Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2018/19.
(Cyfeirir yr Aelodau at y ddogfen ‘Trefn y Gweithgareddau’ ar gyfer ethol Cadeirydd y Cyngor Sir a ddosberthir yn y cyfarfod). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dylan Rees yn Gadeirydd y Cyngor Sir am 2018/19.
Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi, sicrhaodd y Cyngor y byddai’n cyflawni ei ddyletswyddau fel Cadeirydd hyd orau ei allu. Diolchodd i’w ragflaenydd, y Cynghorydd Richard O Jones am y modd urddasol ac anrhydeddus y cyflawnodd ei ddyletswyddau dinesig fel Cadeirydd y Cyngor Sir. Dywedodd y Cynghorydd Rees ei fod wedi dewis Hosbis yn y Cartref fel yr elusen y bydd yn ei chefnogi.
Diolchodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Richard O Jones, i’r holl Aelodau a Swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod ei dymor yn y swydd, yn enwedig Mrs Carys Bullock a Mrs Janette Jones o’r Adran Gwasanaethau Democrataidd a Mr J Huw Jones, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. Roedd yn dymuno diolch i Gwenda, ei wraig, am ei chefnogaeth a chyfeiriodd ar yr anrhydedd a gafodd ef a’i wraig o groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Fodedern yr haf diwethaf. Rhoes y Cynghorydd Jones grynodeb o uchafbwyntiau ei flwyddyn fel Cadeirydd y Cyngor, yn enwedig Sul y Cadeirydd yn Eglwys Eleth, Amlwch a’r Cyngerdd Elusennol ym mis Ebrill lle codwyd £2,700. Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, dywedodd y codwyd cyfanswm o dros £3,500 tuag at y Cynllun Diffibrilwyr yn y Gymuned a Beiciau Gwaed Cymru (Ynys Môn).
|
|
Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2018/19. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Margaret Murley Roberts yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir am 2018/19.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’w chyd Gynghorwyr am yr anrhydedd a dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cadeirydd a’i gefnogi â’i ddyletswyddau yn ystod y flwyddyn nesaf.
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol am ei gyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd y mae ei dymor yn dod i ben. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim wedi eu derbyn.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim wedi eu derbyn.
|
|
Dirprwyaeth gan yr Arweinydd/Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 y Cyfansoddiad, yr Arweinydd i roi gwybod enwau’r Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Aelodau’r Pwyllgor Gwaith, gan gynnwys eu cynrchiolwyr Portffolio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 y Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd yr Aelodau isod yr oedd wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith ynghyd â’u cyfrifoldebau Portffolio:-
Y Cynghorydd Richard Dew gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. Y Cynghorydd Llinos M Huws (Arweinydd) gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol. Y Cynghorydd Carwyn Jones gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd. Y Cynghorydd R Meirion Jones gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant. Y Cynghorydd Alun Mummery gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau. Y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff. Y Cynghorydd Dafydd R Thomas gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Corfforaethol. Y Cynghorydd Ieuan Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Trawsnewid a’r Iaith Gymraeg. Y Cynghorydd Robin Williams gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cyllid.
|
|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2018/19 Ethol Cadeirydd yn ynol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2018/19.
|
|
Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w chytuno (fel y nodir ym Mharagraff 3.5 o'r Cyfansoddiad). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau unrhyw rannau o’r Cynllun Dirprwyo y mae’n rhaid i’r Cyngor, yn unol â’r Cyfansoddiad, gytuno arnynt fel y nodir ym Mharagraff 3.2 y Cyfansoddiad.
|
|
Cydbwysedd Gwleidyddol PDF 336 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar drefniadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.
PENDERFYNWYD :-
|
|
Penodi i Gyrff Allanol PDF 791 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn am gadarnhau’r rhestr o benodiadau a wnaed i gyrff allanol.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penodiadau fel y’u nodir yn yr atodiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.
|
|
Rhaglen Cyfarfodydd y Cyngor Sir am 2018/19 Cymeradwyo’r rhaglen isod o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod:-
• 25 Medi, 2018 - 2.00 pm • 30 Hydref, 2018 (Arbennig) - 2.00 pm • 11 Rhagfyr 2018 - 2.00 pm • 27 Chwefror, 2019 - 2.00 pm • Mai, 2019 - (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd arferol ac arbennig o’r Cyngor Sir am y flwyddyn nesaf:-
· 25 Medi, 2018 - 2.00 pm · 30 Hydref, 2018 (Arbennig) - 2.00 pm · 11 Rhagfyr, 2018 - 2.00 pm · 27 Chwefror, 2019 - 2.00 pm · Mai, 2019 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau
|
|
Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2018/19 PDF 288 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau am 2018/19.
PENDERFYNWYD :-
· Cadarnhau y dylid talu cyflogau uwch i ddeiliad y 16 swydd isod yn ystod 2018/19:-
· Cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2018 ynghylch lefel cyflogau dinesig a chadarnhau lefel y taliadau i’r Pennaeth Dinesig a’r Dirprwy Bennaeth Dinesig ar gyfer 2018/19.
· Awdurdodi swyddogion i ddiwygio Rhan 6 Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
|
|
Cynllun Cynefino a Datblygu ar gyfer Aelodau 2018/19 PDF 801 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y Cynllun Datblygu/Cynefino ar gyfer Aelodau Etholedig am 2018/19.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Cynllun Hyfforddiant fel fframwaith ar gyfer Datblygiad Aelodau yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19 a rhoi awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wneud unrhyw addasiadau pellach fel sy’n briodol.
|
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau canlynol fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol:-
• Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o'r Cyngor) • Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau • Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol • Is-Bwyllgor Indemniadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y strwythur Pwyllgorau cyfredol canlynol fel y cyfeirir at hynny yn Adran 3.4 Cyfansoddiad y Cyngor wedi cael ei ail-benodi, ynghyd â’r canlynol:-
· Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o’r Cyngor Sir) · Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol · Is-Bwyllgor Indemniadau
|