Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

I dderbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 369 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft o’r cyfarfodydd Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 7 Medi 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2021 fel cofnod cywir.

3.

I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd:-

 

·           Bu iddo longyfarch Adran Dai Ynys Môn sydd wedi bod yn gweithio â Chyngor Gwynedd ar y cynllun Grantiau Tai Gwag i Brynwyr Tro Cyntaf. Maent wedi ennill gwobr y Sefydliad Tai Siartredig 2021 am Gefnogi Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru. 

·           Mae cynllun y Cyngor Sir i adnewyddu Neuadd y Farchnad Caergybi hefyd wedi ennill gwobr genedlaethol – Gwobr Effaith Gymunedol AJ100 yr Architect’s Journal. 

·           Bu iddo longyfarch Carl Edwards, Gethin Jones a Tudur Jones, Staff y Cyngor, sydd, ynghyd ag Aelodau Clwb Seiclo Gwalchmai, wedi codi £13,000 at elusen Dementia ac Alzheimer trwy seiclo o Fae Trearddur i Aberystwyth – cyfanswm o 116 milltir.

·           Bu iddo longyfarch Mrs Celyn M Edwards ar gael ei phenodi’n Brif Weithredwr Cymdeithas Elusennol Ynys Môn.

 

 

      *          *          *          *

 

Cydymdeimlodd â’r Cynghorydd Ieuan Williams a’i deulu ar golli ei dad yng nghyfraith yn ddiweddar.

 

Cydymdeimlodd ag unrhyw Aelod arall o’r Cyngor neu unrhyw Aelod o Staff a oedd wedi dioddef profedigaeth yn ddiweddar.

 

Aeth y Cadeirydd ymlaen i gyfeirio at y digwyddiad trasig yn Leigh on Sea, Essex ar 15 Hydref, a arweiniodd at farwolaeth gynamserol Syr David Amess AS. Cydymdeimlodd yn ddwys â theulu Syr David Amess.

 

4.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref 2021. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref, 2021 i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Busnes y Cyngor bod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn dadansoddi pa mor dda y mae’r Cyngor wedi perfformio yn erbyn ei dri amcan llesiant yn ystod 2020/21 fel yr adlewyrchir yn y data a’r dadansoddiad o’r dangosyddion perfformiad

yn yr adroddiad a hynny yn ystod blwyddyn heriol iawn oherwydd y pandemig.  Prif nod y Cyngor oedd cadw’i weithlu a phobl Ynys Môn yn ddiogel ac iach yn ystod y cyfnod anodd hwn a sicrhau bod gwasanaethau statudol yn cael eu cynnal. Nododd bod cynnydd pellach wedi cael ei gyflawni mewn sawl maes ar draws y gwasanaethau wrth fwrw ymlaen â’r mentrau a phrosiectau y sonnir amdanynt yn yr adroddiad. Roedd y Cynghorydd Thomas yn dymuno diolch i’r staff, partneriaid a chontractwyr sy’n gwneud gwaith ar ran y Cyngor am eu gwaith caled. Fodd bynnag, disgwylir y bydd y Cyngor yn wynebu heriau pellach wrth i’r gaeaf agosáu.

 

Roedd yr Aelodau â chyfrifoldebau portffolio dros wasanaethau’r Cyngor yn dymuno diolch i’r staff, sefydliadau partner a chontractwyr am eu gwaith i gynnal a chadw gwasanaethau’r Cyngor yn ystod cyfnod anodd y pandemig.

 

Dywedodd y Cynghorydd R Ll Jones ei fod yntau yn dymuno diolch i’r staff am weithio’n galed i gynnal gwasanaethau’r Cyngor yn enwedig yn sgil y cynnydd mewn problemau Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau, Cam-drin Domestig ymysg Pobl Hŷn a Phobl Ifanc yn cael eu rhwystro rhag gweld teulu a’u ffrindiau. Cyfeiriodd at yr angen i leihau ôl troed carbon awdurdodau lleol.

 

Ategodd y Cynghorydd J Arwel Roberts y datganiad ynglŷn â lleihau ôl troed carbon. Cyfeiriodd at yr adroddiad a oedd yn nodi bod gan y Cyngor 7 cerbyd trydan a 107 o gerbydau disel ar hyn o bryd a bod 4 cerbyd trydan arall wedi’u harchebu; holodd y Cynghorydd Roberts a oedd 4 cerbyd trydan yn ddigonol. Ymatebodd arweinydd y Cyngor bod adolygiad o fflyd y Cyngor ar y gweill i weld faint o gerbydau fydd ei angen ar y Cyngor  yn y dyfodol gan fod llai o deithio rhwng cyfarfodydd oherwydd bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol. Dywedodd bod y trafodaethau’n parhau â Llywodraeth Cymru ynglŷn ag ariannu cerbydau trydan a hydrogen a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.  

 

PENDERFYNWYD cytuno ar Adroddiad Perfformiad 2020/21 fel adlewyrchiad o waith yr Awdurdod ac y dylid ei gyhoeddi erbyn y dyddiad statudol sef 31 Hydref, 2021.

