Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

I dderbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd R O Jones ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 5 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Jeff M Evans ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno.

 

Datganodd y Cynghorydd J Arwel Roberts ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 5 – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Jeff M Evans ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 449 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  26 Hydref 2021

  22 Tachwedd  2021( Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd a ganlyn yn gywir:-

 

·           26 Hydref, 2021 (Arbennig)

·           22 Tachwedd, 2021 (Arbennig)

 

3.

I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·           Llongyfarchwyd y rhai a oedd yn gyfrifol am drefnu’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd a phawb o Ynys Môn a oedd yn llwyddiannus yn y Sioe.

·           Llongyfarchwyd Isaac Floyd-Eve o Ysgol Uwchradd Caergybi ar gael ei ethol yn gynrychiolydd Ynys Môn ar Senedd Ieuenctid Cymru.

·           Roedd y Cadeirydd yn dymuno diolch i Staff ac Aelodau Etholedig y Cyngor a staff Iechyd a Gofal, yn ogystal â’r holl weithwyr allweddol mewn cymunedau lleol am eu gwaith wrth ddelio â Coronafeirws ac atal ei ymlediad.

 

*          *          *          *          *

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod neu Staff y Cyngor a oedd wedi cael profedigaeth.

 

Safodd Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.

 

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.

 

 

5.

Rhybudd o Gynigiad yn unol â Rheol 4.1.13.1 o’r Cyfansoddiad

·  Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlyniol gan y Cynghorydd Jeff M Evans, wedi’i ardystio gan y Cynghorwyr Robert Ll Jones, Peter Rogers, Bryan Owen:-

 

“Fy mwriad yw ceisio cefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn er mwyn cael sicrwydd a gweithredu positif gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cymru yn narpariaeth Gwasanaethau Cefnogi Iechyd effeithiol, yn cynnwys y Gwasanaeth Ambiwlans er mwyn gallu bodloni anghenion a gofynion y gymuned, gan fynd i’r afael â’r anawsterau a’r dirywiad mewn gwasanaethau iechyd, sy’n cael effaith andwyol ar iechyd a llesiant y gymuned.” 

 

 ·  Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Robert Ll Jones, wedi’i ardystio gan  y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Bryan Owen, Kennth P Hughes, Peter Rogers:-

 

“Gofynnaf i’r Cyngor Sir wneud DATGANIAD ADEILADAU CARBON SERO NET ynghyd â RHOI CAMAU GWEITHREDU AR WAITH AR UNWAITH I GYFLAWNI’R YMRWYMIAD. MAE YFORY’N RHY HWYR.”

 

 ·  Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Richard Dew, wedi’i ardystio gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws:-

 

    ·  Gofyn am yr angen i bob arddangosfa gyhoeddus o dân gwyllt o fewn ffiniau’r awdurod lleol i gael eu hysbysebu ymlaen llaw o’r digwyddiad er mwyn galluogi trigolion i ofalu am eu hanifeiliaid anwes a phobl fregus. 

    ·   Hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus am effaith tân gwyllt ar lesiant anifeiliaid a phobl fregus – yn cynnwys y mesurau y gellir eu cymryd er mwyn lliniaru’r risgiau.

    ·  Annog cyflenwyr tân gwyllt yn lleol i werthu tân gwyllt ‘distawach’ ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·           Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Jeff M Evans, wedi’i ardystio gan y Cynghorwyr Robert Ll Jones, Peter Rogers a Bryan Owen:-

 

“Fy mwriad yw ceisio cefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn er mwyn cael sicrwydd a gweithredu positif gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cymru y bydd Gwasanaethau Cefnogi Iechyd effeithiol yn cael eu darparu, yn cynnwys y Gwasanaeth Ambiwlans, er mwyn gallu bodloni anghenion a gofynion y gymuned, gan fynd i’r afael â’r anawsterau a’r dirywiad mewn gwasanaethau iechyd, sy’n cael effaith andwyol ar iechyd a llesiant y gymuned.”

 

Mynegodd y Cynghorydd Jeff Evans ei bryderon dybryd am yr oedi wrth dderbyn gwasanaeth gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Rhoddodd y Cynghorydd Evans enghreifftiau o brofiadau diweddar ei deulu ei hun a’r oriau maith y bu’n rhaid iddynt ddisgwyl am y Gwasanaeth Ambiwlans. Nododd ei fod wedi trafod y mater â Phrif Swyddog y Cyngor Iechyd Cymunedol a’i ymateb ef oedd bod y Rhybudd o Gynnig yn disgrifio pryderon Aelodau’r Cyngor Iechyd Cymunedol yn gywir.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen a dywedodd fod y Cynghorydd Jeff Evans wedi cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig oherwydd ei brofiadau personol o orfod disgwyl am oriau i’r Gwasanaeth Ambiwlans roi gofal i’w deulu yn ystod eu salwch diweddar. Fodd bynnag, nododd fod y gwasanaeth o dan bwysau aruthrol a bod y pandemig wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd cyfan, ond nid yw’n dderbyniol bod cleifion yn gorfod disgwyl am oriau maith i’r Gwasanaeth Ambiwlans gyrraedd. Ychwanegodd ei fod o’r farn y dylid anfon llythyr at y Gwasanaeth Ambiwlans a Llywodraeth Cymru i fynegi pryder a nodi bod angen dybryd i wella’r amseroedd aros i gleifion.

 

Dywedodd yr Arweinydd bod y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn fater o bryder cenedlaethol. Nododd bod y materion y cyfeiriwyd atynt yn y Rhybudd o Gynnig wedi cael eu codi gyda Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a thrwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ran Arweinwyr Awdurdodau Lleol ledled Gogledd Cymru. Codwyd pryderon hefyd am y pwysau ar y Gwasanaethau Brys yng nghyfarfodydd Grŵp Arweinyddiaeth Gogledd Cymru ym mhresenoldeb cynrychiolwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig cydnabod y pwysau ar y Gwasanaethau Iechyd a’r Gwasanaethau Brys yn ystod cyfnod o bwysau eithriadol, ynghyd â’r gofynion ychwanegol oherwydd y pandemig.

 

Roedd Aelodau’r Cyngor yn unfrydol o blaid y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Jeff Evans a:-

 

PHENDERFYNWYD cefnogi’r cynnig. 

 

·           Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Robert Ll Jones, wedi’i ardystio gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Bryan Owen, Kenneth P Hughes a Peter Rogers:-

 

“Gofynnaf i’r Cyngor Sir wneud DATGANIAD ADEILADAU CARBON SERO NET ynghyd â RHOI CAMAU GWEITHREDU AR WAITH AR UNWAITH I GYFLAWNI’R YMRWYMIAD. MAE YFORY’N RHY HWYR.”

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

Dywedodd y Cynghorydd R Ll Jones fod y gynhadledd COP26 a gynhaliwyd yng Nglasgow yn ddiweddar wedi gwneud  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Strategaeth Hybu’r Gymraeg pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor ei dderbyn, adroddiad y Prif Weithredwr, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r argymhellion a gynhwysir yn y Strategaeth Hybu’r Gymraeg.

 

 

7.

Cynllun Trosiannol pdf eicon PDF 7 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor ei dderbyn, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r argymhellion a gynhwysir yn y Cynllun Trosiannol.

 

8.

Datganiad Polisi Gamblo 2022-2025 pdf eicon PDF 757 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor ei dderbyn, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion a gynhwysir yn y Datganiad o Bolisi Gamblo 2022-2025.