Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr, 2023. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod arbennig y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023 yn gywir.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd Sonia Williams ddiddordeb personol gan ei bod yn wraig i’r Aelod Portffolio Cyllid. Datganodd y Prif Swyddogion ddiddordeb personol sylweddol mewn perthynas ag Eitem 12 – Datganiad Polisi Tâl 2024, ac nid oeddent yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar y mater. |
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.
|
|
Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys 2023/24 PDF 554 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Chwefror, 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr Adroddiad ar yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Canol Blwyddyn ar gyfer 2023/24.
|
|
Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2024/25 PDF 884 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Chwefror, 2024.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2024/25.
|
|
Strategaeth Gyfalaf 2024 - 2029 PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror, 2024.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2024/25 i 2028/2029.
|
|
(a) Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror, 2024.
(b) Cyllideb Cyfalaf 2024/25
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror, 2024.
(c) Penderfyniad Drafft ar osod y Dreth Gyngor 2024/25
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:- · Cymeradwyo’r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/2024. · Derbyn y Penderfyniad drafft ar y Dreth Gyngor a nodir fel (c) ar y Rhaglen. |
|
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Chwefror, 2024.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol i:-
· Gymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft y Cyngor ar gyfer 2024-2028; · Awdurdodi Swyddogion, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio, i gwblhau a chyhoeddi’r Cynllun erbyn 31 Mawrth 2024.
|
|
Adolygu Ardaloedd a Mannau Pleidleisio Ynys Môn PDF 249 KB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol :-
· Nodi canlyniad yr Adolygiad o Ardaloedd a Mannau Pleidleisio; · Bod y cynigion terfynol a nodir yn Atodiad 1 mewn perthynas ag ardaloedd pleidleisio, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio’n cael eu cymeradwyo.
|
|
Aelodaeth a Chyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) PDF 494 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol:-
· Addasu enw’r CYSAG i CYS a bod y Swyddog Monitro yn cynnwys ei gylch gorchwyl yng Nghyfansoddiad y Cyngor, yn unol â’r gofyniad cyfreithiol ar gyfer CYS; · Oherwydd bod rhaid i’r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr aelodaeth, yn gyffredinol, yn gymesur â chryfder pob crefydd, enwad, neu argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn ei ardal leol, bod aelodaeth y CYS yn cynnwys cyfanswm o 9 sedd, yn cynnwys 6 sedd ar gyfer yr aelodau presennol a 3 sedd newydd ychwanegol a benodir ar gyfer cynrychiolwyr o: Dyneiddwyr y DU, Islam a Thystion Jehova; · Cynnal adolygiad pellach, o fewn chwe mis, o’r seddi Cristnogol presennol (ac felly’n eithrio Tystion Jehova o’r ymgynghoriad nesaf) oherwydd sylwadau a wnaethpwyd pan ymgynghorwyd gyda CYSAG a’r ffigyrau sydd wedi dod i law.
|
|
Datganiad Polisi Tâl 2024 PDF 210 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaetth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2024/2025.
|