Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoeddus fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 380 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft o’r cyfarfodydd Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  8 Rhagfyr 2020

  2 Chwefror 2021 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfodydd canlynol y Cyngor Sir yn gywir:-

 

·           8 Rhagfyr, 2020

·           2 Chwefror, 2021 (Arbennig)

 

2.

Datganiadau o Ddiddordeb

I dderbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ddatgan diddordeb personol yn Eitem 13 – Datganiad Polisi Tâl ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidlais yn dilyn hynny.

 

Bu i’r Cynghorydd R Meirion Jones ddatgan diddordeb personol personol sy’n rhagfarnu yn Eitem 13 – Datganiad Polisi Tâl ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidlais yn dilyn hynny.

 

Bu i’r Cynghorydd Ieuan Williams ddatgan diddordeb personol personol sy’n rhagfarnu yn Eitem 10 – Cyllideb 2021/2022 ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidlais yn dilyn hynny.

 

3.

I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-

·           Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i staff y Cyngor am eu hymrwymiad parhaus i gynnal gwasanaethau'r Cyngor yn ystod y cyfnod anodd a heriol ers y pandemig.

·           Estynnwyd llongyfarchiadau i Mr George North sydd bellach wedi derbyn ei ganfed gap i Gymru.

·           Estynnwyd dymuniadau gorau i Mrs Judith Thomas, Rheolwr Gwasanaethau Cyfieithu, yn dilyn ei hymddeoliad diweddar ar ôl nifer o flynyddoedd o wasanaeth fel cyfieithydd ac fel rhan o'r tîm sy'n cefnogi Pwyllgorau'r Cyngor.  

 

*          *          *          *          *

 

·           Estynnwyd cydymdeimlad i Mr Fôn Roberts, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn marwolaeth ei dad yn ddiweddar.

·           Estynnwyd cydymdeimlad i deuluoedd a ffrindiau'r rhai sydd wedi colli aelodau o'r teulu oherwydd y pandemig.

·           Estynnwyd cydymdeimlad i unrhyw Aelod o'r Cyngor neu Staff a oedd wedi dioddef profedigaeth.

 

4.

Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â rheol 4.1.12.4 o’r Cyfansoddiad.

I gyflwyno rhybudd o’r cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd Robert Ll Jones i Arweinydd y Cyngor:-

 

Rydym bellach yn gweld gostyngiad sylweddol yn y traffig nwyddau sy’n mynd a dod i Ddulyn drwy Borthladd Caergybi.

 

Mae nifer o wahanol resymau yn cael eu rhoi am hyn ac mae’n rhaid i ni fel Cyngor Sir fod yn bryderus a chael ein gweld i fod yn gwneud popeth y gallwn er mwyn cefnogi’r ddau gwmni llongau a’u gweithlu.

 

Allwch chi hysbysu’r Llongwyr lleol a thrigolion Caergybi ac Ynys Môn beth yn union yr ydym ni fel Cyngor wedi ei wneud er mwyn ymgysylltu â’n Haelod Cynulliad a’n Aelod Seneddol er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud popeth posibl er mwyn helpu ein porthladd i gynyddu’r llif traffig drwy Gaergybi.

   

Mae hon yn sefyllfa ddifrifol iawn a does dim amheuaeth bod Gweithredwyr Porthladdoedd eraill yn y DU a Ffrainc yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod ein traffig yn mynd trwy eu porthladdoedd nhw a bydd eu hawdurdodau lleol nhw yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’w hannog nhw i wneud hynny.”   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhybudd o’r cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd Robert Ll Jones i Arweinydd y Cyngor:-

 

‘Rydym bellach yn gweld gostyngiad sylweddol yn y traffig nwyddau sy’n mynd a dod i Ddulyn drwy Borthladd Caergybi.

 

 Mae nifer o wahanol resymau yn cael eu rhoi am hyn ac mae’n rhaid i ni fel Cyngor Sir fod yn bryderus a chael ein gweld i fod yn gwneud popeth y gallwn er mwyn cefnogi’r ddau gwmni llongau a’u gweithlu.

