Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2019 yn gywir.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Tîm Arweinyddiaeth Strategol ddiddordeb yn Eitem 14 - Datganiad ar y Polisi Tâl ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidlais ar y mater.
Datganodd y Cynghorwyr Richard Dew, Richard O Jones, Dafydd Roberts and Robyn Williams ddiddordeb personol yn Eitem 10 – Y Cynllun Arainnol Tymor Canol a’r Gyllideb ar gyfer 2020/21. |
|
Derbyn unrhyw ddatganiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, neu'r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaed y cyhoeddiadau isod gan y Cadeirydd:-
· Llongyfarchiadau i Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos M Huws sydd wedi cael ei henwi ar restr 100 o Fenywod Cymru; · Llongyfarchiadau i Gruffydd Wyn o Amlwch ar ennill cystadleuaeth Cân i Gymru ar 29 Chwefror, 2020; · Llongyfarchiadau i aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol ar ennill Cystadleuaeth Ddrama Cymru yn y Galeri yng Nghaernarfon yn ddiweddar. · Mynegodd y Cadeirydd ei gwerthfawrogiad i staff y Cyngor ac yn enwedig y Gwasanaeth Priffyrdd yn ystod y tywydd garw yn ddiweddar. · Mae prosiect y Cyngor i adnewyddu Neuadd y Farchnad, Caergybi wedi’i enwebu am dair gwobr genedlaethol.
Roedd y Cadeirydd yn dymuno atgoffa’r Aelodau fod Cyngerdd Elusennol y Cadeirydd i’w gynnal yng Ngwesty’r Breeze Hill, Benllech ddydd Gwener, 27 Mawrth, 2020 am 7.00 p.m.
* * * * Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod
o'r Cyngor neu staff a oedd wedi cael profedigaeth.
|
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.
|
|
Rhybudd o Gynnig yn Unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd J Arwel Roberts:-
RHYBUDD O GYNNIG
Ym mis Ebrill y llynedd bu i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC, ddatgan argyfwng hinsawdd yng Nghymru.
Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi dilyn Llywodraeth Cymru ac wedi datgan argyfwng hinsawdd, ac mae awdurdodau eraill yn bwriadu cymryd camau cyffelyb.
Galwaf ar y Cyngor hwn i ddilyn yr un esiampl ac i gefnogi ymrwymiad i gyflawni Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae’n rhaid i ni gydnabod nad oes modd i’r cyngor hwn barhau â busnes fel arfer ac mae angen paratoi cynllun gweithredu y gellir ei fonitro a’i weithredu.
Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil, mae angen i ni ddefnyddio ein polisïau cynllunio i gyflawni datblygiadau a chymunedau sero net yn gyflymach.
Rydym mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth er budd cenedlaethau’r dyfodol ac mae dyletswydd foesol arnom i weithredu.
Gofynnaf i chi gefnogi’r cynnig hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd J Arwel Roberts:-
Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Gweinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley
Griffiths AC, argyfwng hinsawdd yng Nghymru.
“ Galwaf ar y Cyngor hwn i ddilyn yr un esiampl ac i gefnogi ymrwymiad i gyflawni Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae’n rhaid i ni gydnabod nad oes modd i’r cyngor hwn barhau â busnes fel arfer ac mae angen paratoi cynllun gweithredu y gellir ei fonitro a’i weithredu.
Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil, mae angen i ni ddefnyddio ein polisïau cynllunio i gyflawni datblygiadau a chymunedau sero net yn gyflymach.
Rydym mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth er budd cenedlaethau’r dyfodol ac mae dyletswydd foesol arnom i weithredu.”
Gofynnodd Arweinydd y Cyngor am ohirio'r Rhybudd o
Gynigiad tan gyfarfod nesaf y Cyngor llawn a gynhelir ar 19 Mai,
2020 er mwyn caniatáu ar gyfer paratoi Cynllun Gweithredu
llawn ynghylch disgwyliadau Carbon Niwtral yn y Cyngor.
|
|
Rheoli Trysorlys - Adolygiad Canol Blwyddyn 2019/20 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Rhagfyr 2019.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151
fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 16 Rhagfyr, 2019 i'w
dderbyn gan y Cyngor.
|
|
Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad ynghylch y Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21.
|
|
Arferion Rheoli Trysorlys PDF 839 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth
(Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor
Gwaith ar 2 Mawrth, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.
|
|
Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2021 i 2022/23 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’r Rhaglen Gyfalaf am y cyfnod 2021 hyd at 2022/23.
|
|
Y Cynllun Ariannol Tymor Canol a'r Gyllideb ar gyfer 2020/21 PDF 989 KB (a) Strategaeth Ariannol Tymor Canol a Chyllideb 2020/21
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2020.
(b) Cyllideb Gyfalaf 2020/21
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2020.
(c) Gosod y Dreth Gyngor
Cyflwyno adroddiad i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2020.
