Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Arbennig Rhithiol Wedi'i Ffrydio'n Fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd Dylan Rees datgan diddordeb personol yn Eitem 3 - Canolfan Addysg y Bont - Y tô. Yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol roedd modd i’r Cynghorydd Rees gymryd rhan a bwrw pleidlais mewn perthynas â’r eitem hon.

2.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 307 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Holodd y Cynghorydd Bryan Owen pam fod y mater yn ymwneud â tho Canolfan Addysg y Bont yn un i’w drafod o dan reolau cau allan y wasg a’r cyhoedd gan ei bod yn amlwg fod problem â strwythur y to gan fod y mater eisoes wedi’i drafod gan y Cyngor Llawn.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Interim fod y Prawf Budd y Cyhoedd wedi’i gwblhau mewn perthynas â’r eitem a bod y mater yn dod o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Fodd bynnag, mae’n benderfyniad i’r Cyngor Llawn a ddylid cau allan y wasg a’r cyhoedd ond y cyngor cyfreithiol yw y dylid gwneud hynny.  

 

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

3.

To Canolfan Addysg y Bont

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, fel sydd wedi’i adrodd i’r Cyngor Llawn eisoes, bod problemau wedi eu darganfod mewn perthynas â diffygion i strwythur y to sydd angen eu hatgyweirio yn helaeth a bod angen cyllid pellach er mwyn gallu talu am unrhyw waith ychwanegol a gwaith na ellir ei ragweld, petai’n codi.

 

Rhoddodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a’r Rheolwr Gwasanaethau Pensaernïol adroddiad llafar mewn perthynas â’r sefyllfa bresennol yng Nghanolfan Addysg y Bont gan gyflwyno’r adroddiad ysgrifenedig a oedd eisoes wedi’i ddarparu i Aelodau.

 

Holodd yr Aelodau gwestiynau pellach ac fe ymatebodd Swyddogion i’r cwestiynau.

 

Roedd Aelodau’r Cyngor Sir yn gytûn bod llesiant y disgyblion a oedd yn cael eu heffeithio gan y gwaith trwsio angenrheidiol i’r to yng Nghanolfan Addysg y Bont yn hanfodol ac y dylai unrhyw aflonyddwch i’w haddysg gael ei gadw i lefel mor isel ag sy’n rhesymol bosibl. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod cyswllt dyddiol yn cael ei gynnal â Phennaeth Canolfan Addysg y Bont o ran y trefniadau presennol i letya disgyblion mewn gwahanol leoliadau ac er mwyn sicrhau bod y trefniadau hynny’n dderbyniol. 

 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol y dylid:-

 

  • rhyddhau swm ychwanegol o £1.5 miliwn o falansau cyffredinol y Cyngor
  • awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer ymgymryd â’r gwaith atgyweirio a dyfarnu contract yn uniongyrchol i’r cyflenwr arbenigol heb yr oedi a’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig â dilyn proses gaffael lawn.
  • awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro, i barhau â hawliad i adennill costau’r gwaith atgyweirio a’r holl gostau cysylltiedig eraill gan unrhyw barti y bernir eu bod yn atebol am adeiladwaith diffygiol y to.