 

 Allwch chi hysbysu’r Llongwyr lleol a thrigolion Caergybi ac Ynys Môn beth yn union yr ydym ni fel Cyngor wedi ei wneud er mwyn ymgysylltu â’n Haelod Cynulliad a’n Aelod Seneddol er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud popeth posibl er mwyn helpu ein porthladd i gynyddu’r llif traffig drwy Gaergybi.

 

 Mae hon yn sefyllfa ddifrifol iawn a does dim amheuaeth bod Gweithredwyr Porthladdoedd eraill yn y DU a Ffrainc yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod ein traffig yn mynd trwy eu porthladdoedd nhw a bydd eu hawdurdodau lleol nhw yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’w hannog nhw i wneud hynny.’

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda'r Aelod Cynulliad a'r Aelod Seneddol i drafod y pryderon am yr Ynys.   Nododd fod trafodaethau ynglŷn â Phorthladd Caergybi wedi'u cynnal dros nifer o flynyddoedd a'i bod, fel Arweinydd, wedi codi’r mater yng nghyfarfodydd CLlLC, sef fod angen cefnogi awdurdodau lleol sydd â Phorthladdoedd o fewn eu hawdurdod.  Dywedodd hefyd fod disgwyl y byddai oedi wedi bod o ran traffig ym Mhorthladd Caergybi ond mae'n amlwg bod llif y traffig wedi lleihau.  Dywedodd yr Arweinydd ei bod wedi gofyn am gyfarfodydd gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â Phorthladd Caergybi a bod trafodaethau wedi'u cynnal gyda Mr Jeremey Miles AS, Mr Ken Skates AS, Ms Julie James AS a Ms Leslie Griffiths AS.  Dywedodd hefyd fod trafodaeth wedi'i chynnal gyda Llywodraeth Iwerddon i rannu profiadau o ran Awdurdod y Porthladd a bod Swyddogion o'r Cyngor hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a swyddogion Llywodraeth Iwerddon ynghyd ag Awdurdod y Porthladd.  Mae trafodaethau'n cael eu cynnal ynglŷn â dynodiad porthladd di-dreth/treth is ar gyfer Porthladd Caergybi ac mae'r 5 awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru wedi cefnogi hyn i sicrhau budd economaidd i Ogledd Cymru gyfan. 

 

Diolchodd y Cynghorydd R Ll Jones i Arweinydd y Cyngor am y gwaith a wnaed o ran Porthladd Caergybi.  Dywedodd ei bod yn ymddangos bod cerbydau nwyddau trwm yn osgoi teithio o Iwerddon i Gaergybi oherwydd dogfennau ac nad yw cludwyr nwyddau am gario llwythi cymysg.  Gofynnodd i'r Pwyllgor Gwaith ddangos eu bod yn gweithio i fynd i'r afael â cholli traffig drwy Borthladd Caergybi o ganlyniad i Brexit.  Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd fod 96% o waith papur cludo nwyddau sy'n dod drwy Borth Caergybi yn dderbyniol a gellir ymdrin â'r 4% o waith papur sy'n weddill mewn llai na hanner awr.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

 

6.

Rhybudd o Gynnig yn Unol  Rheol 4.1.13 .1 Y Cyfansoddiad

I dderbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Robert Ll Jones:-

 

 “Mae dyletswydd ar ein Cyngor i gadw at Ddatganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau Oedran Gyfeillgar yn Ewrop 2013 er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o bobl hŷn yn y gymuned ac i sicrhau bod eu pryderon yn cael eu gweithredu arnynt a’u bod yn cael cyfle i rywun wrando arnynt. Mae gan Ynys Môn un o’r poblogaethau hŷn mwyaf yng Nghymru ac mae eu cyfraniad i economi Ynys Môn yn bwysig iawn. 