 

5.

Protocol Cyfarfodydd Aml-Leoliad (Hybrid) pdf eicon PDF 328 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid i’w dderbyn gan y Cyngor. 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (y Ddeddf) yn cyflwyno gofyniad statudol i gynnal cyfarfodydd hybrid yn achos holl gyfarfodydd a phwyllgorau’r Cyngor. Roedd y protocol drafft a oedd ynghlwm â’r adroddiad yn Atodiad 1 yn nodi’r egwyddorion cyffredinol ynghylch sut y dylid cynnal cyfarfodydd hybrid ar yr adeg hon, pan fo cyfyngiadau Covid mewn grym o hyd a phan fo’r gofynion cadw pellter cymdeithasol yn golygu bod llai o gapasiti yn y Siambr/Ystafelloedd Pwyllgor.  Aeth ymlaen i ddweud bod y Protocol yn Atodiad 1  yn brotocol gweithredol sy’n debygol o gael ei adolygu, yn enwedig yn ystod y cyfnod hyfforddi, peilota a chyn ei roi ar waith.  Bydd rhaid ei adolygu hefyd unwaith y caiff y cyfyngiadau eu llacio/codi. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Aled M Jones welliant i baragraff 3.10 yn y Protocol sydd yn nodi ‘na  chaniateir i unrhyw un arall fod yn bresennol yn yr ystafell y mae’r aelod yn ymuno â’r cyfarfod

ohoni’.  Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod o’r farn bod paragraff 3.10 yn rhy gaeth ac nad oedd gan bawb ystafell  gyfarfod breifat.  Cynigodd y Cynghorydd Jones bod paragraff 3.10 yn cael ei ddiwygio fel na chaniateir i unrhyw un arall fod yn bresennol yn yr ystafell y mae’r aelod yn ymuno â’r cyfarfod ohoni, dim ond  pan fydd eitemau cyfrinachol/sensitif yn cael eu trafod. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Carwyn Jones.  Cafwyd pleidlais ar y gwelliant a chafodd ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Mabwysiadu’r ddogfen yn Atodiad 1 o’r adroddiad fel Protocol ar gyfer cynnal cyfarfodydd hybrid; a chaniatáu i swyddogion barhau â’r gwaith o ganfod datrysiadau technegol er mwyn gallu cynnal cyfarfodydd;

·         Bod unrhyw newidiadau i’r Protocol, sydd y tu hwnt i awdurdod presennol y Swyddog Monitro o dan adran 3.5.3.6.6 yn y Cynllun Dirprwyo, yn cael eu gwneud gan y Swyddog Monitro, ond dim ond â chydsyniad penodol pob Arweinydd Grŵp. Bydd unrhyw newidiadau heb gydsyniad o’r fath yn cael eu cymeradwyo gan y Cyngor llawn yn gyntaf;

·         Tra bod y cyfyngiadau Covid yn dal i fod mewn grym, bydd unrhyw gyfarfodydd/sesiynau briffio a sesiynau hyfforddi/datblygu’n parhau i gael eu cynnal yn rhithiol.

 

6.

Adolygiad o Etholaethau Seneddol pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 19 Hydref 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 19 Hydref, 2021 i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd bod Comisiwn Ffiniau i Gymru yn gynharach eleni wedi cyhoeddi dechrau’r broses i adolygu Etholaethau Seneddol Cymru yn 2023 yn unol â darpariaethau Deddf Etholaethau Seneddol 1986. Yn ddiweddar fe gyhoeddwyd cynigion cychwynnol ar gyfer ymgynghoriad  ac mae’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 3 Tachwedd, 2021. 

Nid oes newid etholaeth i Ynys Môn ac mae’n cael ei chadw. Aeth ymlaen i ddweud bod 40 etholaeth seneddol yng Nghymru a bod y cynigion yn argymell lleihau nifer yr etholaethau seneddol hyn i 32.  Eiliwyd y cynnig gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gan y Cynghorydd Bryan Owen.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ei fod yn croesawu’r cynnig i gadw etholaeth Ynys Môn ond cynigodd welliant y dylai’r Awdurdod ymateb i’r ymgynghoriad y dylid cadw’r 40 etholaeth seneddol yng Nghymru. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ieuan Williams.

 

Ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, gwrthodwyd y cynnig gan y Cadeirydd ar y sail ei fod tu hwnt i gwmpas y Cyngor (dim cyswllt uniongyrchol digonol â’r Cyngor/ardal y Cyngor). Felly, cynhaliodd y Cadeirydd bleidlais ar y cynnig gwreiddiol a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Bryan Owen. 

 

Pleidleisiodd 6 aelod o blaid y cynnig, pleidleisiodd 8 yn erbyn y cynnig ac fe wnaeth 12 aelod atal eu pleidlais.

 

PENDERFYNWYD:-

 

Nad oedd y cynigiad yn cael ei gadarnhau.