Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Arbennig Rhithiol wedi'i ffrydio'n fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Llun, 25ain Ebrill, 2022 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

I dderbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyhoeddiadau.

3.

Protocol Cyn-Etholiad ar gyfer Gweithwyr ac Aelodau Etholedig - Etholiadau Llywodraeth Leol- 5 Mai, 2022 pdf eicon PDF 83 KB

Derbyn cyflwyniad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas a Protocol Cyn-Etholiad ar gyfer Gweithwyr ac Aelodau Etholedig – Etholiadau Llywodareth Leol – 5 Mai, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Protocol Cyn Etholiad ar gyfer Gweithwyr ac Aelodau Etholedig ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol – 5 Mai, 2022 i’r Cyngor er gwybodaeth.

 

4.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad pdf eicon PDF 602 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Dros Dro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Dros Dro (Busnes y Cyngor)/Monitro fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill, 2022 i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio – Corfforaethol fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cyflwyno newidiadau i gylch gorchwyl rhai Pwyllgorau yn bennaf y Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio a Safonau.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod y newidiadau i'r Cyfansoddiad yn disgyn i 2 gategori sydd yn gyntaf angen diwygiadau i adlewyrchu'r Pwyllgor Safonau a Llywodraethu ac Archwilio fel y gwelir yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad ac yn ail gan fod yr adolygiad ffiniau diweddar wedi arwain at gynnydd yn nifer yr Aelodau Etholedig ar y Cyngor o 30 i 35 ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Effaith hyn yw y bydd angen newid nifer yr Aelodau ar rai pwyllgorau. Nododd ymhellach y bydd traean o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cynnwys aelodau lleyg (8 Aelod Etholedig a 4 Aelod Lleyg).

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn:-

 

·           Mabwysiadu’r newidiadau i’r Cyfansoddiad fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad;

·           Cytuno i'r newidiadau a argymhellir a dirprwyo'r hawl i'r Swyddog Monitro wneud y newidiadau i'r Cyfansoddiad fel yr argymhellir ynghyd ag unrhyw newidiadau atodol neu ganlyniadol sy'n codi.

 

 

5.

Penodi Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 221 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 19 Ebrill 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 19 Ebrill, 2022 i’r Cyngor ei dderbyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y derbyniwyd 13 o geisiadau a bod pedwar ymgeisydd wedi'u dewis ar gyfer cyfweliad. Mae Mr Dilwyn Evans, yr aelod lleyg presennol, wedi nodi ei fod yn fodlon gwasanaethu am ail dymor o bum mlynedd. Roedd y Panel yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cyfweld â’r pedwar ymgeisydd ym mis Chwefror 2022 a dewiswyd y canlynol i wasanaethu ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o fis Mai 2022 ymlaen:-

 

Mr Michael Wilson

Mrs Sharon Warnes

Mr William Parry

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio:-

 

·           Penodi'r tri ymgeisydd yn aelodau lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio;

·           Cytuno i benodi'r aelod lleyg presennol am ail dymor o bum mlynedd.