Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Arbennig (Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oedd modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 27ain Hydref, 2020 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn :-

Dywedodd y Cadeirydd fod y coronafeirws yn creu nifer o heriau. Roedd yn dymuno diolch i holl staff y Cyngor am eu hymdrechion parhaus wrth gynnal a darparu gwasanaethau yn ystod y misoedd diwethaf.

*         *         *          *

Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn aelod etholedig, y Cynghorydd Allan Roberts o Gaergybi a fu farw’n ddiweddar.

Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn aelod etholedig, y Cynghorydd Glyn Jones a oedd yn cynrychioli Ward Rhosybol ar yr hen Gyngor Sir rai blynyddoedd yn ôl.

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Alun Mummery sydd wedi colli aelod agos o’r teulu’n ddiweddar.

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.

Rhoddodd Aelodau a Swyddogion deyrnged dawel fel arwydd o’u parch a’u cydymdeimlad.

 

3.

Datganiad o'r Cyfrifon 2019/20 ac Adroddiad ISA 260 pdf eicon PDF 351 KB

  Cyflwyno Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 13 Hydref 2020.

 

  Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol ar y Datganiadau Ariannol (Adroddiad ISA 260), fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 13 Hydref 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod oedi gydag Adroddiad ISA 260 yr Archwilydd Allanol a bod angen gwneud mân newidiadau i’r adroddiad o hyd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr Archwilydd Allanol yn dal i drafod ag Actiwarïaid y Gronfa Bensiwn effaith dau achos cenedlaethol ar y Gronfa sydd wedi cael effaith ar bob cronfa bensiwn. Mae’r Archwilydd Allanol wedi rhoi sicrwydd na fydd angen newid y cyfrifon ac na fydd yn newid y farn ddiamod a roddwyd gan yr Archwilydd Allanol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen newid geiriad yr adroddiad ISA 260 a gofynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 am yr awdurdod i gytuno ar eiriad terfynol yr ISA 260 gyda’r Archwilydd Allanol ar ran y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad a rhoi’r awdurdod i Swyddog Adran 151 y Cyngor i gytuno ar eiriad terfynol yr ISA 260 gydag Archwilydd Allanol y Cyngor.

 

4.

Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2019/20 pdf eicon PDF 330 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 28 Medi 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 28 Medi, 2020.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn ofynnol i’r Cyngor, yn ôl rheoliadau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, gynhyrchu Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol o weithgareddau a’r dangosyddion darbodus a thrysorlys gwirioneddol ar gyfer 2019/20.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion a nodir yn yr adroddiad.

 

5.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (AD a Thrawsnewid), fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 26 Hydref 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 26 Hydref, 2020.

 

Roedd yr adroddiad, y mae gofyn statudol ar yr Awdurdod ei gyhoeddi, yn darparu adolygiad o’r canlynol:-

 

·      cynnydd yr Awdurdod yn erbyn ei Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2019/20 fel yr amlinellwyd o dan 3 amcan blaenoriaeth (y cyfeirir atynt ym mharagraff 1.3);

·      ei berfformiad cyffredinol gan gynnwys perfformiad yn seiliedig ar ddangosyddion cenedlaethol (dangosyddion PAM) a DPA lleol.

 

Amlygodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol nifer o gyflawniadau o dan y 3 amcan allweddol wrth gydnabod hefyd bod lle i wneud cynnydd pellach mewn rhai meysydd. Nododd fod 3 dangosydd perfformiad yn yr adroddiad â statws coch. Yn ogystal, cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at nifer o lwyddiannau nodedig a chyfeiriodd yn benodol at agor Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi ar ôl ei hadnewyddu, y cynllun Denu Talent sydd wedi cynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc dros yr haf, a bod rhai ohonynt wedi derbyn swyddi parhaol gyda’r Cyngor, yr ystafelloedd ffitrwydd ym Mhlas Arthur a Chanolfan Hamdden Caergybi ac agor cae 3G yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Nododd hefyd fod 22 o dai cymdeithasol wedi cael eu hadeiladu a bod 102 o anheddau wedi dod yn ôl i ddefnydd ar ôl cael eu hadnewyddu. Wrth amlygu’r cyflawniadau hyn a chyflawniadau eraill, diolchodd yr Aelod Portffolio i staff y Cyngor a dywedodd na fyddai hyn wedi bod yn bosib oni bai am ymrwymiad a gwaith caled y staff. Wrth edrych i’r dyfodol, er bod y Cyngor yn parhau i wynebu heriau ac ansicrwydd wrth ddarparu ei wasanaethau, roedd yn hyderus serch hynny y byddai’n gallu gwneud gwelliannau pellach gyda chefnogaeth ei staff a’i bartneriaid ac y byddai’n gallu cyflawni canlyniadau cadarnhaol ar ran pobl Ynys Môn.

 

Rhoddodd pob Aelod Portffolio grynodeb o waith a gyflawnwyd o dan eu portffolio y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad ac roeddent hwythau’n dymuno diolch i’r staff am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Perfformiad 2019/20 fel adlewyrchiad o waith yr Awdurdodau ac y dylid ei gyhoeddi erbyn y dyddiad statudol ddiwedd mis Hydref.

 

Bu i’r Cynghorwyr Bryan Owen ac Aled Morris Jones atal eu pleidlais.

6.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol 2019/20 pdf eicon PDF 8 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 28 Medi 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Cyngor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Dros Dro) fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 28 Medi, 2020.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/20.