Rhaglen a Phenderfyniadau

Cyngor Sir Ynys Môn - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 23ain Mai, 2023 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 951 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2023 yn gywir.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim wedi’u derbyn.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

None received.

4.

Rhybudd o Gynnig yn Unol  Rheol 4.1.13 .1 Y Cyfansoddiad

Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Llinos Medi:-

 

Rydym fel Cyngor Sir Ynys Môn yn gwahodd Eisteddfod Genedlaethol yr URDD i Ynys Môn yn 2026 mewn egwyddor . Mae’r Eisteddfod yn un o brif ddigwyddiadau ieuenctid drwy Ewrop a does unman gwell na Môn er mwyn llwyfannu digwyddiad Cymreig i bobl ifanc Cymru.”

 

Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas: -

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru I ail ymweld ar y penderfyniad i ddod a chymorth cyllid BES3 I ben 24/07/23 i fysus Cyhoeddus. Mae’r cyllid yn hanfodol bwysig i ddiogelu gwasanaethau bysiau ar yr ynys.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·           Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Llinos Medi:-

 

‘“Rydym ni fel Cyngor Sir Ynys Môn yn dymuno, mewn egwyddor, gwahodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Ynys Môn yn 2026. Yr Eisteddfod yw un o brif ddigwyddiadau ieuenctid Ewrop ac nid oes unman gwell nag Ynys Môn i lwyfannu digwyddiad Cymraeg ar gyfer pobl ifanc Cymru.”

 

PENDERFYNWYD derbyn y Cynnig yn unfrydol.

 

·           Cyflwynwyd – y cynnig canlynol gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas:-

 

‘Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad i ddod â chymorth ariannol BES3 ar gyfer bysiau cyhoeddus i ben ar 24/07/23. Mae’r arian hwn yn hanfodol bwysig i ddiogelu gwasanaethau bws ar yr Ynys.”

 

PENDERFYNWYD derbyn y Cynnig yn unfrydol.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim wedi’u derbyn.

 

6.

Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2022/23 pdf eicon PDF 171 KB

Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.11 o'r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Amherthnasol. Dim penderfyniad ei angen.

7.

Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn 2023-28 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a nodi chynnwys yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor.

 

8.

Hunan Asesiad Corfforaethol 2023 pdf eicon PDF 830 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Professiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r ddogfen fel ‘drafft gweithredol’ a gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i ystyried ei chynnwys ymhellach yn ei gyfarfod ar 29 Mehefin, 2023.