogwyd gan ddau Gynghorydd arall trwy ysgrifennu i’r perwyl at y Prif Weithredwr), bydd yr ymgeisydd canlynol yn rhoi cyflwyniad llafar ar ei gweledigaeth a'i gwerthoedd: -
Y Cynghorydd Llinos Medi Huw
[Nodyn 1: Gofynnir i’r sawl a enwebwyd, i gyflwyno ei chynigion a’i rhaglenni i'r Cyngor, a dylid disgwyl iddi gymryd cwestiynau gan Aelodau].
[Nodyn 2: Ni ddylai cyflwyniadau gymryd mwy na 10 munud ac ni chaniateir i unrhyw gwestiynau o'r llawr gymryd mwy na 10 munud; caniateir dim mwy nag 20 munud felly ar gyfer yr ymgeisydd]. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 2.7.3.1 y Cyfansoddiad, wedi iddi anfon cyflwyniad ysgrifenedig (maniffesto) eisoes at y Prif Weithredwr cyn 5.00 pm, ar 11 Mai, 2017 (a gefnogwyd gan ddau Gynghorydd arall trwy ysgrifennu i’r perwyl at y Prif Weithredwr), cafwyd cyflwyniad llafar gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws ar ei gweledigaeth a'i gwerthoedd.
|
|
Penodi Arweinydd ar gyfer y Cyngor Sir Ethol Arweinydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn (fel arfer am dymor o 5 mlynedd) yn unol ag Erthygl 7, ac yn benodol y rheolau gweithdrefn dan baragraffau 2.7.3.1 a 2.7.3.2 yng Nghyfansoddiad y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unfrydol i ethol y Cynghorydd Llinos Medi Huws yn Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn am gyfnod o 5 mlynedd yn unol ag Erthygl 7 ac yn benodol y rheolau gweithdrefn o dan baragraffau 2.7.3.1 a 2.7.3.2 yng Nghyfansoddiad y Cyngor.
|
|
Dirprwy Arweinydd y Cyngor Arweinydd y Cyngor i roi gwybod i’r Cyngor pwy y mae wedi ei dewis / ddewis i fod yn Ddirprwy Arweinydd (bydd raid i’r Dirprwy Arweinydd fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith).
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd Arweinydd y Cyngor wrth y Cyngor ei bod wedi penodi'r Cynghorydd Ieuan Williams i wasanaethu fel Dirprwy Arweinydd. Dywedodd y Cynghorydd Williams na fyddai'n derbyn yr uwch gyflog ar gyfer y swydd.
|
|
Tâl Aelodau ar gyfer 2017/18 PDF 504 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y Cynllun o Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer Aelodau am 2017/18.
PENDERFYNWYD: -
· Cadarnhau y dylai uwch gyflogau fod yn daladwy ar gyfer y 14 o swyddi canlynol yn ystod 2017/18:
Cadeirydd y Cyngor Is-Gadeirydd y Cyngor Arweinydd y Cyngor Dirprwy Arweinydd y Cyngor Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (5) Cadeiryddion y ddau Bwyllgor Sgriwtini Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf
· Cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 29 Mawrth, 2017 mewn perthynas â thalu uwch gyflogau (fel yr amlinellir ym mharagraff 2.11) a chadarnhau lefel taliadau uwch gyflogau yn ystod 2017/18 i : -
Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith Cadeiryddion Pwyllgorau Pennaeth Dinesig a Dirprwy Bennaeth Dinesig
· Nodi manylion eraill am daliadau a lwfansau ar gyfer 2017/18 fel y rhagnodir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol fel yr amlinellwyd yr adroddiad.
|
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau canlynol fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -
[Gofynnir yn garedig i Aelodau nodi y cynhelir y cyfarfod a ohiriwyd o'r Cyngor hwn (yn unol â Pharagraff 4.1.1.1.2 o Gyfansoddiad y Cyngor) am 2.00pm ar Dydd Mercher, 31 Mai, 2017].
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodi'r strwythur pwyllgorau fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -
· Y Panel Tâl a Graddfeydd (is-bwyllgor o'r Cyngor Sir) · Y Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau · Y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol · Y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig · Is-Bwyllgor Indemniadau
|