Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir:-
• 26 Medi 2024 • 6 Tachwedd 2024 (Arbennig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol o Gyngor Sir Ynys Môn yn gywir:-
· 26 Medi, 2024 · 6 Tachwedd, 2024 (Arbennig)
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Derek Owen ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig ag Eitem 4 – Rhybudd o Gynnig – Mân-ddaliadau gan fod ei frawd yn rhentu mân-ddaliad.
|
|
Derbyn Unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-
· Llongyfarchiadau i Lucas Williams o Gaergybi a enillodd deitl y Gymanwlad yn ddiweddar am godi pwysau yn Ne Affrica. Enillodd ddwy fedal Aur a medal Arian a hefyd enillodd deitl cyffredinol y bencampwriaeth fel y codwr pwysau iau gorau. · Llongyfarchiadau i Bleddyn Môn yn wreiddiol o Laneilian a ddewiswyd i fod yn rhan o Dîm Inneos Prydain yng nghystadleuaeth hwylio nodedig Cwpan America yn Barcelona ym mis Hydref. Mae Bleddyn wedi bod yn cynrychioli Prydain Fawr mewn digwyddiadau hwylio ers yn 13 oed, a dyma'r trydydd tro iddo fod yn rhan o ymgyrch Cwpan America Prydain. · Llongyfarchiadau i Gail Manning, o Gaergybi a enillodd gapiau swyddogol mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd yn ddiweddar am gynrychioli Cymru mewn pêl-droed. Dyfarnodd y seremoni gapiau i'r holl ferched a gynrychiolodd Cymru rhwng 1973 a 1993. Chwaraeodd Gail dros Lerpwl a Dinas Bangor ac roedd hi'n dal i chwarae tan yn ddiweddar i Amlwch a Bae Trearddur. · Llongyfarchiadau i Glwb Pêl-droed Holyhead Hotspur ar gyrraedd trydedd rownd Capan Cymru. · Da oedd gweld Côr Meibion Goronwy yn cynrychioli'r Ynys drwy ganu cyn gêm rygbi Cymru yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd fis diwethaf. Ffurfiwyd y côr ym Menllech yn 2016 gyda'r bwriad o adnewyddu diddordeb mewn canu corau meibion lleol. Mae'r côr wedi tyfu mewn niferoedd ac enw da ers hynny. · Llongyfarchiadau i Dylan Jones o Gastellior, Porthaethwy, a enillodd wobr Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn ‘Farmers Weekly’ ar gyfer 2024 yn ddiweddar. Dyfarnwyd y wobr iddo am wneud newidiadau beiddgar i'w fusnes ffermio sydd wedi arwain at fferm fwy ecogyfeillgar ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol. · Llongyfarchiadau i Tecwyn Jones o Ynys Môn a enillodd y brif gystadleuaeth ym Mhencampwriaeth y Gwartheg yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn ddiweddar. · Llongyfarchiadau i Rhys Owen o Lanerchymedd a enillodd y brif gystadleuaeth yn yr adran Bîff Ifanc yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn ddiweddar. · Mae’n bleser cael talu teyrnged i Poppy Roberts, 14 oed o Ynys Môn, a enillodd wobr Gofalwr Ifanc Eithriadol 2024 yn ddiweddar yn seremoni Plant Cymru yn Abertawe. · Llongyfarchiadau i Daisy Richards, sy'n gweithio yng Nghartref Gofal Nyrsio a Dementia Fairways Newydd yn Llanfairpwll a dderbyniodd Wobr Aur Urddas mewn Gofal yn seremoni Gwobrau Gofal Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Derbyniodd hefyd Wobr Efydd Gwasanaeth Rhagorol yn y digwyddiad. · Dymuniadau gorau a gwellhad buan i’r Cynghorwyr Carwyn Jones a Ken Taylor sydd wedi treulio cyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar. · Llongyfarchiadau i Fwrdd Crwn Caergybi a digwyddiadau eraill dros gyfnod y Nadolig. * * * * Cydymdeimlodd ag unrhyw aelod etholedig, neu aelod o staff arall sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion fel arwydd o barch.
|
|
Rhybudd o Gynnig yn Unol  Rheol 4.1.13 .1 Y Cyfansoddiad • Derbyn y Rhybuddion o Gynnig isod gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes: -
• “Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i fabwysiadu polisi hollgynhwysfawr o wrthwynebiad i ddatblygiad ffermydd solar yng nghefn gwlad Ynys Môn.”
