Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 9fed Mawrth, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 374 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  6 Rhagfyr 2022

  26 Ionawr 2022( Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfodydd canlynol y Cyngor Sir yn gywir:-

 

·           6 Rhagfyr, 2022

·           26 Ionawr, 2023 (Arbennig).

 

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Prif Swyddogion ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 13 – Datganiad Polisi Tâl 2023 ac fe wnaethant adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.

 

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darllenodd y Prif Weithredwr ddatganiad ar y cyd gan Gwmni 2 Sisters ac Undeb Unite, a dderbyniwyd cyn y cyfarfod, a oedd yn nodi hyd yma na fu dewisiadau hyfyw eraill ond cau'r ffatri yn Llangefni. Yn ôl y datganiad, er budd gorau'r holl weithlu, bod cyfnod dirwyn i ben mor fyr ag sy'n weithredol bosibl, a'r bwriad yw mai'r dyddiad olaf o gynhyrchu fydd 31 Mawrth.

 

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-

 

·           Llongyfarchiadau mawr i Mr Wil Stewart sy'n Warden ym Mharc y Morglawdd yng Nghaergybi ar gael ei gydnabod am ei waith gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn ddiweddar.

 

·           Llongyfarchiadau mawr i Mr Owain Evans o Langefni, cyn ddisgybl o Ysgol Llangefni a oedd yn aelod o garfan rygbi Dan 20 Cymru yn y Chwe Gwlad yn ddiweddar.

 

·           Llongyfarchiadau mawr i Casi Evans o Benysarn, disgybl yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch a gynrychiolodd dîm Pêl-droed Cymru Dan 17 mewn cystadleuaeth ym Mhortiwgal fis Chwefror. Chwaraeodd yn erbyn Serbia, y Weriniaeth Tsiec a Phortiwgal. 

 

·           Llongyfarchiadau i Glwb Ffermwyr Ifanc Bodedern a fu'n cystadlu mewn noson adloniant cenedlaethol yn Pontio penwythnos diwethaf.

 

·           Llongyfarchiadau i Gôr Ieuenctid Môn am ennill yng Ngŵyl Côr Gogledd Cymru (Lleisiau Ifanc) yn ddiweddar.

 

·           Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn Hanner Marathon Môn yn ddiweddar.

 

·           Dymunai'r Cadeirydd ddiolch i blant Môn a gerddodd drwy'r trefi a'r pentrefi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Fawrth. Diolchodd i Fenter Iaith Môn am drefnu'r gorymdeithiau ac i staff MônActif am eu cefnogaeth.

 

·           Dymuniadau gorau i Mr William Young o Gaergybi sy'n perfformio rhan 'Lenni' yn y cynhyrchiad 'Of Mice and Men' yn Theatr Birmingham. Mae William yn gyn-ddisgybl o Ysgol Bodedern ac yn aelod o Hijinx Theatre North Academy ers 2014.  

 

*          *          *          *

 

Estynnwyd cydymdeimladau i deulu Mr Llŷr Bryn Roberts a oedd yn gweithio yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Estynnwyd cydymdeimladau i unrhyw Aelod o'r Cyngor neu'r Staff oedd wedi cael profedigaeth.

 

Cododd Aelodau a Swyddogion ar eu traed i dalu teyrnged mewn tawelwch.

 

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

 

5.

Rhybudd o Gynnig yn Unol  Rheol 4.1.13 .1 Y Cyfansoddiad

Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y CynghoryddLlinos Medi:-

 

“Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys i wytnwch cysylltiad Ynys Môn a’r tir mawr. Mae sefyllfa Ynys Môn yn unigryw i unrhyw ardal arall yng Nghymru oherwydd dim ond dau gysylltiad yn unig sydd, nid yn unig er mwyn cyrraedd ail borthladd prysuraf y Deyrnas Unedig ond hefyd i drigolion yr ynys byw eu bywydau dydd i ddydd. Mae angen sicrhau bo trigolion yr ynys yn gallu cael mynediad i waith, addysg a gwasanaethau brys. Hefyd, mae angen sicrhau cysylltiad economaidd i’r ynys o’r sector twristiaeth i’r cais Porthladd rhydd. Mae dyfodol economaidd a llesiant trigolion yr ynys yn ddibynnol ar y cysylltiad.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Llinos Medi:-

