Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd, nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd ac Is-gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn PDF 189 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i’r Cyngor ar gyfer ei dderbyn.
PENDERFYNWYD nad oes angen cynnal etholiad i ddewis Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer y Cyngor ac y bydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd presennol y Cyngor yn parhau yn eu rolau am gyfnod estynedig tan y Cyfarfod Blynyddol yn 2021.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ar ôl datgan diddordeb personol yn Eitem 1, penderfynodd y Cadeirydd a’r is-gadeirydd beidio â chymryd rhan yn y drafodaeth na’r bleidlais.
|
|
Cyhoeddiadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gyhoeddiadau.
|
|
Rhaglen Cyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer 2020/21 Cymeradwyo’r rhaglen isod o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod :-
· 29 Hydref, 2020 (Arbennig) - 10.30 o’r gloch yb · 8 Rhagfyr, 2020 - 2.00 o’r gloch yp · 23 Chwefror, 2021 - 2.00 o’r gloch yp · Mai (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd ar gyfer y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod:-
· 27 Hydref, 2020 (Arbennig) - 10.30 a.m. · 8 Rhagfyr, 2020 - 2.00 p.m. · 23 Chwefror, 2021 - 2.00 p.m. · Mai (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau
|
|
Dirprwyaeth gan yr Arweinydd/Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2 y Cyfansoddiad, yr Arweinydd i roi gwybod enwau’r Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Aelodau’r Pwyllgor Gwaith, gan gynnwys eu Portffolio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â pharagraff 4.1.1.2 o’r Cyfansoddiad, dywedodd yr Arweinydd nad oedd unrhyw newidiadau i Aelodau’r Pwyllgor Gwaith na chynrychiolwyr o ran yr Aelodau Portffolio.
|
|
Penderfyniadau Gweithredol rhwng mis Mai2019 a Gorffennaf 2020 PDF 479 KB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr er mwyn i’r Cyngor allu ei dderbyn.
PENDERFYNWYD fod y Cyngor Sir yn nodi’r penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith, drwy ffyrdd amrywiol, yn unol â’r cynllun dirprwyo sydd wedi’i gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor Sir.
|
|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2020/21 Ethol Cadeirydd yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad PENDERFYNWYD y dylid ethol y Cynghorydd Robert Ll Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
|
|
Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w chytuno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau’r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor ydyw i’w gytuno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad).
|
|
Cydbwysedd Gwleidyddol PDF 202 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd ar gyfer ei ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Gydbwysedd Gwleidyddol.
PENDERFYNWYD :-
· Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddau a ddyrennir i bob un o’r Grwpiau yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; · Bod Arweinyddion Grwpiau yn hysbysu Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted â phosibl os oes unrhyw newidiadau i Aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.
|
|
Cyflwyno addroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â phenodiad i Gyrff allanol ei gyflwyno ar gyfer ei ystyried, yn amodol ar welliant bod y Cynghorwyr Richard Griffiths a Dylan Rees yn aelodau o Banel Gweithredol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a bod y Cynghorydd Eric Jones yn aelod o Bwyllgor Archwilio Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
PENDERFYNWYD cytuno ar a chadarnhau’r penodiadau fel y nodwyd yn yr atodiad i’r adroddiad.
|
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau canlynol fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol:-
• Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o'r Cyngor) • Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau • Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) • Is-Bwyllgor Indemniadau
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau canlynol fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol:-
• Panel Tâl a Graddfeydd (Is-bwyllgor o'r Cyngor) • Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau • Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) • Is-bwyllgor Indemniadau |