• “Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn, o ganlyniad i’r ansicrwydd o fewn y diwydiant amaethyddol, i gadarnhau ei ymrwymiad i amaeth ar Ynys Môn drwy sicrhau bod yr holl waith trwsio angenrheidiol i adeiladau amaethyddol yn Stad Mân-ddaliadau y Cyngor Sir yn cael ei gwblhau fel mater o frys. Yn ogystal, bod adolygiad o’r fformiwla cyllido ar gyfer y Stâd Mân-ddaliadau yn cael ei chychwyn.”
• Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Derek Owen: -
”Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i geisio cyfarfod brys â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Ed Miliband, er mwyn ei alluogi i gadarnhau dyddiad dechrau ar gyfer prosiect Wylfa Newydd ar safle Wylfa yng Nghemaes.
Safle Wylfa yw’r gorau yn Ewrop ar gyfer lletya gorsafoedd pŵer niwclear neu orsafoedd.
Mae hyn yn dilyn y llythyr a anfonwyd gan Gyngor Cymuned Llanbadrig yn ceisio atebion.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Cyflwynwyd – Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes:-
‘Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i fabwysiadu polisi hollgynhwysfawr o wrthwynebiad i ddatblygiad ffermydd solar yng nghefn gwlad Ynys Môn.’
Cafodd y cynnig hwn ei dynnu'n ôl.
· Cyflwynwyd – Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes:-
‘Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn, o ganlyniad i’r ansicrwydd o fewn y diwydiant amaethyddol, i gadarnhau ei ymrwymiad i amaeth ar Ynys Môn drwy sicrhau bod yr holl waith trwsio angenrheidiol i adeiladau amaethyddol yn Stad Mân-ddaliadau'r Cyngor Sir yn cael ei gwblhau fel mater o frys. Yn ogystal, bod adolygiad o’r fformiwla cyllido ar gyfer y Stâd Mân-ddaliadau yn cael ei chychwyn’’.
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes bod y Cyngor yn arfer gwerthu mân-ddaliadau i ariannu gwaith cynnal a chadw ar weddill y ystâd. Mae gwerthu mân-ddaliadau’n lleiniau’r cyfleoedd i bobl sydd â diddordeb ym myd amaeth i rentu mân-ddaliad. Dywedodd bod hanner yr incwm rhent o’r ystâd bellach yn mynd i gronfa ganolog y Cyngor; ond yn y gorffennol roedd yr holl incwm yn mynd i’r gronfa ganolog. Mae tenantiaid yn gorfod aros misoedd, a thros flwyddyn mewn rhai achosion, i waith trwsio a chynnal a chadw gael ei wneud. Cyfeiriodd at un mân-ddaliad a oedd wedi bod yn wag ers blwyddyn a hanner.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y Cyngor yn falch o fod yn berchen ar yr ail ganran uchaf o fân-ddaliadau yng Nghymru. Dywedodd bod yr ystâd yn hollbwysig i ffyniant yr ynys. Mae’n heriol dod o hyd i gyfalaf i gynnal a chadw’r ystâd ac nid oes cyllid penodol ar gael gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y bydd Cynllun Strategol yn cael ei lunio o fewn y Cyngor yn gysylltiedig â’r ystâd mân-ddaliadau ac y bydd ef fel Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet Cyllid a’r Aelod Cabinet Materion Gwledig i ofyn am ganiatâd i ryddhau cyllid cyfalaf o’r gyllideb gyfredol er mwyn cynnal a chadw adeiladau ac anheddau yn yr ystâd mân-ddaliadau ac i wireddu gweledigaeth sero net y Cyngor erbyn 2030.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod gan y Cyngor 92 o denantiaid a bod yr ystâd dros 6,000 o aceri. Nododd ymrwymiad y Cyngor i’w ystâd mân-ddaliadau a’r diwydiant amaeth ar yr Ynys, sy’n cyfrannu i’r economi wledig a chefnogi pobl ifanc i ffermio. Dywedodd bod £300k yn cael ei fuddsoddi ar hyn o bryd i gynnal a chadw a gwella’r ystâd. Bydd y Polisi Strategol ar gyfer Mân-ddaliadau yn weithredol am gyfnod o ddeng mlynedd ac mae Gweithgor trawsbleidiol wedi cael ei sefydlu i weld sut y gellir moderneiddio’r ystâd a mynd i’r afael â’r problemau ariannol i sicrhau dyfodol i’r ystâd mân-ddaliadau.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod amaeth yn bwysig i economi’r Ynys, ac roedd yn croesawu’r ffaith bod Gweithgor wedi cael ei sefydlu i drafod yr ystâd mân-ddaliadau. Nododd y bydd y Cynghorydd Kenneth ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol a Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.
