Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
• 10 Medi 2019 • 7 Hydref 2019 (Arbennig) • 22 Hydref 2019 (Arbennig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir yn gywir :-
· 10 Medi, 2019 · 7 Hydref, 2019 (Arbennig) · 22 Hydref, 2019 (Arbennig) |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Derbyn unrhyw ddatganiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, neu'r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn: -
• Llongyfarchiadau i'r rheini a fu'n llwyddiannus yn y Ffair Aeaf ym Mona fis diwethaf a hefyd yn Llanfair ym Muallt; • Llongyfarchiadau i'r Ffermwyr Ifanc o Ynys Môn a gystadlodd yn Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc yn Wrecsam yn ddiweddar; • Llongyfarchiadau i'r Cynghorydd Dylan Rees a benodwyd yn ddiweddar yn Is-Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Estynnwyd dymuniadau gorau i'r Cynghorydd Peter Rogers am wellhad buan yn dilyn ei lawdriniaeth ddiweddar. Diolchodd y Cadeirydd i staff a defnyddwyr Gerddi Blaen y Coed a Haulfre am addurno Coeden Nadolig y Cyngor Sir yn ardal y dderbynfa.
* * * * Cydymdeimlwyd â Mr Marc Jones, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn dilyn marwolaeth ei dad yn ddiweddar.
Cydymdeimlwyd â Mrs Anwen Davies, Rheolwr Sgriwtini yn dilyn marwolaeth ei thad yn ddiweddar.
Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o'r Cyngor neu staff a oedd wedi dioddef profedigaeth.
Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn teyrnged dawel fel arwydd o'u parch a'u cydymdeimlad.
|
|
Rhybudd o Gynigiad yn Unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad Derbyn y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones:-
Yn y gorffennol, gorchuddiwyd Ynys Môn gan goed Derw ond erbyn heddiw mae’n un o’r ardaloedd lleiaf coediog yng Nghymru. Rhoddwyd caniatâd i Goedwig Penrhos yng Nghaergybi gael ei throi’n Barc Chwarae ar gyfer Cabannau Gwyliau.
Mae angen i ni fel Cyngor wrthdroi’r dirywiad yn ein coetiroedd a chymryd camau pendant i annog plannu mwy o goed ar Ynys Môn.
Rydw i’n gofyn am ymgyrch ledled yr ynys gyda phob ysgol a’u disgyblion yn cymryd rhan yn y gwaith plannu coed ac i’n Cyngor a’n cwmnïau lleol eu noddi.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones: -
“Yn y gorffennol, gorchuddiwyd Ynys Môn gan goed Derw ond erbyn heddiw mae’n un o’r ardaloedd lleiaf coediog yng Nghymru. Rhoddwyd caniatâd i Goedwig Penrhos yng Nghaergybi gael ei throi’n Barc Chwarae ar gyfer Cabanau Gwyliau.
Mae angen i ni fel Cyngor wrthdroi’r dirywiad yn ein coetiroedd a chymryd camau pendant i annog plannu mwy o goed ar Ynys Môn. Rydw i’n gofyn am ymgyrch ledled yr ynys gyda phob ysgol a’u disgyblion yn cymryd rhan yn y gwaith plannu coed ac i’n Cyngor a’n cwmnïau lleol eu noddi.”
Eiliwyd y cynigiad gan y Cynghorydd Bryan Owen.
Cynigiodd Arweinydd y Cyngor welliant i baragraff olaf Rhybudd o Gynigiad y Cynghorydd R Ll Jones, sef bod y Cynghorau Tref a Chymuned yn ymwneud â’r gwaith o blannu’r coed. Nododd fod gohebiaeth wedi ei hanfon at bob Cyngor Tref a Chymuned trwy Fforwm Cyswllt y Cynghorau Tref a Chymuned i godi ymwybyddiaeth o fenter Ymddiriedolaeth Coed Cymru i roi coed am ddim i grwpiau cymunedol i’w plannu’n lleol. Dywedodd ymhellach ei bod hi, fel Arweinydd, yn bwriadu mynd ar ôl cyllid cyfalaf a refeniw tymor hir gan Lywodraeth Cymru tuag at brosiect plannu coed ar yr Ynys. Roedd aelodau'r Cyngor yn cefnogi'r angen i fynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y coetiroedd a’r angen i annog busnesau a chymunedau lleol i gymryd rhan yn y fenter plannu coed.
Yn y bleidlais ddilynol fe gafodd y gwelliant i’r Rhybudd o Gynigiadei gario. |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau. |
|
Cyfansoddiad y Cyngor - Proses Gosod y Gyllideb PDF 63 KB I ystyried penderfyniad Gweithredol a wnaed gan yr Arweinydd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – penderfyniad gweithredol a waned gan yr Arweinydd fel a ganlyn:-
‘Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.’
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad. |