Mae cyfarfodydd y Cyngor bellach yn cael eu ffrydio’n fyw ar ein sianel YouTube.
Gallwch hefyd weld rhestr o’r cyfarfodydd a fydd yn cael eu cynnal cyn hir.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i ffrydion'n Fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoeddus fynychu)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem | |
---|---|---|
Datganiadau o Ddiddordeb I dderbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd Richard A Dew gysylltiad personol a rhagfarnus mewn perthynas ag Eitem 13 – Deddf Rhentu Cartrefi (Ffïoedd ac ati) (Cymru) 2019: Trefniadau Gweithredu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arni.
Datganodd y Cynghorydd Aled M Jones gysylltiad personol a rhagfarnus mewn perthynas ag Eitem 13 – Deddf Rhentu Cartrefi (Ffïoedd ac ati) (Cymru) 2019: Trefniadau Gweithredu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arni.
Datganodd y Cynghorydd R Meirion Jones gysylltiad personol mewn perthynas ag Eitem 17 – Datganiad Polisi Tâl a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arni.
Datganodd y Tîm Uwch-arweinyddiaeth gysylltiad personol a rhagfarnus mewn perthynas ag Eitem 17 – Datganiad Polisi Tâl a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arni.
|
||
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft o’r cyfarfodydd Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
• 7 Rhagfyr 2021 • 21 Rhagfyr 2021 (Cyfarfod Arbennig) • 11 Chwefror, 2022 (Cyfarfod Arbennig) Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cadarnhawydcofnodion y cyfarfodydd isod o’r Cyngor Sir yn rhai cywir:-
· 7 Rhagfyr, 2021 · 21 Rhagfyr, 2021 (Arbennig) · 11 Chwefror, 2022 (Arbennig)
|
||
I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: |
||
Cyflwyno Deisebau I dderbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddaeth yr un ddeiseb i law
|
||
Rhybudd o Gynigiad yn unol â Rheol 4.1.13.1 o'r Cyfansoddiad Cyflwyno Rhybudd o Gynigiad canlynol gan Arweinydd y Cyngor:-
Rydym fel Cyngor Sir Ynys Môn yn dangos ein cefnogaeth i bobl Wcráin gyda’r faner yn chwifio yn y Pencadlys a llaw gyfeillgar bobl Môn yn barod i roi lloches a chefnogaeth i’r rhai sydd angen.
Cyflwyno'r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd R Meirion Jones:-
1. Bod Cyngor Sir Ynys Môn yn gofyn i Lywodraeth San Steffan ddatganoli i Lywodraeth Cymru yr hawl a'r grym iddynt fedru creu gwyliau banc i Gymru.
2. Mae teimlad gan bobol Cymru, beth bynnag yw eu cefndir a'u traddodiad, i gefnogi nawddsant Cymru, Dewi Sant, ac i ddathlu hynny ar Fawrth y Cyntaf, yn flynyddol.
3. Ar hyn o bryd mae'r hawl i greu gwyliau banc wedi’i roi i Lywodraeth yr Alban ac i Lywodraeth Gogledd Iwerddon, ond nid i Lywodraeth Cymru. Felly, gofynnir i Lywodraeth San Steffan yn yr un modd ddatganoli - drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971 - yr hawl i greu gwyliau banc i Lywodraeth Cymru.
4. Mae galwad i sefydlu Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl banc yng Nghymru. Mae hyn wedi ei wrthod gan Lywodraeth San Steffan ar sail ariannol, ond byddai gŵyl banc yn hwb sylweddol i Ynys Môn yn ei chefn gwlad a'i thwristiaeth. Yn sylfaenol, nid mater o gost ydi hwn ond o werth ac egwyddor.