 

‘Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys i wytnwch cysylltiad Ynys Môn a’r tir mawr. Mae sefyllfa Ynys Môn yn unigryw i unrhyw ardal arall yng Nghymru oherwydd dim ond dau gyswllt yn unig sydd, nid yn unig er mwyn cyrraedd ail borthladd prysuraf y Deyrnas Unedig ond hefyd fel y gall trigolion yr ynys fyw eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae angen sicrhau bod trigolion yr ynys yn gallu cael mynediad i waith, addysg a gwasanaethau brys. Hefyd, mae angen sicrhau cysylltiad economaidd i’r ynys o bersbectif twristiaeth a’r cais am Borthladd rhydd. Mae dyfodol economaidd a llesiant trigolion yr ynys yn ddibynnol ar y cysylltiad.’

 

Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd Dafydd R Thomas.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones ei fod yn cefnogi bod angen edrych ar fyrder ar wydnwch y cysylltiad rhwng Ynys Môn a'r tir mawr a'r effaith ar drigolion lleol a thrigolion Ynys Môn pan gaewyd Pont Grog Menai ar fyr rybudd.  Argymhellodd y Cynghorydd Jones y dylid diwygio'r Cynnig fel bod pwysau yn cael ei roi ar Lywodraeth Cymru i ddigolledu'r busnesau ym Mhorthaethwy ynghyd â chynnig parcio am ddim am flwyddyn yn y meysydd parcio y mae'r Awdurdod yn gyfrifol amdanynt er mwyn annog pobl i'r siopau sydd wedi cael eu heffeithio. 

 

Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd Derek Owen.

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y trafodaethau'n dal i barhau ynglŷn â'r gefnogaeth i'r busnesau ym Mhorthaethwy gan nad yw'r gwaith angenrheidiol ar Bont Menai wedi'i orffen eto.  Roedd yn ystyried bod yr adolygiad i wytnwch y cysylltiad rhwng Ynys Môn a'r tir mawr yn fater gwahanol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod achos wedi'i anfon ymlaen at Weinidog Economi Llywodraeth Cymru am gymorth i fusnesau ym Mhorthaethwy yn dilyn gwaith a wnaed i gasglu gwybodaeth ac adolygiad gyda busnesau yn y Dref.  Ond mae'r ddadl dros iawndal wedi ei wrthod gan nad yw polisi Llywodraeth Cymru yn digolledu busnesau sydd wedi eu heffeithio yn sgil ffyrdd ar gau. 

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod, yn dilyn y cyngor cyfreithiol, o'r farn bod y Cynnig a gyflwynid gan yr Arweinydd a'r gwelliant gan Grŵp yr Wrthblaid yn faterion gwahanol ac o dan ddau Weinidog ar wahân o fewn Llywodraeth Cymru.  Fel Cadeirydd fe wrthododd y gwelliant i'r Cynnig. 

 

Dywedodd yr Arweinydd fod cymorth wedi dod i law'r holl wasanaethau brys ynglŷn ag adolygu gwytnwch y cysylltiad rhwng yr Ynys a'r tir mawr.  Dywedodd ymhellach fod angen sicrhau bod trigolion yr ynys yn gallu cael mynediad i waith yn ogystal â bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu cael cysylltiadau â'r tir mawr.

 

Yn dilyn pleidlais unfrydol:-

 

Pasiwyd y Cynnig.

 

6.

