Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 366 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 30 Medi 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2022 yn gywir, yn amodol ar gynnwys enw'r Cynghorydd Non Dafydd yn yr aelodau oedd yn bresennol.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 – Hunan Asesiad Corfforaethol 2022 ac Eitem 5 - Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22.

 

Bu i’r Cynghorydd Robin Williams ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 – Hunan Asesiad Corfforaethol 2022 ac Eitem 5 - Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22.

 

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·      Estynnwyd llongyfarchiadau mawr i Meinir Thomas o Langefni sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngharfan Hoci Merched dros 55 oed yng Nghwpan y Byd yn Ne Affrica yn ddiweddar.  Mae hefyd yn chwarae pêl-droed i Dîm Merched Tref Amlwch.

·      Estynnwyd llongyfarchiadau i Steven Roberts, Rob Owen, Alan Whiston a Martin Jones o Dîm Pêl-droed Cerdded Amlwch, a gynrychiolodd Cymru yn nhîm cerdded dros 50 oed yn Bordeaux yn ddiweddar.

·      Estynnwyd llongyfarchiadau i John Pritchard o Amlwch a gynrychiolodd dîm cerdded Cymru dros 60 oed yn Her y Chwe Gwlad.

 

Ar ddydd Gwener, 21 Hydref, cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Carwyn Jones at y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i gau Pont Menai i'r holl draffig, a hynny ar unwaith, yn unol â chyngor peirianwyr strwythurol oherwydd materion strwythurol difrifol.  Ers cau'r bont, mae swyddogion o'r Cyngor Sir yn mynychu cyfarfodydd dyddiol gyda Llywodraeth Cymru ynghyd â sefydliadau partner sy'n cynnwys y sector trafnidiaeth, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru, y Bwrdd Iechyd lleol, colegau a'r gwasanaethau brys.  Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Mr Lee Waters AS ddatganiad llawn i'r Senedd yng Nghaerdydd gan ddweud bod trafodaethau'n digwydd ar y posibilrwydd o agor Pont Menai i'r gwasanaethau brys mewn argyfwng.  Ar hyn o bryd mae'r bont ar agor i gerddwyr a beicwyr sy'n cerdded gyda'u beics ac mae Llywodraeth Cymru'n monitro'r effaith ac wedi ymrwymo i agor y bont cyn gynted â phosib pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny. 

 

4.

Hunan Asesiad Corfforaethol 2022 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 20 Hydref 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 20 Hydref, 2022 i’w dderbyn gan y Cyngor. 

 

Cyflwynodd deilydd Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer yr adroddiad gan ddweud, fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bod dyletswydd ar y Cyngor i gynnal adolygiad o'i berfformiad a gwneud yn siŵr ei fod yn arfer ei swyddogaethau'n effeithiol, ei fod yn defnyddio ei adnoddau’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol a bod ei drefn llywodraethu’n effeithiol ar gyfer sicrhau'r materion a nodir uchod, yn ogystal â mewn cysylltiad â'r holl flynyddoedd ariannol sy’n destun adroddiad gan amlinellu ei gasgliadau o safbwynt pa raddau y bodlonir y gofynion perfformiad.   Ystyriwyd yr Hunanasesiad drafft ar gyfer 2021/2022 yn wreiddiol gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf, 2022 ac wedi hynny gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf, 2022.  Mabwysiadwyd y drafft gan y Cyngor llawn fel drafft gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2022  cyn gwahodd sylwadau pellach gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 20 Hydref, 2022 gyda 2 sylw arall y bwriedir eu cynnwys fel y nodir o fewn yr adroddiad.