 

Mae gennym Fforwm Pobl Hŷn ar Ynys Môn ac nid ydynt erioed wedi derbyn cyflwyniad gan yr Adran Economaidd na’r Adran Gynllunio ar ddatblygiadau mawr megis Wylfa, Coedwig Penrhos, y datblygiad mawr ym Marina Caergybi na datblygiad Tŷ Mawr yn Llanfair PG.

 

Rwy’n gofyn bod hyn yn cael ei wneud yn rhywbeth gorfodol a bod cyflwyniad yn cael ei roi ar bob datblygiad mawr er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed pan ddaw hi at benderfyniadau am fannau agored a’r posibilrwydd o ddinistr amgylcheddol.

 

Mae mannau agored a mannau cerdded yn ein trefi a chefn gwlad mor bwysig i ni gyd ond yn enwedig i’n trigolion oedrannus ac anabl”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd - y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Robert Ll Jones:-

 

Mae dyletswydd ar ein Cyngor i gadw at Ddatganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau sy’n Ystyrio o Oedran yn Ewrop 2013 er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o bobl hŷn yn y gymuned ac i sicrhau bod eu pryderon yn cael sylw a’u bod yn cael cyfle i rywun wrando arnynt. Mae gan Ynys Môn un o’r poblogaethau hŷn mwyaf yng Nghymru ac mae eu cyfraniad i economi Ynys Môn yn bwysig iawn.

 

 Mae gennym Fforwm Pobl Hŷn ar Ynys Môn ac nid ydynt erioed wedi derbyn cyflwyniad gan yr Adran Economaidd na’r Adran Gynllunio ar ddatblygiadau mawr megis Wylfa, Coedwig Penrhos, y datblygiad mawr ym Marina Caergybi na datblygiad Tŷ Mawr yn Llanfairpwll.

 

 Rwy’n gofyn i hyn gael ei wneud yn rhywbeth gorfodol a bod cyflwyniad yn cael ei roi ar bob datblygiad mawr er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed pan ddaw hi at benderfyniadau am fannau agored a’r posibilrwydd o ddinistr amgylcheddol.

 

 Mae mannau agored a mannau cerdded yn ein trefi a chefn gwlad mor bwysig i ni gyd ond yn enwedig i’n trigolion oedrannus ac anabl.

 

Mewn ymateb, dywedodd Deilydd Portffolio Cynllunio fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyflawni ei ddyletswyddau datblygu cynaliadwy sy'n gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r system gynllunio'n cyfrannu drwy gyflawni ei dyletswyddau o ran y 'pum ffordd o weithio' a geir yn y Ddeddf. Mae angen ystyried y rhain: cynnwys; cydweithio; integreiddio; atal; a ffactorau hirdymor. Mae'r ystyriaethau hyn yn rhan annatod o'r system gynllunio ac mae ymgysylltu, cynnwys ac ymgynghori â holl aelodau'r gymuned yn elfen allweddol a chanolog o arferion a gweithdrefnau cynllunio, ar y lefel strategol wrth lunio polisi cynllunio a'r lefel leol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio unigol, beth bynnag fo'u graddfa. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw grŵp neu aelodau penodol o gymdeithas naill ai'n cael eu ffafrio ac na wahaniaethir yn eu herbyn fel bod datblygiadau newydd yn creu cymunedau cydlynol, teg a gwydn sy'n diwallu anghenion pawb, beth bynnag fo'u hoedran.

 

Llywodraeth Cymru sy'n gwneud gofynion statudol ar gyfer cyhoeddusrwydd ac ymgynghori ar faterion cynllunio ac nid oes gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol unrhyw bwerau i orfodi fel arall. Neilltuir cryn amser, ymdrech ac adnoddau eisoes nid yn unig i fodloni, ond i ragori ar y gofynion statudol gofynnol hyn. Er gwaethaf yr uchod, nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr henoed yn cael eu heithrio mewn unrhyw ffordd gan y trefniadau presennol, yn wir gellid dadlau y byddai canolbwyntio'n benodol ar un grŵp o gymdeithas yn dangos ffafriaeth ar draul eraill.  Mae anawsterau ymarferol hefyd wrth ddiffinio'r hyn a fyddai'n gyfystyr â 'datblygiad mawr' ar draws y cymunedau amrywiol ar Ynys Môn e.e. gellid dehongli 'datblygiad bach' yn un o'r prif drefi fel 'datblygiad mawr' gan gymunedau llai yr ynys. Mae hyn yn anochel yn arwain at bryderon  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Rheoli Trysorlys - Adolygiad Canol Blwyddyn 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Rhagfyr 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 14 Rhagfyr 2020 i'r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Adolygu Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2020/21.

