Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Arbennig Rhithiol wedi'i ffrydio'n fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Datganodd y Cynghorydd R Meirion Jones ddiddordeb personol gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd ac, ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, roedd yn gallu cymryd rhan yn y cyfarfod.

 

Datganodd y Cynghorydd Gary Pritchard ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd ac, ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, ni chymerodd ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar y mater. 2

 

Datganoddy Cynghorydd Robin Williams ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd ac, ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, ni chymerodd ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar y mater.

2.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithredig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

3.

Apwyntio Staff - Dirprwy Brif Weithredwr

Penderfynu a ddylid cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 29 Mawrth, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2022 mewn perthynas â phenodi Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2022 bod Mr Rhys Howard Hughes yn cael ei benodi yn Ddirprwy Brif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn;

·      bod rôl y Dirprwy Brif Weithredwr yn cael ei diwygio dros dro i gynnwys swyddogaethau statudol y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a Mesurau Llywodraethu Cymru 2021, ond yn ddarostyngedig i’r amod na chaiff y Dirprwy Brif Weithredwr, wrth gyflawni swyddogaethau statudol y rôl hon, arfer y pwerau a ddirprwyir i’r Prif Weithredwr o dan baragraff 3.5.3.2.10 y Cyfansoddiad, neu weithredu fel y Prif Weithredwr.