(ch) Diwygio’r Gyllideb
Adrodd ar unrhyw newidiadau i’r Gyllideb yn unol â Pharagraff 4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.
Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y Gyllideb Refeniw a'r Dreth Gyngor sy’n deillio ohoni am y flwyddyn 2020/21, ynghyd â Strategaeth Ariannol Tymor Canol ddiweddaredig y Cyngor a manylion am y defnydd o unrhyw gronfeydd unwaith ac am byth i gefnogi'r gyllideb - eitemau 10 (a) i ( ch) yn y Rhaglen. Er ei fod yn croesawu’r cyllid ychwanegol sydd ar gael fel rhan o setliad refeniw 2020/21, dywedodd bod y rhagolygon ariannol yn parhau i fod yn heriol ac roedd yn ei chael yn anodd deall sut mae’r fformiwla ariannu gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gweithredu o gofio’r gwahaniaethau amlwg yn y cynnydd a roddwyd i gynghorau yng Nghymru. Mae’r Cyngor hwn wedi gweld cynnydd o 3.8% yn y setliad. Cyfeiriodd at yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer y gyllideb refeniw ddrafft a nododd fod y mwyafrif o’r ymatebwyr o blaid buddsoddi yn y Gwasanaethau Oedolion oherwydd cynnydd yn y galw a’u bod hefyd o blaid gwarchod cyllidebau ysgolion. Serch hynny, roedd llai o gefnogaeth i gynnydd rhwng 4.5% a 5% yn y Dreth Gyngor. Ar ôl cymryd ffigwr y setliad terfynol i ystyriaeth, mae angen £142.146m ar gyfer y gyllideb ddigyfnewid am y flwyddyn ariannol 2020/21; mae’r ffigwr hwn yn caniatáu i’r Awdurdod weithredu cyllideb sy’n fwy realistig o gofio’r galw yn y Gwasanaethau Oedolion a gwasanaethau eraill y Cyngor, a’r gobaith trwy osod y gyllideb yw na fydd y gwasanaethau hyn yn gorwario yn ystod y flwyddyn ariannol. Argymhellwyd felly y dylid cynyddu'r Dreth Gyngor 4.5% er mwyn cydbwyso cyllideb y Cyngor. Dywedodd yr Aelod Portffolio y bydd y Dreth Gyngor ar gyfartaledd ar gyfer pob aelwyd yn gynnydd o £1.08 yr wythnos ond dywedodd mai'r Cyngor hwn sydd â’r dreth gyngor isaf ond un yng Ngogledd Cymru o hyd.
Cynigiodd bod y Cyngor yn cymeradwyo argymhellion y
Pwyllgor Gwaith o’i gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth,
2020 mewn perthynas ag eitemau (a) i (ch) yn yr adroddiad. Nododd
ymhellach fod y Pwyllgor Gwaith yn argymell i'r Cyngor na ddylid
newid y ffioedd parcio ar gyfer ardaloedd trefol ar wahân i
gael gwared ar y ffi 50c, gan olygu mai £1 fydd yr isafswm a
godir. Nododd na dderbyniwyd unrhyw ddiwygiadau i'r gyllideb. |
|
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 17 Chwefror 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 17 Chwefror, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-2024.
|
|
Adolygiad o Ranbarthau Pleidleisio a Lleoliadau Pleidleisio PDF 506 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 31 Ionawr 2020.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y'i cyflwynwyd
i'r Pwyllgor Gwaith ar 31 Ionawr, 2020 i'w dderbyn gan y
Cyngor.
|
|
Diwygio Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu’r ailstrwythuriad mewnol i’r model staffio PDF 983 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Rhagfyr 2019.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 16 Rhagfyr, 2019 i'w dderbyn yn ôl-weithredol gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD:-
Nodi’r newidiadau a chytuno i’r strwythur newydd fel y gwelir yn Atodiad 2 yr adroddiad sy'n dangos: -
· newid yn nheitlau a manylebau swyddi’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Penaethiaid Gwasanaeth;
· dileu dwy swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol;
· cynnwys un swydd Dirprwy Brif Weithredwr newydd;
· dileu dwy swydd Pennaeth Swyddogaeth;
· cynnwys pum swydd Cyfarwyddwr newydd;
· newid y llinellau adrodd rhwng aelodau'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Penaethiaid Gwasanaeth.
· cymeradwyo cynnwys Atodiad 2 yn yr adroddiad o fewn Cyfansoddiad y Cyngor;
· cymeradwyo'r newidiadau yn y drefn ddirprwyo a nodir yn Atodiad 3 yr adroddiad;
· cymeradwyo mai’r Pwyllgor Penodi fydd yn penodi i swyddi Cyfarwyddwyr yn y dyfodol.
· cymeradwyo gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol eraill i'r Cyfansoddiad er mwyn adlewyrchu'r argymhellion uchod.
|
|
Datganiad Polisi Tâl 2020 PDF 572 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol i’r Cyngor gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2020/21.
|