Rhyddhau Balansau'r Cyngor i Gyllido Costau Cyflog Ychwanegol mewn Ysgolion pdf eicon PDF 441 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151 Swyddog mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid fod diffyg ariannol yng nghyllidebau ysgolion oherwydd cost y dyfarniad cyflog i staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu.  Y dybiaeth oedd y byddai cyflog yn cynyddu 2.5%, i'r ddau gategori o weithwyr, fodd bynnag, mae'r dyfarniad cyflog, sy'n cael ei argymell i Lywodraeth Cymru gan gorff tâl annibynnol, wedi pennu'r dyfarniad cyflog ar 5%.  Argymhellodd y Pwyllgor Gwaith fod y Cyngor Llawn yn cau'r bwlch hwnnw gydag arian o gronfa gyffredinol y Cyngor gyda'r dyraniad ychwanegol i'w ddosbarthu i ysgolion drwy'r fformiwla ariannu.

 

PENDERFYNWYD rhyddhau £1.7m o’r balansau cyffredinol er mwyn ariannu’r costau ychwanegol a wynebir gan ysgolion.

 

7.

Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys 2022/23 pdf eicon PDF 885 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023 i’r Cyngor ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           derbyn yr Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli’r Trysorlys 2022/23.

·           cymeradwyo’r newid yn y terfyn gwrthbarti i awdurdodau lleol eraill yn unol ag adran 5.3.

 

8.

Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 pdf eicon PDF 1001 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023 i’r Cyngor ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/2024.

 

9.

Strategaeth Gyfalaf pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023 i’r Cyngor ei gymeradwyo.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid ei bod yn ofynnol o dan God Darbodus diwygiedig CIPFA (Medi 2017), fod pob awdurdod yn

llunio strategaeth gyfalaf. Yn y strategaeth gyfalaf hon, rhaid amlinellu’r cyd-destun tymor

hir i benderfyniadau am wariant cyfalaf a buddsoddi. Pwrpas y gofyniad hwn yw sicrhau bod awdurdodau’n gwneud penderfyniadau ar gyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion

gwasanaethau ac yn rhoi ystyriaeth briodol i stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb ariannol, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.  Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio ymhellach fod nifer o'r strategaethau hyn wedi'u cynnwys o fewn Cynllun y Cyngor.

 

Er ei fod yn cefnogi'r Strategaeth Gyfalaf tynnwyd sylw gan y Cynghorydd Aled M Jones at y cyfeiriad o fewn yr adroddiad at unedau busnes ym Mryn Cefni, Llangefni a Phenrhos, Caergybi a'i fod yn credu bod unedau busnes hefyd ar gael yn Amlwch.  Nododd fod angen cyfeirio at unedau bach yng Ngogledd Môn gan fod yr NDA wedi rhoi arian am yr ail flwyddyn tuag at ddatblygiadau o'r fath yn Amlwch.

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i godi unedau diwydiannol bychain yn Amlwch.  Nododd fod Cynllun y Cyngor yn cyfeirio at y ffaith fod yr Awdurdod yn ystyried datblygiad economaidd ar draws yr Ynys a’i fod yn rhan o'r Strategaeth Gyfalaf. 

 

PENDERFYNWYD derbyn y Strategaeth Gyfalaf.

 

10.

Cyllideb 2023/24 pdf eicon PDF 668 KB

(a)         Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2023/24

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd ’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023.

 

(b)         Cyllideb Cyfalaf 2023/24

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd ’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023.

 

