Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 10fed Medi, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 139 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:-

 

  14 Mai 2019 (Cyfarfod Arferol)

  14 Mai 2019 (Cyfarfod Blynyddol)

  15 Gorffennaf 2019 (Arbennig)

  22 Awst 2019 (Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel rhai cywir:-

 

·        14 Mai, 2019 (Cyfarfod Arferol)

·        14 Mai, 2019 (Cyfarfod Blynyddol)

·        15 Gorffennaf, 2019 (Cyfarfod Arbennig)

·        22 Awst, 2019 (Cyfarfod Arbennig)

 

2.

Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Derbyn unrhyw ddatganiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-

 

·      Llongyfarchiadau i’r rhai hynny o Ynys Môn a fu’n llwyddiannus ym Mhrimin Môn, Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol;

·      Llongyfarchiadau i Sian Morgan, Gweithiwr Cymorth gyda’r Cyngor sydd wedi derbyn gwobr ‘Gofalu yn Gymraeg’ a gyflwynwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst;  

·      Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgolion Uwchradd yr Ynys ar eu llwyddiant yn yr arholiadau TGAU a Safon Uwch. Dymunwyd yn dda i’r disgyblion a fydd yn dechrau ar eu cyrsiau coleg cyn hir;

·      Mynegwyd llongyfarchiadau i Samantha Goad, Llysgennad Ifanc Ynys Môn a Chwaraeon Cymru ar dderbyn Gwobr Goffa Diana a ddyfernir am gyflawniadau rhagorol gan bobl ifanc;

·      Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Robert Ll Jones a ddathlodd ben-blwydd arbennig yn ddiweddar.

 

Gofynnodd Aelodau i lythyr gael ei anfon at Mr Albert Owen AS yn  diolch iddo am ei wasanaeth fel Aelod Seneddol dros Ynys Môn, ni fydd Mr Owen yn sefyll yn yr etholiad seneddol nesaf. 

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd y cynhelir Gwasanaeth Sul y Cadeirydd ar 13 Hydref, 2019 yng Nghapel Carmel, Moelfre. 

 

Dymunwyd yn dda i’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc newydd, Mr Rhys H Hughes.

 

*         *          *          *

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith mai dyma gyfarfod olaf Dr Gwynne Jones o’r Cyngor Sir fel Prif Weithredwr a dymunwyd yn dda iddo ar ei ymddeoliad. Dywedodd fod Dr Gwynne Jones yn uchel iawn ei barch ymysg Aelodau Etholedig, Swyddogion y Cyngor, o fewn Llywodraeth Leol ledled Cymru a thu hwnt. 

 

Dymunodd Arweinydd y Cyngor yn dda i Dr Gwynne Jones am y gwasanaeth a roddodd i’r Cyngor Sir a’i ymrwymiad i’r Awdurdod dros y 4 blynedd diwethaf fel Prif Weithredwr.  

 

Diolchodd Aelodau’r Cyngor hefyd i Dr Gwynne Jones am ei wasanaeth i’r Cyngor a dymunwyd yn dda iddo ar ei ymddeoliad. 

 

Dymunwyd yn dda i Mrs Annwen Morgan ar ei phenodiad fel Prif Weithredwr yn dilyn ymddeoliad Dr Gwynne Jones.

 

 

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeisebau’n unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod un ddeiseb ac arni 250 o lofnodion wedi’i chyflwyno gan drigolion pentref Llanfechell yn gwrthwynebu colli Swyddog Hebrwng Plant Ysgol – deiseb wedi’i hanfon ymlaen i’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

 

5.

Datganiad Cyfrifon a Safon Archwilio Ryngwladol (ISA) 260 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno’r adroddiadau canlynol, fel y’u cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 3 Medi 2019.

 

  Datganiad Cyfrifon 2018/19;

 

  Adroddiad yr Archwiliwr Allanol ar yr archwiliad o’r datganiadau ariannol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – yr adroddiadau canlynol gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 3 Medi, 2019:-  

 

·      Datganiad Cyfrifon 2018/19;

·      Adroddiad yr Archwilydd Allanol ar yr archwiliad o’r cyfrifon terfynol.

 

Gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio am gadarnhad a yw cyfanswm y derbyniadau a gafodd y Cyngor yn sgil gwerthu adeiladau nad oedd gan y Cyngor ddefnydd iddynt bellach, wedi eu nodi ar wahân yn y Cyfrifon. 

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 drwy nodi bod y derbyniadau cyfalaf wedi eu nodi mewn nodyn penodol o fewn y Datganiad Cyfrifon (nodyn 10). Roedd y balans o dderbyniadau cyfalaf nad oeddynt wedi eu defnyddio fel ar 31 Mawrth 2019 yn £1.18m ac atgoffodd yr Aelodau na fedri ond defnyddio derbyniadau cyfalaf i greu ased sefydlog h.y. un sydd â bywyd defnyddiol o fwy na 12 mis, neu er mwyn lleihau lefel fenthyca’r Cyngor. Ni ellir defnyddio derbynebiadau cyfalaf er mwyn ariannu gwariant refeniw.  

 

PENDERFYNWYD:-

 

  • Derbyn y Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2018/19 a rhoi’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 lofnodi’r cyfrifon.
  • Nodi bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi derbyn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2018/19 a chyfeirio’r ddogfen at Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr i’w llofnodi.

 

6.

I Apwynito Pedwar Aelod Cyfetholedig o'r Cyhoedd ac Un Cynghorydd Sir i Wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 27 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Panel Dethol y Pwyllgor Safonau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Gadeirydd Panel Dethol y Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·                Penodi Mr Thomas Rhys Davies, Mrs Celyn Menai Edwards, Mrs Gill Murgatroyd a Mrs Sharon Warnes fel aelodau annibynnol cyfetholedig o’r Pwyllgor Safonau o 20 Rhagfyr 2019 ymlaen; am hyd at ddau dymor, fel sy’n cael ei ganiatáu yn statudol ac yn y Cyfansoddiad;

·                Petai swydd wag achlysurol bellach yn codi am aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn ystod y deuddeg mis nesaf, y dylid penodi Mrs Pauline Vella yn awtomatig i’r rôl hon heb yr angen am broses recriwtio bellach, ar yr amod bob amser fod Mrs Vella yn parhau i fod yn gymwys i ymgymryd â’r rôl.

·                Cadarnhau bod y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn parhau i wasanaethu fel un o gynrychiolwyr y Cynghorwyr Sir tan yr etholiad nesaf yn 2022;

·                Penodi’r Cynghorydd John Arwel Roberts i wasanaethu fel Cynrychiolydd Cynghorwyr ar y Pwyllgor Safonau, hyd at yr etholiad nesaf yn 2022 i gychwyn ond y bydd yn gallu gwasanaethu am un tymor pellach dilynol;

·                Diolch i’r Cynghorydd T Ll Hughes MBE am ei waith fel cynrychiolydd o’r Cyngor Sir ar y Pwyllgor Safonau;

·                Cadarnhau bod y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn cael yr awdurdod i gynnwys cyfeiriad at Banel Dethol y Pwyllgor Safonau yng Nghyfansoddiad y Cyngor, er mwyn osgoi’r angen am “ddarpariaeth wrth gefn” yn yr adroddiad ar y strwythur pwyllgorau sy’n cael ei gadarnhau gan y Cyngor yn ei gyfarfod blynyddol.

 

 

7.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 15 Gorffennaf 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 15 Gorffennaf, 2019. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.