 

8.

Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021 i'r Cyngor ei dderbyn.

 

Holodd y Cynghorydd Aled M Jones am y dyraniad ariannol a'r grantiau a gynigir gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.  Mewn ymateb, dywedodd Deilydd Portffolio Cyllid fod Grantiau'n cael eu rhoi gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a’i bod yn anodd rhagweld y swm a dderbynnir.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ei fod yn dibynnu ar yr adnoddau ariannol sydd gan Lywodraeth Cymru ar gael i'w dosbarthu i awdurdodau lleol a bod yr arian fel arfer yn cael ei roi drwy fformiwla i'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.  Mae rhywfaint o grantiau’n cael eu dynodi ar gyfer prosiectau penodol o fewn awdurdodau lleol ac mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd awdurdodau lleol i anfon ceisiadau grant ar gyfer grantiau o'r fath ac i wario'r grantiau o fewn y flwyddyn ariannol.  Dywedodd hefyd fod grantiau wedi eu derbyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf tuag at gynnal a chadw ysgolion a oedd yn dod i £1m. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2021/22.

 

9.

Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2021/22 i 2023/24 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021 i'r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf a'r Rhaglen Gyfalaf 2021/22 i 2023/24.

 

10.

Cyllideb 2021/22 pdf eicon PDF 733 KB

(a)    Y Strategaeth Ariannol Tymor Canol a Chyllideb 2021/22

 

        Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth

    (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith

    ar 1 Mawrth 2021.

 

(b)   Cyllideb Gyfalaf 2021/22 

 

        Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth

        (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar

        1 Mawrth 2021.

 

(c)   Gosod y Dreth Gyngor 2021/22

 

        Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth

        (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar

        1 Mawrth 2021.

 

(d)   Diwygio’r Gyllideb

 

        Derbyn y diwygiadau canlynol i'r Gyllideb, y mae rhybudd ohonynt

        wedi ei dderbyn o dan Baragraff 4.3.2.2.11 o'r Cyfansoddiad.

        

        Y Cynghorydd Bryan Owen, ar ran Plaid Annibynwyr Ynys Môn,

         i gynnig bod y cynnydd yn y Dreth Gyngor yn cael ei bennu ar 2%

         gyda'r diwygiadau a ganlyn i'r Gyllideb:

      

·   £150,000 i ddod allan o'r Parc Eco (Parc Adfer) sydd ag oddeutu

  £911,000 yn y cyfrif ar hyn o bryd.

 

·      £75,000 o'r cyllid ar gyfer Wylfa, sydd yn oddeutu £675,000 rhwng 3

chyfrif.

 

·     £75,000 o'r gronfa wrth gefn sydd ag oddeutu £365,000 yn y cyfrif.

 

Byddai hyn, gyda'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, yn darparu'r

  £308,000 y byddai ei angen fel y gellir pennu’r cynnydd yn y Dreth

  Gyngor ar 2% am y flwyddyn 2021/22.

 

(Nodyn: Mae angen ystyried yr holl bapurau uchod fel un pecyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 1 Mawrth 2021 i'r Cyngor ei dderbyn.

