Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2022/23.

(Cyfeirir yr Aelodau at y ddogfen ‘Trefn y Gweithgareddau’ ar gyfer ethol Cadeirydd y Cyngor Sir).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unfrydol ethol y Cynghorydd Dafydd Roberts yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2022/23.

 

Wrth dderbyn y fraint o gael ei benodi, sicrhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y Cyngor y byddai’n ymdrechu i gyflawni ei ddyletswyddau fel Cadeirydd hyd eithaf ei allu. Diolchodd i’w ragflaenydd, y Cynghorydd Glyn Haynes, am gyflawni ei ddyletswyddau dinesig fel Cadeirydd y Cyngor Sir mor anrhydeddus.

 

Roedd y cyn Gadeirydd, y Cynghorydd Glyn Haynes, wedi anfon ei ymddiheuriadau.

 

2.

Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2022/23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Margaret Murley Roberts yn Is-Gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2022/23.

 

Diolchodd y Cynghorydd Margaret Murley Roberts i’w chyd Aelodau am y fraint a dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cadeirydd a’i gefnogi gyda’i ddyletswyddau yn ystod y flwyddyn nesaf.

 

3.

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol am ei gyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd y mae ei dymor yn dod i ben.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau.

 

4.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

5.

Cyflwyniad gan Ymgeisydd i Gefnogi ei Henwebiad i fod yn Arweinydd y Cyngor pdf eicon PDF 236 KB

Yn unol â Pharagraff 2.7.3.1 y Cyfansoddiad, ar ôl cyflwyno cyflwyniad ysgrifenedig (maniffesto) eisoes i’r Prif Weithredwr cyn 5:00 pm ar 12 Mai 2022 (a gefnogwyd gan ddau Gynghorydd arall trwy ysgrifennu i’r perwyl at y Prif Weithredwr), bydd yr ymgeisydd canlynol yn rhoi cyflwyniad llafar ar ei gweledigaeth a'i gwerthoedd: -

 

Y Cynghorydd: Llinos Medi Huws

 

[Nodyn 1: Gofynnir i’r sawl a enwebwyd, i gyflwyno ei chynigion a’i rhaglenni i'r Cyngor, a dylid disgwyl iddi gymryd cwestiynau gan Aelodau].

 

[Nodyn 2: Ni ddylai cyflwyniadau gymryd mwy na 10 munud ac ni chaniateir i unrhyw gwestiynau o'r llawr gymryd mwy na 10 munud; caniateir dim mwy nag 20 munud felly ar gyfer yr ymgeisydd].

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 2.7.3.1 y Cyfansoddiad, ac wedi iddi gyflwyno cyflwyniad ysgrifenedig (maniffesto) i’r Prif Weithredwr cyn 5.00pm ar 12 Mai 2022 (a gefnogwyd gan ddau Gynghorydd arall trwy ysgrifennu at y Prif Weithredwr), rhoddodd y Cynghorydd Llinos Medi gyflwyniad ar ei gweledigaeth a’i gwerthoedd.

 

6.

Penodi Arweinydd ar gyfer y Cyngor Sir

Ethol Arweinydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn (fel arfer am dymor o 5 mlynedd) yn unol ag Erthygl 7, ac yn benodol y rheolau gweithdrefn dan baragraffau 2.7.3.1 a 2.7.3.2 yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Llinos Medi yn Arweinydd ar Gyngor Sir Ynys Môn am gyfnod o 5 mlynedd yn unol ag Erthygl 7, ac yn benodol y rheolau gweithdrefn a gynhwysir ym Mharagraffau 2.7.3.1 a 2.7.3.2 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

(Fe wnaeth y Cynghorwyr Paul Ellis, Jeff Evans, Douglas M Fowlie, A M Jones, Robert Ll Jones, Derek Owen a Liz Wood atal eu pleidlais.)

 

7.

Dirprwy Arweinydd y Cyngor

Arweinydd y Cyngor i roi gwybod i’r Cyngor pwy y mae wedi ei dewis / ddewis i fod yn Ddirprwy Arweinydd (bydd raid i’r Dirprwy Arweinydd fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod wedi penodi'r Cynghorydd Carwyn Jones i wasanaethu fel Dirprwy Arweinydd.

 

8.

Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2022/23 pdf eicon PDF 367 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro ar Gydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau ar gyfer 2022/23.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           dderbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022/23;

 

·           cadarnhau y bydd deilyddion yr un swyddi â 2021/22 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau o 2022/23, heblaw am swydd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu lle bydd y ffioedd a bennir gan y Panel ar gyfer aelodau cyfetholedig yn berthnasol, hy:

 

Cadeirydd y Cyngor

Is-gadeirydd y Cyngor

Arweinydd y Cyngor

Dirprwy Arweinydd y Cyngor

Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (7)

Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf

Cadeiryddion Pwyllgorau Sgriwtini (2)

Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

·           awdurdodi swyddogion i ddiwygio Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau) i adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022/23.

 

9.

Cadarnhau Pwyllgorau

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau canlynol fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -

 

   Panel Tâl a Graddfeydd (Is-Bwyllgor o'r Cyngor)

   Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau

   Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol

   Is-Bwyllgor Indemniadau

 

[Gofynnir yn garedig i Aelodau nodi y cynhelir y cyfarfod a ohiriwyd o'r Cyngor hwn (yn unol â Pharagraff 4.1.1.1.2 o Gyfansoddiad y Cyngor) am 2.00pm ar Dydd Mawrth, 31 Mai, 2022].

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau canlynol fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol:-

 

·           Panel Tâl a Graddfeydd (is-bwyllgor o’r Cyngor)

·           Panel Penodi i’r Pwyllgor Safonau

·           Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

·           Cyd-bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig

·           Is-bwyllgor Indemniadau