5. Trwy hyn gofynnwn i holl bobol Ynys Môn anfon at Lywodraeth San Steffan efo neges debyg i un ni uchod a chopïo eu Haelod Seneddol i'w neges. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: · Cyflwynwyd - y Rhybudd o Gynnig a ganlyn a dderbyniwyd gan Arweinydd y Cyngor:-
“Rydym ni, Gyngor Sir Ynys Môn, yn dangos ein cefnogaeth i bobl yr Wcráin trwy gael y faner yn y Pencadlys a chael help llaw pobl Môn, yn barod i roi lloches a chefnogaeth i’r rhai mewn angen.”
Eiliodd y Cynghorydd R Meirion Jones y Cynnig.
Cytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r Cynnig.
· Cyflwynwyd - y Rhybudd o Gynnig a ganlyn a dderbyniwyd gan y Cynghorydd R Meirion Jones :-
“ 1. Bod Cyngor Ynys Môn yn gofyn i Lywodraeth y DU yn San Steffan ddatganoli i Lywodraeth Cymru yng Nghymru yr hawl a’r pŵer i allu creu gwyliau banc i Gymru. 2. Mae teimlad ymysg pobl Cymru, beth bynnag fo’u cefndir a’u traddodiad, eu bod yn dymuno dathlu nawddsant Cymru, Dewi Sant, a’u bod yn dymuno gwneud hyn yn flynyddol ar y 1af o Fawrth. 3. Ar hyn o bryd, mae’r hawl i greu gwyliau banc wedi’i roi i Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon, ond nid i Lywodraeth Cymru. Felly, gofynnir yn yr un modd i Lywodraeth y DU yn San Steffan ddatganoli – drwy Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 – yr hawl i greu gwyliau banc i Lywodraeth Cymru. 4. Mae galwad i sefydlu Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yng Nghymru. Mae Llywodraeth Prydain yn San Steffan wedi gwrthod hyn ar sail ariannol ond fe fyddai gŵyl banc yn hwb sylweddol i Ynys Môn gyda’i chefn gwlad a thwristiaeth. Yn y bôn, nid mater o gost yw hyn ond mater o werth ac egwyddor. 5. Yn hyn o beth, gofynnwn i holl bobl Ynys Môn anfon neges debyg i’n neges ni uchod at Lywodraeth y DU yn San Steffan a rhoi enw eu Haelod Seneddol lleol ar gopi o’r neges.
Yn dilyn y bleidlais PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynnig. |
||
Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2020/21 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn adolygiad blynyddol rheoli trysorlys 2021/22.
|
||
Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys 2021/22 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn adolygiad canol blwyddyn rheoli trysorlys 2021/2022.
|
||
Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2022/23 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn y Datganiad ar Strategaeth Reoli Trysorlys 2022/23. |
||
Y Strategaeth Gyfalaf Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn y Strategaeth Gyfalaf.
|
||
(a) Cyllideb a Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022/23
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022.
(b) Cyllideb Cyfalaf 2022/23
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022.
(c) Gosod y Dreth Gyngor 2022/23
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: · Cymeradwyo'r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2022/23;
· Derbyn y Penderfyniadau drafft ar y Dreth Gyngor fel y’u nodwyd yn (c) ar yr Rhaglen.
|
||
Cynllun Tuag at Carbon Sero Net Cyngor Sir Ynys Môn 2022-2025 Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Mawrth 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn mabwysiadu'r Cynllun Tuag at Sero Net 2022/2025.
|
||
Strategaeth Dai 2022/2027 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo Strategaeth Dai 2022/2027.
|
||
Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) Cymru 2019: trefniadau gweithredu Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
|
||
Adroddiad Adolygu - Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cytuno i gyhoeddi’r Adroddiad ar yr Adolygiad a chyflwyno’r adroddiad i Lywodraeth Cymru, fel y gellid dechrau ar waith paratoi’r Cynllun newydd.
|
||
Adroddiad Drafft Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Mawrth 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad ar Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022.
|
||
Côd Llywodraethiant Lleol Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Cod Llywodraethu Lleol.
|
||
Datganiad Polisi Tâl 2022 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl y Cyngor am 2022.
|