Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am
2023/24.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Margaret Murley Roberts yn Gadeirydd Cyngor Sir ar gyfer 2023/2024. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Glyn Haynes yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2023/2024.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim wedi’u derbyn.
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol am ei gyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd y mae ei dymor yn dod i ben.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio:-
Cynghorydd Llinos Medi (Arweinydd) Portffolio Datblygu Economaidd;
Cynghorydd Robin Williams (Dirprwy Arweinydd) Portffolio Cyllid;
Cynghorydd Ieuan Williams (Dirprwy Arweinydd) Portffolio Addysg a’r Gymraeg;
Cynghorydd Neville Evans Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol;
Cynghorydd Carwyn Jones Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer;
Cynghorydd Gary Pritchard Portffolio Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol), Ieuenctid a Gwasanaethau Tai;
Cynghorydd Alun Roberts Portffolio Gwasanaethu Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Diogelwch Cymunedol;
Cynghorydd Nicola Roberts Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd;
Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. |
|
Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, penodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad Penderfynwyd Ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn unol â Rhan 3.2 o’r Cyfansoddiad PENDERFYNWYD cadarnhau’r rhan honno o’r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arni. |
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -
· Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) · Is-Bwyllgor Indemniadau Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau y cyfeirir ato yn Adran o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol:-
· Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) · Is-Bwyllgor Indemniadau |
|
Rhaglen o Gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer 2023/24 Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -
· 12 Medi 2023 - 2:00 pm · 26 Hydref 2023 (Arbennig) - 2.00 pm · 5 Rhagfyr 2023 - 2:00 pm · 7 Mawrth 2024 - 2:00 pm · Mai 2024 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod:-
· 12 Medi, 2023 - 2.00pm · 26 Hydref, 2023 - 2.00pm · 5 Rhagfyr, 2023 - 2.00pm · Mai 2024 (Cyfarfod Blynyddol) – dyddiad i’w gadarnhau
|
|
Trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol yn y Cyngor Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD :-
· Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a’r nifer o seddi a ddyrennir i bob Grwp o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; · Bod Arweinyddion y Grwpiau yn hysbysu’r Pennaeth Democratiaeth cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw newid o ran aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.
|
|
Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cytuno a chadarnhau’r penodiadau fel y nodir yn y rhestr sydd ynghlwm â’r adroddiad.
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Derbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2023-2024;
· Cadarnhau y bydd deilyddion yr un Swyddi â 2022-2023 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau yn 2023-2024, hy:-
Cadeirydd y Cyngor; Is-Gadeirydd y Cyngor; Arweinydd y Cyngor; Dirprwy Arweinydd y Cyngor; Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (7) Arweinydd Grwp yr Wrthblaid fwyaf; Cadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini (2) Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
· Awdurdodi swyddogion i newid Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau) i adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-2024. |