Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag Eitem 3 - Canolfan Addysg y Bont - Atgyweirio’r To gan ei fod yn Llywodraethwr yng Nghanolfan Addysg y Bont. Dywedodd ei fod wedi derbyn cyngor cyfreithiol a’i fod yn cael cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadau’r canlynol:-
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.
|
|
Canolfan Addysg y Bont - Atgyweirio'r Tô Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo’r adroddiad a oedd eisoes wedi cael ei rannu â’r Aelodau.
Roedd yr adroddiad yn egluro’r opsiynau cyfreithiol sydd ar gael i’r Cyngor er mwyn ceisio adennill y gost o adfer y to sedwm yng Nghanolfan Addysg y Bont, Llangefni.
Nodwyd bod y gwaith ar y to wedi’i gwblhau ym mis Ionawr 2023, ac roedd cyfanswm y gost i’r Cyngor yn £2.6 m. Roedd y swm yma wedi cael ei ryddhau o gronfeydd wrth gefn y Cyngor.
Penodwyd cyfreithwyr arbenigol i gynghori’r Cyngor ar y posibilrwydd o adennill cost y gwaith adfer, a chomisiynwyd tyst arbenigol annibynnol.
Gan nad yw’r dystiolaeth derfynol yn ddigonol i gefnogi achos y Cyngor, mae’r Cyfreithwyr arbenigol (a’r Cwnsler) wedi cynghori yn erbyn cychwyn achos llys oherwydd y risg afresymol o gostau cyfreithiol sylweddol (hyd at £1.5m) pe byddai’r Cyngor yn aflwyddiannus.
Felly, roedd y swyddogion yn argymell peidio mynd â’r mater i’r llys. Eglurwyd hefyd, yn ogystal â’r gost o adfer y to, bod £60k wedi cael ei wario ar gostau cyfreithiol a thyst arbenigol.
Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau holi’r Swyddogion, Arweinydd y Cyngor a’r aelodau perthnasol o’r Pwyllgor Gwaith.
PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
|