(c)         Penderfyniad Drafft ar osod y Dreth Gyngor 2023/24

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd ’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y Gyllideb Refeniw a’r Dreth Gyngor ar gyfer 2023/2024, Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ddiweddaraf y Cyngor a defnyddio unrhyw gronfeydd untro i ategu’r gyllideb - Eitem 10 (a) i (c) o fewn yr Agenda.  Dywedodd fod y Pwyllgor Gwaith yn trafod cynigion cychwynnol y gyllideb yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2023 a'r setliad cyllideb dros dro yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi ar 14 Rhagfyr, 2022.  Cynigiodd y Pwyllgor Gwaith gyllideb ar gyfer 2023/2024 o £172.438m ac, o ystyried yr AEF dros dro o £123.555m, byddai angen cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor a defnyddio £1.78m o falansau cyffredinol y Cyngor i gydbwyso'r gyllideb.  Fodd bynnag, bu newid sylweddol sydd wedi effeithio ar y gyllideb ers cyflwyno'r cynigion drafft cychwynnol yn deillio o'r cyhoeddiad bythefnos yn ôl i gynnig cyflog cychwynnol i staff y Cyngor nad ydynt yn addysgu ar gyfer 2023/24 sy'n gyfystyr â chynnydd cyfartalog o ran tua 7%; Mae'r cyflogwr wedi cyflwyno hyn fel "cynnig llawn a therfynol". O ystyried bod cyllideb ddrafft 2023/24 yn caniatáu codiad cyflog o 3.5%, mae hyn yn golygu bod pwysau o £2m yn ychwanegol ar y gyllideb. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi ystyried sut y gellir ariannu'r gost ychwanegol hon ac mae'n cynnig gwneud hyn trwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn oherwydd ystyrir bod canfod £2m o arbedion heb ei gynllunio yn y cyfnod hwyr hwn yn afrealistig a bod cynnydd uwch yn y Dreth Gyngor yn annerbyniol.  Derbyniodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror, 2023 yr argymhellion.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Portffolio bwysigrwydd cael digon o arian wrth gefn i dalu costau ychwanegol o'r fath ac yn enwedig pan fo sefyllfaoedd annisgwyl yn codi. Yn sgil defnydd darbodus o arian y Cyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu modd cynyddu cronfeydd wrth gefn ac mae'r adnoddau ariannol hynny bellach ar gael i helpu'r Cyngor yn ystod cyfnodau anodd ac i roi sicrwydd ariannol iddo i'r dyfodol. Cynigiodd yr argymhellion i'r Cyngor llawn.

 

Eiliodd yr Arweinydd y cynnig a dymunai ddiolch i'r Aelod Portffolio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a'i staff am eu gwaith yn cyflwyno'r gyllideb cyn y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod cyllideb y Cyngor bron yn £175m, fodd bynnag, mae'n rhaid ystyried sut y bydd y Cyngor yn gwario'r adnoddau i gyd.  Cyfeiriodd at y cyfanswm sy'n cael ei wario ar gyflogi staff asiantaeth o fewn gwasanaethau'r Cyngor gan fod modd i bob gwasanaethau gyflogi staff asiantaeth heb orfod cadarnhau gyda'r Adran Adnoddau Dynol.  Roedd o'r farn y dylai pobl leol gael y cyfle i allu gwneud cais am y swyddi hyn a pheidio â llenwi'r swyddi gyda staff asiantaeth.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones am adroddiad ar nifer y swyddi o fewn y Cyngor sy'n cael eu llenwi gyda staff asiantaeth.  Hefyd dywedodd fod angen cynnig gwaith sy'n ofynnol gan y Cyngor i fusnesau lleol ar yr Ynys.  Dywedodd y Cynghorydd Jones  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Rhannu Swyddi ar y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 672 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023 i’r Cyngor ei gymeradwyo.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cynnwys gofyniad i awdurdodau lleol gynnwys trefniadau sy’n galluogi dau neu ragor o gynghorwyr i rannu swydd ar Bwyllgor Gwaith.  Tra bod Cyfansoddiad y Cyngor yn cynnwys darpariaeth i'r Arweinydd rannu swydd ac i ddau neu fwy o Gynghorwyr rannu swydd fel Aelodau Gweithredol: nid oes darpariaeth benodol ar gyfer rhannu rôl y Dirprwy Arweinydd. 

 

PENDERFYNWYD cytuno ir newidiadau Cyfansoddiadol er mwyn:-

 

·           caniatáu i un neu ragor o aelodau rannu swydd fel arweinydd, dirprwy arweinydd ac fel aelodau portffolio o’r Pwyllgor Gwaith;

·           caniatáu i’r uchafswm o aelodau a ganiateir ar y Pwyllgor Gwaith gael ei ddiwygio i adlewyrchu’r uchafswm statudol pan fo aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd; a

·           manylu ar y trefniadau mewn perthynas â chworwm a phleidleisio pan fo aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd; a:-

 

(a)   yn unol â’r geiriad yn Atodiad 1 yn yr adroddiad;

(b)   unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i’r penderfyniad hwn.