 

Cyflwynodd Deilydd Portffolio Cyllid gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y

Gyllideb Refeniw a'r Dreth Gyngor ddilynol ar gyfer 2021/22, Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor wedi’i diweddaru a'r defnydd o unrhyw arian untro i gefnogi'r gyllideb - eitemau 10 (a) i (ch) o fewn yr Agenda.  Dywedodd fod hon wedi bod yn flwyddyn anodd oherwydd y pandemig a dymunodd ddiolch i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a'i staff am eu gwaith.  Pan gafodd ei benodi'n Ddeilydd Portffolio Cyllid yn 2019, dywedodd mai ei flaenoriaeth oedd mynd i'r afael â chronfeydd wrth gefn y Cyngor.  Cyfeiriodd at adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Gorffennaf 2019 a nododd fod y duedd ddiweddar i leihau balans y gronfa gyffredinol yn anghynaliadwy ac yn cynyddu'r angen i'r Cyngor gyflawni arbedion cylchol.  Cydnabyddir bod hon yn risg gan y Swyddog Adran 151 a'r Cyngor a derbynnir bod angen cyllideb fwy hirdymor ar gyfer ailgyflenwi cronfeydd wrth gefn.  Fel Deilydd Portffolio, roedd yn falch o adrodd bod cronfeydd wrth gefn y Cyngor bellach mewn sefyllfa well ac mae'n amserol sicrhau bod cyllideb y Cyngor yn cael ei gosod yn ddoeth i drigolion yr Ynys.  Y cynnig cychwynnol oedd cynyddu'r Dreth Gyngor 3.75% ond ar ôl ymgynghori â thrigolion yr Ynys a chael rhagor o arian gan Lywodraeth Cymru, argymhellwyd y dylid cynyddu'r Dreth Gyngor 2.75% er mwyn cydbwyso cyllideb y Cyngor.  Y cynnydd hwn yn y dreth gyngor fydd yr isaf yng Ngogledd Cymru a'r ail isaf yng Nghymru. 

 

Dywedodd y Cynghorydd G O Jones fod Cyngor Gwynedd hefyd wedi derbyn cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar ond ei fod wedi penderfynu peidio â lleihau eu cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor oherwydd risgiau posibl.  Mewn ymateb, dywedodd Deilydd Portffolio Cyllid fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn dyraniad grant tuag at Dechnoleg Gwybodaeth.  Y bwriad oedd gwario £300k ar lyfrau chrome i ddisgyblion yn y flwyddyn ariannol 2021/22, ond penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ariannu'r gwaith o brynu'r llyfrau chrome o'r dyraniad grant gan Lywodraeth Cymru.  Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn dyraniad grant o Gronfa'r Economi Gylchol i brynu cerbydau fel rhan o'r Contract Casglu Gwastraff. Bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r Awdurdod fenthyca llai wrth brynu'r cerbydau.  Mae'r dyraniadau grant hyn yn cyfateb i arbediad o 1% o fewn y dreth gyngor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Rogers at Ystâd David Hughes a'r angen i gefnogi pobl ifanc yn ariannol fel y'i nodir yn y bwriad gwreiddiol o sefydlu'r gronfa.  Mewn ymateb, dywedodd Deilydd Portffolio Cyllid fod y cymorth ariannol gan Ystâd David Hughes yn cael ei ddosbarthu o fewn Ysgolion Uwchradd yr Ynys a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhelir ar 22 Mawrth 2021 ar y mater hwn. 

 

Cyflwynwyd diwygiad i'r gyllideb gan y Cynghorydd Bryan Owen, ar ran Plaid Annibynnol Ynys Môn, i gynnig bod cynnydd cyfradd Treth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Aelod Lleyg Newydd ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu pdf eicon PDF 129 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 9 Chwefror 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 9 Chwefror 2021 i'w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD diwygio cyfansoddiad y Cyngor er mwyn lleihau nifer yr aelodau lleyg angenrheidiol ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu o ddau aelod lleyg i un tan y bydd darpariaethau’r ddeddfwriaeth newydd yn dod i rym.

 

12.

