Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 384 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft o’r cyfarfodydd Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

·      18 Mai 2021 [10.00am]

·      18 Mai 2021 (Cyfarfod Blynyddol) [2.00pm]

·      29 Gorffennaf 2021 (Arbennig)  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel cofnod cywir:-

 

·           18 Mai, 2021 (10.00 a.m.)

·           18 Mai, 2021 (Cyfarfod Blynyddol) (2.00 p.m.)

·           29 Gorffennaf, 2021 (Arbennig)

2.

Datganiad o Ddiddordeb

I dderbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd:-

 

·           Roedd y Cadeirydd yn dymuno diolch i staff y Cyngor am eu gwaith caled parhaus er mwyn cynnal gwasanaethau’r Cyngor yn ystod y cyfnod heriol ers y pandemig.

 

·           Nododd y Cadeirydd fod yr ysgolion bellach wedi ail agor yn dilyn gwyliau’r Haf. Mynegodd ei ddymuniadau gorau i’r holl ddisgyblion ynghyd â’r disgyblion hynny sydd wedi symud ymlaen i addysg bellach ac i fyd gwaith.

 

 

*          *          *          *

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Jeff Evans a’i deulu wedi iddo golli ei chwaer yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod arall o’r Cyngor neu unrhyw Aelod o Staff a oedd wedi dioddef profedigaeth.

 

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi eu derbyn.

 

5.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 2020-2021 – Adroddiad y Cadeirydd pdf eicon PDF 337 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 25 Mai 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer 2020/21 gan y Cynghorydd Peter Rogers, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

Diolchodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’i staff am y gwaith a gyflawnwyd yn ystod y pandemig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer 2020/21.

 

 

6.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 12 Gorffennaf 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 12 Gorffennaf, 2021 ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer ei dderbyn. 

 

Roedd Arweinydd y Cyngor, yn absenoldeb y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dymuno diolch i’r Cyfarwyddwr a staff yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith a nododd ei bod yn amlwg o’r adroddiad bod amrywiaeth o wasanaethau wedi parhau yn ystod y pandemig ynghyd â gwaith partneriaeth ag asiantaethau allanol. 

 

Nododd y Cynghorydd G O Jones, fel Aelod o’r Panel Sgriwtini Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, ei fod yntau hefyd yn dymuno diolch i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith parhaus.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21. 

7.

Newidiadau i’r Cyfansoddiad: Pwerau wedi’u dirprwyo – Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Buddion Cymunedol Anstatudol pdf eicon PDF 408 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 12 Gorffennaf 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 12 Gorffennaf, 2021 i’r Cyngor ar gyfer ei dderbyn. 

 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â chyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor yn gysylltiedig ag unrhyw ddatblygiad a ystyrir yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn ôl y diffiniad yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015, sy’n diwygio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”), a Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (fel y’i diwygiwyd) a Rheoliadau dilynol fel Awdurdod Lleol, Awdurdod Cynllunio Lleol ac Awdurdod Priffyrdd Lleol.

·           Dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â chyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor yn gysylltiedig ag unrhyw ddatblygiadau sydd angen Gorchymyn Datblygu Arbennig (e.e. Rheoli Ffiniau) o dan Adran 59(3) yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

·           Bod y Pwyllgor Gwaith yn dirprwyo ei awdurdod dros negodi’r holl fuddion cymunedol anstatudol a phob penderfyniad sy’n berthnasol i drafodaethau o’r fath, yn gysylltiedig â, neu’n deillio o ddatblygiad a ystyrir yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS), i’r Dirprwy Brif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor.

·           Diweddaru adran 3.5.3. yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r dirprwyaethau uchod.

 

8.

Datganiad Amrywiaeth pdf eicon PDF 464 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 29 Gorffennaf 2021. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 29 Gorffennaf, 2021 ar gyfer ei dderbyn. 

 

PENDERFYNWYD:

 

·           Mabwysiadu’r datganiad amrywiaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad;

·           Dirprwyo hawl i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gytuno cynllun gweithredu i gefnogi’r datganiad.