 

Os bydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud drwy drefniadau rhannu swyddi a/neu nifer yr unigolion sy'n derbyn cyflog uwch oherwydd trefniadau rhannu swyddi, bydd y Cyngor yn hysbysu Panel Taliadau Annibynnol Cymru (IRPW) ac yn rhoi cyhoeddusrwydd prydlon i hynny.

 

12.

Cynllun y Cyngor 2023-2028 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023 i’r Cyngor ei gymeradwyo.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes y Cyngor a Phrofiad Cwsmeriaid fod yr adroddiad yn benllanw 12 mis o waith paratoi, ac yn ystod y cyfnod yma, mae wedi bod yn broses o ddeall beth yr hoffai staff, cynghorwyr a thrigolion Ynys Môn weld y Cyngor yn canolbwyntio arno dros y pum mlynedd nesaf,  yn ystod cyfnod Cynllun y Cyngor.  Cafodd y broses ymgynghori ei hamlygu o fewn yr adroddiad. 

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at nodau ac amcanion strategol lefel uchel y Cyngor sef:-

 

·           Y Gymraeg – mwy o gyfleoedd i ddysgu a defnyddio'r iaith

·           Gofal Cymdeithasol a Llesiant – darparu'r cymorth cywir ar yr adeg cywir

·           Addysg – sicrhau darpariaeth effeithiol ar gyfer heddiw a chenedlaethau'r dyfodol

·           Tai – sicrhau bod gan bawb yr hawl i alw rhywle’n gartref

·           Economi – hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu economi'r Ynys

·           Newid Hinsawdd – ymateb i'r argyfwng, mynd i'r afael â newid a gweithio tuag at fod yn sefydliad sero net erbyn 2030. 

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr y bydd Cynllun y Cyngor yn gosod cyfeiriad, yn dylanwadu ac yn llywio gwaith a phenderfyniadau staff ac aelodau etholedig dros y 5 mlynedd nesaf i alluogi'r Ynys i fod yn ffyniannus a sicrhau y gall pawb ffynnu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod angen sicrhau bod darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar yr Ynys yn ddigonol i alluogi trigolion i allu mynd i'r gwaith ac yn benodol y llwybrau bysiau y mae'r Awdurdod yn gyfrifol amdanynt ar yr Ynys. 

 

Mewn ymateb, dywedodd Aelod Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff fod yr Awdurdod yn cynnal adolygiad o ddarpariaeth trafnidiaeth ar draws yr Ynys gyda'r nod o hybu pobl i gerdded, defnyddio cerbydau trydan, trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau bysiau cymunedol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023 – 2028.

 

13.

Datganiad Polisi Tâl 2023 pdf eicon PDF 580 KB

Cyflwyno adroddad gan y Pennaeth Proffesiwn - AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid i'r Cyngor gan Aelod Portffolio Cyllid, Busnes y Cyngor a Phrofiad Cwsmeriaid.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad ar Bolisi Tâl y Cyngor ar gyfer 2023.

 

14.

Trefniadau Polisi Cynllunio Newydd pdf eicon PDF 365 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023 i'r Cyngor ei gymeradwyo.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Cynllunio a Newid Hinsawdd fod penderfyniad wedi ei wneud gan Gyngor Môn a Gwynedd i derfynu'r cytundeb cydweithredu ar faterion polisi cynllunio ar 31 Mawrth, 2023.  Bydd yn rhaid i'r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd presennol gael ei ddiddymu a bydd angen i'r awdurdodau perthnasol wneud trefniadau newydd i gyfrannu tuag at greu Cynllun Datblygu Lleol newydd a gwaith cynllunio cysylltiedig. 

 

Penderfynwyd:-

 

·      Sefydlu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.

·      Diwygio'r Cyfansoddiad i ddiddymu'r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd a dirprwyo pwerau i'r Swyddog Monitro i weithredu'r newidiadau yma.