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 pdf eicon PDF 697 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i'w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Dywedodd Deilydd Portffolio Busnes Corfforaethol fod Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) wedi'i basio gan y Senedd ar 18 Tachwedd 2020 a'i fod wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021.  Roedd y Bil yn un o ddim ond dau Fil yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru i barhau yn ystod pandemig Covid-19.  Rhoddwyd blaenoriaeth i'r Bil o ystyried yr amserlen y mae’n rhaid cadw ati i gyflwyno diwygiadau etholiadol arfaethedig mewn pryd ar gyfer etholiadau lleol 2022.  Dywedodd fod y Ddeddf yn un sylweddol a’i bod yn cynnwys amryw o bynciau, o ddiwygio etholiadol, cyfranogiad y cyhoedd, llywodraethu a pherfformiad, hyd at weithio rhanbarthol. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno:-

 

  • Newidiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol;
  • Cyflwyno pŵer cymhwysedd cyffredinol (gall cynghorau wneud unrhyw beth i hyrwyddo eu hagenda ar yr amod nad yw'r camau gweithredu wedi'u gwahardd yn gyfreithiol);
  • Diwygio cyfranogiad y cyhoedd mewn llywodraeth leol;
  • Newidiadau ynghylch llywodraethu ac arweinyddiaeth ddemocrataidd;
  • Cydweithio;
  • Diwygio'r drefn perfformiad a llywodraethu;
  • Pwerau i hwyluso uno prif gynghorau yn wirfoddol.

 

Dywedodd hefyd y gofynnir i'r Cyngor gymeradwyo'r Cynllun Gweithredu sydd ynghlwm wrth yr adroddiad er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 o fewn yr amserlen. 

 

Codwyd cwestiynau ynghylch swyddogaeth y Cydbwyllgorau Corfforaethol a'r adnoddau ariannol y disgwylir i'r Awdurdod eu cyfrannu.  Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Adran 151 fod 4 Cydbwyllgor Corfforaethol yng Nghymru gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn rhan o Gydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru; sy'n debyg i strwythur Cyngor Sir Rhanbarthol.  Bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i helpu sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol drwy CLlLC, ond mae'n ansicr ynghylch faint o arian a ddisgwylir.  Nododd y bydd yr UDA yn cyfarfod i drafod gofynion CLlLC i helpu i sefydlu'r Cydbwyllgorau Corfforaethol.  Disgwylir i bob Cyngor Sir gyfrannu at gyllideb sefydlu'r Cydbwyllgorau Corfforaethol o 2022.  Mae'r Ddeddf yn datgan y gall y Cydbwyllgorau Corfforaethol benderfynu ar y gyllideb y bydd ei hangen arnynt i gydymffurfio â'r gofynion statudol yn y Ddeddf a bydd yn rhaid i'r awdurdodau lleol ariannu'r gyllideb sy'n ofynnol gan y corff sefydledig.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Cydbwyllgor Corfforaethol o fis Medi 2021 i ddiwedd mis Mehefin 2022.   Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ymhellach mai Cyfrifoldeb Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn y cyfamser fydd creu fframwaith o fewn y Ddeddf i drosglwyddo Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'r Cydbwyllgorau Corfforaethol a chynnwys dyletswydd statudol y Cynllun Rheoli Traffig Rhanbarthol a'r Cynllun Datblygu Strategol. 

 

Mynegodd y Cynghorydd A M Jones y bydd hyn yn creu corff isranbarthol a fydd yn gofyn am adnoddau ariannol a phwerau deddfwriaethol gan lywodraeth leol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod trafodaethau helaeth wedi’u cynnal gyda Llywodraeth Cymru a CLlLC ynglŷn â'r mater hwn a bod gwrthwynebiadau wedi'u lleisio ynglŷn â chreu corff o'r fath.  Nododd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo'r Cynllun Gweithredu sydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Datganiad Polisi Tâl 2021 pdf eicon PDF 377 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol i'r Cyngor gan Ddeilydd Portffolio Busnes Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2021

14.

Cydbwysedd Gwleidyddol pdf eicon PDF 198 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i'r Cyngor gan Arweinydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Bod y Cyngor yn  cadarnhau trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddau a roddir i bob un o’r Grwpiau fel y nodir yn y matrics yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

·      Bod Arweinyddion Grwpiau i roi gwybod cyn gynted â phosibl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd am newidiadau i Aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.