Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2018/19 pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Professiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Medi 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fel y cyflwynwyd ef i'r Pwyllgor Gwaith ar 16 Medi, 2019.

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol ar Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2018/19, sef dogfen statudol sy'n dadansoddi perfformiad dros y flwyddyn ariannol flaenorol yn erbyn y gwelliannau a'r blaenoriaethau a amlinellwyd gan y Cyngor yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol a Chynllun y Cyngor; mae'n ofynnol i'r Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol erbyn 31 Hydref bob blwyddyn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn falch o allu adrodd, ar sail y perfformiad yn erbyn dangosyddion cenedlaethol, a elwir yn Fesurau Atebolrwydd Perfformiad (MAP), fod safle’r Cyngor trwy’r wlad wedi gwella unwaith eto yn 2018/19. Er y bu rhai siomedigaethau yn 2018/19 gydag atal datblygu gorsaf Wylfa Newydd a'r llithriad ar y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn ardaloedd Llangefni a Seiriol, bu nifer o lwyddiannau nodedig hefyd gan gynnwys cwblhau Ffordd Gyswllt Llangefni, adfywio Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi sydd bellach yn gartref i'r llyfrgell leol, cwblhau ac agor yr Ysgol Santes Dwynwen newydd yn Niwbwrch ynghyd â chwblhau a phrydlesu 7 uned fusnes newydd yn Llangefni gydag 6 uned arall yng Nghaergybi yn cael caniatâd cynllunio a’r gwaith adeiladu yn cychwyn yn 2019/20 ac agor cae 3G yn Llangefni. Llwyddodd y Gwasanaeth Tai i ddod â 70 o dai gwag yn ôl i ddefnydd ledled yr Ynys. Bydd Cartrefi Clyd yn agor yn fuan i roi amgylchedd cartref diogel i bobl ifanc heb orfod eu lleoli y tu allan i'r sir. Mae'r cyfleuster yn Hafan Cefni yn llwyddiant ysgubol gyda'r holl unedau'n llawn. Dywedodd ymhellach fod y ffigyrau ailgylchu yn parhau i wella gyda chyfraddau canrannol y Cyngor hwn bellach dros 70%. ‘Roedd yr Aelod Portffolio yn dymuno diolch i staff y Cyngor am eu gwaith caled.

Cododd rhai Aelodau nifer o faterion a oedd wedi eu cynnwys yn adroddiad perfformiad y Cyngor.

PENDERFYNWYD y dylid cyhoeddi fersiwn derfynol Adroddiad Perfformiad 2018/19 erbyn y dyddiad statudol ar ddiwedd mis Hydref.

 

3.

Adolygiad o'r Trefniadau Etholiadol ar gyfer y Cyngor Sir Ynys Môn gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 25 Medi 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y cyflwynwyd ef i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 25 Medi, 2019.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn yr argymhelliad a gynigiwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fel ymateb cychwynnol y Cyngor.

4.

Cynllun Dirprwyo - Datblygiadau Mawr

I ystyried penderfyniad Gweithredol a wnaed gan yr Arweinydd.

 

I ystyried argymhellion ynglyn â phenderfyniad Gweithredol sydd uchod, cliciwch ar y ddolen isod:-

 

https://www.anglesey.gov.uk/documents/Dogfennau-Cy/Cyngor/Democratiaeth/Penderfyniadau/Binder-Cymeradwyo-Pwer-Dirprwyedig.pdf

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Penderfyniad Gweithredol a wnaed gan Arweinydd y Cyngor mewn perthynas â'r uchod.

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd fod nifer o gyfundrefnau cydsynio ar waith sy'n caniatáu i Weinidog Cymru benderfynu ar geisiadau a fydd yn caniatáu datblygiadau sydd wedi'u lleoli yn ardal weinyddol Ynys Môn neu sy’n effeithio arni. Mae'r rhain yn cynnwys prosesau fel penderfyniadau ar Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol sy'n rhoi caniatâd cynllunio a Gorchmynion Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd sy'n cynnwys caniatâd cynllunio tybiedig. Dywedodd ymhellach fod Morlais Marine Energy wedi cyflwyno ei gais am ganiatâd ers 17 Medi, 2019. Mae'n ofynnol bod y Cynllun Dirprwyo ar gyfer Datblygiadau Mawr yn ei le er mwyn caniatáu i'r Awdurdod ymateb yn effeithiol ac o fewn yr amserlen.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol ymgymryd â holl swyddogaethau statudol y Cyngor fel Awdurdod Lleol ac Awdurdod Cynllunio mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd, gan gynnwys caniatâd cynllunio neu ganiatâd cynllunio tybiedig, neu gyfystyr, fydd yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys trafod a chwblhau cytundebau rhwymedigaethau cynllunio.

·           Caniatáu i swyddogion sydd yn derbyn yr awdurdod dirprwyedig a argymhellir uchod, ddirprwyo awdurdod ymhellach, ynghyd ag unrhyw gamau i’w cymryd dan yr awdurdod hwnnw, i unrhyw swyddog o’r Cyngor.