Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 290 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  24 Mai 2022 (Cyfarfod Arferol)

  24 Mai 2022 (Cyfarfod Blynyddol Cyntaf)

  31 Mai 2022 (Cyfarfod Blynyddol a Ohirwyd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir yn gywir:-

 

·      24 Mai, 2022 (Cyfarfod Cyffredinol)

·      24 Mai, 2022 (Cyfarfod Blynyddol Cyntaf)

·      31 Mai, 2022 (Cyfarfod Blynyddol a Ohiriwyd)

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

 

·           Llongyfarchwyd staff y Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gweithio ar gynllun Cartrefi Clyd y Cyngor Sir. Mae’r cynllun wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Plant mewn Gofal a bydd y seremoni’n cael ei chynnal ar 24 Tachwedd.

 

·      Llongyfarchwyd Band Pres Biwmares a ddaeth yn drydydd ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Prydain yn Cheltenham ar 18 Medi.

 

·           Llongyfarchwyd Mrs Gwenllian Owen, Rheolwr yr Economi Ymwelwyr ac Ardaloedd Arfordirol y Cyngor, am gwblhau Her Ultra yn ddiweddar. Cerddodd 50km o Runnymede i Henley-on-Thames fel rhan o Her Llwybr Tafwys i godi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant. Mae Mrs Owen wedi codi dros £550 ar gyfer cleifion sy’n derbyn gofal a’u teuluoedd.

 

·           Dywedodd y Cadeirydd iddo longyfarch Casi Evans o Benysarn yn ddiweddar am gael ei dewis i Garfan Pêl-droed Dan 16 Cymru i chwarae yn erbyn Denmarc, Y Ffindir a’r Swistir yn ystod y Pasg. Ers hynny mae Casi, sy’n ddisgybl yn Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch, wedi cynrychioli Cymru fel aelod o Dîm Dan 16 Cymru yn yr Unol Daleithiau a Thîm Dan 17 Cymru yng Nghroatia.

 

*          *          *          *

 

Croesawodd y Cadeirydd Mr Marc Berw Hughes, y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc newydd i gyfarfod o’r Cyngor Sir Llawn a dymunodd yn dda iddo yn y swydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd hefyd fod Estyn wedi cyhoeddi ei adroddiad ar yr Awdurdod Addysg yn ddiweddar. Mae’r adroddiad yn llawn canmoliaeth am y gwasanaethau addysg a ddarperir gan yr Awdurdod.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cyngor Sir yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun newydd y Cyngor ar hyn o bryd. Gofynnodd i aelodau etholedig annog etholwyr i gymryd rhan yn y broses ymgynghori.

 

*          *          *          *

 

Ar ran y Cyngor Sir, estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad dwysaf â’r Teulu Brenhinol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.

 

Safodd Aelodau a Swyddogion mewn teyrnged dawel.

 

4.

Aelodau Pwyllgor Gwaith Cynorthwyol pdf eicon PDF 223 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Medi 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod Adran 57 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cyflwyno darpariaethau sy’n caniatáu penodi aelodau etholedig i gynorthwyo’r Pwyllgor Gwaith (cynorthwywyr). Dim ond drwy benderfyniad gan y Cyngor llawn y gellir rhoi Adran 57 ar waith. Ni ellir penodi mwy na thri chynorthwyydd i’r Pwyllgor Gwaith ar unrhyw adeg ac nid oes tâl am gyflawni’r rôl. Bydd yr holl delerau ac amodau eraill yn cael eu penderfynu gan yr Arweinydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion o dan A.2 yn yr adroddiad.

 

5.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Mr John R Jones.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol cyntaf y Pwyllgor Safonau gan Mr John R Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

Dywedodd Mr Jones fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (‘y Ddeddf’) wedi cyflwyno dyletswyddau newydd ar y Pwyllgor Safonau a’r Cyngor mewn perthynas â gwella safonau ymddygiad Cynghorwyr a Chynghorwyr Cyfetholedig yn y Cyngor ac mewn perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned. Nododd fod yr adroddiad yn amlinellu’r dyletswyddau a gyflwynwyd gan y Ddeddf a’r gwaith y mae’r Pwyllgor Safonau wedi’i wneud i baratoi ar gyfer y prif ddarpariaethau, a fydd ar ffurf Rheoliadau, ac sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Pwyllgor Safonau wedi ymateb i’r ymgynghoriad ac mae ymateb y Pwyllgor wedi’i gynnwys yn yr adroddiad fel Atodiad 1. Ychwanegodd Mr Jones fod yr adroddiad hefyd yn amlinellu’r gwaith y mae’r Pwyllgor wedi’i wneud yn unol â’i gyfrifoldebau yn 2021/22 a chyflwynwyd y Rhaglen Waith ar gyfer 2022/23 i’r Cyngor ei chymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           derbyn yr adroddiad a nodi’r dyletswyddau newydd a osodwyd ar y Pwyllgor Safonau ac Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol a gyflwynwyd yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

·           derbyn yr adroddiad ar Weithgareddau’r Pwyllgor Safonau yn 2021/22;

·           cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2022/23.

 

(Bu i’r Cynghorwyr Paul Ellis, Jeff Evans, Douglas M Fowlie, Aled M Jones, Derek Owen a Liz Wood atal eu pleidlais).

 

6.

Hunan Asesiad Corfforaethol 2022 (Drafft) pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid mewn perthynas â’r uchod.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer yr adroddiad, a nododd ei bod yn ofynnol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), i bob cyngor yng Nghymru adolygu ei berfformiad yn barhaus, sef i ba raddau y mae’n arfer ei swyddogaethau’n effeithiol; y mae’n defnyddio adnoddau’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol ac i ba raddau y mae ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol o ran cyflawni’r ddau fater cyntaf. Mae disgwyl i bob cyngor gyflawni’r ddyletswydd hon drwy gynnal hunanasesiad ac mae’n rhaid iddynt gyhoeddi adroddiad ar ganlyniad yr hunanasesiad. Yn unol â’r gofyniad hwn, paratowyd hunanasesiad cyntaf y Cyngor ar gyfer 2021/22.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r adroddiad.

 

7.

Sefydlogrwydd y Farchnad Rhanbarthol a Lleol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Medi 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Medi 2022.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad, sy’n ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014), gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid. Nododd fod awdurdodau lleol yn wynebu heriau yn dilyn y pandemig ac yn ystod yr argyfwng costau byw. Ychwanegodd fod poblogaeth sy’n heneiddio ar yr Ynys yn gallu rhoi mwy o bwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad ar gyfer Gogledd Cymru a’r Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad ar gyfer Ynys Môn.