 

Dywedodd Grŵp yr Wrthblaid fod pryderon wedi'u codi o'r blaen ynglŷn â system ffôn y Cyngor a’i bod yn dal i gael ei hystyried yn annigonol wrth ateb galwadau gan y cyhoedd.  Dywedodd Deilydd Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer bod gwelliannau wedi’u nodi yn y ffordd y caiff y system ffôn ei gweithredu a bod hynny wedi'u nodi yn yr adroddiad hunan asesiad gan yr Uwch Dîm Arwain.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Cytuno â'r addasiadau a restrir uchod yn yr adroddiad ac awdurdodi swyddogion i ddiwygio'r drafft terfynol;

·           Mabwysiadu’r Hunan Asesiad Corfforaethol 2022 a’i anfon at y rhai y rhestr ganlynol o fewn cyfnod o bedair wythnos yn dilyn y cyfarfod hwn fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 :-

·           Archwilydd Cyffredinol Cymru;

·           Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

·           Gweinidogion Cymru.

 

(Bu i’r Cynghorydd Douglas M Fowlie ymatal rhag pleidleisio)

 

5.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 19 Hydref 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Craffu Corfforaethol ar 19 Hydref, 2022 i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Cyflwynodd Deilydd Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer yr adroddiad gan ddweud, yn unol â'r Cyfansoddiad, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor baratoi a chyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol. Mae'r adroddiad yn ddogfen sy'n dadansoddi'r perfformiad dros y flwyddyn ariannol flaenorol yn erbyn y gwelliannau a'r blaenoriaethau a amlinellwyd gan y Cyngor. 

 

Cododd Grŵp yr Wrthblaid y premiwm ar eiddo gwag sy'n cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd a'r angen am system hyblyg er mwyn ymestyn y cyfnod pan mae'n rhaid cwblhau'r gwaith adnewyddu cyn bod y premiwm llawn yn daladwy.  Mewn ymateb, dywedodd Deilydd Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer fod y cyfnod ar gyfer gwaith adnewyddu ar eiddo gwag wedi cael ei ymestyn i 2 flynedd oherwydd ei bod yn anodd cael deunyddiau adeiladu ac adeiladwyr i wneud y gwaith.    

 

Cododd Grŵp yr Wrthblaid fater pellach, sef cyflwr gwael rhai ffyrdd gwledig ar yr Ynys.  Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff fod gwariant yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer ffyrdd Dosbarth A, B ac C gan mai’r ffyrdd hynny a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o'r traffig. 

  

PENDERFYNWYD mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/2022.

 

6.

Amseru Cyfarfodydd y Cyngor pdf eicon PDF 387 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 4 Hydref 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 4 Hydref, 2022 i’w dderbyn gan y Cyngor.

 

Yn ôl Cadeirydd y Gwasanaethau Democrataidd, dywedodd y Cynghorydd Keith Roberts, yn unol yn unol â'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 6(1) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gynnal arolwg o Aelodau mewn perthynas â’r amseroedd y cynhelir cyfarfodydd awdurdod lleol.  Anfonwyd arolwg at yr holl aelodau i gael eu barn.  Mae’r ymatebion i'r arolwg wedi’i cynnwys yn yr adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref, 2022 fel a ganlyn:-

 

·      bod yr amseroedd cychwyn presennol yn cael eu cadw ar gyfer cyfarfodydd cyffredin y Cyngor Sir (2.00 p.m.); Pwyllgor Gwaith (10.00 y bore) a dylai’r holl bwyllgorau eraill (2.00 p.m.) yn amodol ar amseroedd cychwyn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, a'r Pwyllgor Safonau, gael eu penderfynu gan y pwyllgorau hynny, yn dilyn cyngor gan eu prif swyddogion;

·      lle bo'n bosibl, dylid cynnal cyfarfodydd pwyllgor ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, gan gyfuno gwaith a chyfrifoldebau eraill gyda rôl aelod;

·      bod y Cyngor yn cymryd y cyfle i godi ymwybyddiaeth fod cymorth ariannol ar gael tuag at gostau gofal a chymorth personol; a

·      nodi, yn sgil canllawiau statudol drafft a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru, fod bwriad i gynnal adolygiad pellach o amseroedd, amlder a hyd cyfarfodydd pwyllgorau yn gynnar yn 2024.