|
|
Adolygiad Rheoli'r Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2023/24 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Hydref 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Hydref, 2024 i’w dderbyn gan y Cyngor.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai ei bod yn ofynnol i’r Cyngor, yn unol â rheoliadau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, lunio adolygiad rheoli’r trysorlys blynyddol o’i weithgareddau a’r dangosyddion darbodus a thrysorlys gwirioneddol ar gyfer 2023/24. Dywedodd bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn unol â’r Cynllun Dirprwyo, wedi craffu ar yr adroddiad ar 19 Medi 2024 a’i gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith heb sylwadau ar 22 Hydref 2024. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor llawn heb sylwadau pellach.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2023/24 sy'n cadarnhau bod y gweithgareddau Rheoli Trysorlys a gynhaliwyd yn ystod 2023/24 yn unol â Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2023/24 ac y cydymffurfiwyd â'r cyfyngiadau a nodir yn y strategaeth.
|
|
Datganiad o'r Cyfrifon 2023/2024 a'r Adroddiad ISA 260 Cyflwyno’r canlynol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Tachwedd, 2024: -
· Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 – Datganiad o’r Cyfrifon 2023/24.
· Adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid – Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/2024.
· Adroddiad Archwilio Allanol ynghylch yr archwiliad o’r datganiadau ariannol. (Adroddiad ISA 260).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio at 27 Tachwedd, 2024 i’w dderbyn gan y Cyngor.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai bod y Datganiad Cyfrifon drafft 2023/2024 wedi cael ei gyflwyno i archwilwyr allanol y Cyngor, Archwilio Cymru, i’w archwilio ar 28 Mehefin, 2024. Yn amodol ar gadarnhad y Cyngor, bydd y Cyfrifon yn cael eu llofnodi gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a Chadeirydd y Cyngor a byddant yn cael eu cyhoeddi yn dilyn derbyn barn derfynol yr Archwilydd. Estynnwyd y dyddiad cau statudol ar gyfer cwblhau'r Cyfrifon Archwiliedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 i 30 Tachwedd 2024 ond oherwydd yr amserlen cyfarfodydd dyma’r cyfle cyntaf i’r Cyngor ystyried y Datganiad Cyfrifon a cheir ei lofnodi wedi hynny.
PENDERFYNWYD derbyn Datganiad Cyfrifon 2023/24 ac awdurdodi Cadeirydd y Cyngor Sir a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i arwyddo’r cyfrifon.
|
|
Cydbwysedd Gwleidyddol Pwyllgorau Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth i’w dderbyn gan y Cyngor.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod newid yng nghydbwysedd gwleidyddol y Cyngor sy’n effeithio dyraniad seddi ar rai pwyllgorau yn dilyn canlyniadau isetholiad ward Talybolion ym mis Hydref.
PENDERFYNWYD:-
· Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar gyfer dyrannu seddi pwyllgor. · Bod Arweinyddion y Grwpiau yn hysbysu’r Pennaeth Democratiaeth cyn gynted ag y bo modd ynglŷn ag unrhyw newid o ran aelodaeth grwpiau ar Bwyllgorau.
|
|
Datganiad Polisi Gamblo 2025-2028 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y Datganiad Polisi Gamblo 2025/2028 i’w gymeradwyo gan y Cyngor.
Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion bod yn rhaid i’r Cyngor fabwysiadu Datganiad Polisi Gamblo bob tair blynedd, yn unol â Deddf Gambo 2005. Mae’r Polisi hwn yn nodi’r modd y bydd y Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â rheoleiddio sefydliadau gamblo.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Polisi Gamblo ar gyfer 2025-2028.
|