Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2016/17 PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 30 Hydref 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid a oedd yn ymgorffori’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) ar gyfer 2016/17 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae’r adroddiad yn edrych yn ôl ar berfformiad y Cyngor yn 2016/17 a’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion gwella fel yr amlinellwyd nhw yn y 7 maes allweddol yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol am 2015/16. Rhan allweddol o’r Adroddiad Perfformiad terfynol yw asesiad o berfformiad y Cyngor o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn amlygu’r cyflawniadau a’r meysydd gwendid fel y nodwyd nhw gan Ddangosyddion Strategol Cenedlaethol (DSC) a Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (MAC).
Dywedodd yr Aelod Porttolio (Gwasanaethau Corfforaethol) bod gofyn i’r Cyngor baratoi a chyhoeddi ei Adroddiad Perfformiad blynyddol erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Mae’r ddogfen statudol yn dadansoddi’r perfformiad dros y flwyddyn ariannol flaenorol yn erbyn y gwelliannau a’r blaenoriaethau hynny fel yr amlinellwyd nhw yn Nogfen Gyflawni Flynyddol 2016/17 a Chynllun Corfforaethol 2013/17. Dywedodd mai calondid oedd medru adrodd am y gwelliant ym mherfformiad y Cyngor yn 2016/17. Roedd yn dymuno diolch i Weinyddiaeth flaenorol y Cyngor (cyn y cynhaliwyd yr etholiadau llywodraeth leol ym Mai 2017) a staff y Cyngor am eu gwaith caled a olygodd, am y tro cyntaf erioed, fod Cyngor Sir Ynys Môn ymhlith y pedwar awdurdod lleol gorau yng Nghymru o ran perfformiad yn y Dangosyddion Perfformiad yn gyffredinol, ac yn seithfed o’r dau ddeg a dau o ran Dangosyddion Perfformiad yn y chwartel uchaf. Dywedodd yr Aelod Portffolio (Gwasanaethau Corfforaethol) hefyd fod y cyfraddau absenoldeb staff wedi gostwng i 9.8 diwrnod am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn ar gyfer 2016/17 o gymharu â 12 diwrnod yn 2015/16. Mae hyn yn dangos bod camau monitor a rheoli cyson wedi arwain at welliant yn y cyfraddau absenoldeb staff. Cyfeiriodd ymhellach at lwyddiant ailgylchu ar yr Ynys gyda’r Cyngor Sir yn symud o’r chwartel canol isaf o blith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru (safle 13) yn 2015/16 i’r chwartel uchaf a’r 6ed safle yng Nghymru yn 2016/17. Mae’r gwelliant hwn yn dangos y bwriad i wneud rhagor o gynnydd dros y blynyddoedd nesaf fel bod 70% o wastraff domestig Ynys Môn yn cael ei ailgylchu.
Ychwanegodd yr Aelod Portffolio fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2017, wedi cyfeirio at un o’r nodau a ddatganwyd gan y Cyngor, sef ‘gyrru adfywio cymunedol trwy ddatblygu cynlluniau tref a chymuned cyfannol ar gyfer prif aneddiadau’r Ynys, gan flaenoriaethu Caergybi, Llangefni ac Amlwch’. Roedd y Pwyllgor wedi nodi nad oedd sôn am y cynlluniau ar gyfer Amlwch fel un o’r aneddiadau blaenoriaeth a enwir ac nad oedd unrhyw gyfeiriad ‘chwaith at gynlluniau adfywio cymunedol ar gyfer Biwmares y credir y dylid eu cynnwys mewn unrhyw raglan adnewyddu. Nododd y bydd yr Uwch Dἰm Arweinyddiaeth yn rhoi sylw i’r mater hwn.
Mewn ymateb i’r datganiad uchod ynghylch y ffaith fod trefi Amlwch a Biwmares wedi eu gadael allan o’r cynlluniau adfywio, dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers god angen dirfawr i fuddsoddi ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |