Rhaglen a Phenderfyniadau

Cyfarfod Blynyddol, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 12fed Mai, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 692 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2026 yn gywir.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Fe wnaeth y Cynghorydd Celfyn Furlong ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 7 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Derek Owen ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 7 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Alun Roberts ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 7 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr.

 

Fe wnaeth Mr Arwel Owen, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 7 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr.  

 

3.

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd neu’r Prif Weithredwr, ac unrhyw sylwadau terfynol gan y Cadeirydd ar ei chyfnod yn yn swydd y mae ei thymor yn dod i ben.

Dogfennau ychwanegol:

4.

Rhybudd o Gynnig

Derbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Neville Evans:-

 

‘Rwyf yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gydnabod Ynys Môn fel Sir sydd a dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg fel a nodir yn adroddiad Comisiwn y Cymunedau Cymraeg a gadeiriwyd gan Dr Simon Brooks. 

 

Gyda Llywodraeth newydd yn cychwyn ar ei gwaith ym Mae Caerdydd, rwy’n galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac i annog gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn atgyfernethu’r Gymraeg fel iaith fyw o fewn ein cymunedau yma ar yr ynys.’

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Neville Evans : - 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynnig i alw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gydnabod Ynys Môn fel Sir sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg fel y nodir yn adroddiad Comisiwn y Cymunedau Cymraeg a gadeiriwyd gan Dr Simon Brooks.    Gyda Llywodraeth newydd yn cychwyn ar ei gwaith ym Mae Caerdydd, galwodd ar Gyngor Sir Ynys Môn i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac i annog gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn atgyfnerthu'r Gymraeg fel iaith fyw o fewn ein cymunedau yma ar yr ynys.’

 

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.

 

6.

Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2025/26 pdf eicon PDF 45 KB

Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ddim yn berthnasol.  Nid oedd angen penderfyniad.

 

7.

Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr yn Ynys Môn (yn unol â chanllawiau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru).

 

8.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2026/27.

 

(Cyfeirir yr Aelodau at y ddogfenTrefn y Gweithgareddauar gyfer Ethol Cadeirydd y Cyngor Sir).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn unfrydol, ethol y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2026/2027.

 

9.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2026/27.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Jackie Lewis yn Is-gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2026/2027.

 

10.

Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae ef wedi ei ddewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd yr Aelodau canlynol a ddewiswyd ganddo i fod yn Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u cyfrifoldebau Portffolio:-

 

Y Cynghorydd Gary Pritchard (Arweinydd) gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Datblygu Economaidd;

 

Y Cynghorydd Robin Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Cyllid, Busnes y Cyngor a Phrofiad y Cwsmer;

 

Y Cynghorydd Neville Evans gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Gwasanaethau Oedolion;

 

Y Cynghorydd Carwyn Jones gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol;

 

Y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Plant, pobl Ifanc a Theuluoedd;

 

Y Cynghorydd Alun Roberts gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo; 

 

Y Cynghorydd Dafydd Roberts gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Addysg a’r Gymraeg;

 

Y Cynghorydd Nicola Roberts gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd;

 

Y Cynghorydd Ieuan Williams gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd. 

 

11.

Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn unol â Rhan 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

12.

Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn unol â Rhan 3.2 o’r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno.

 

13.

Cadarnhau Pwyllgorau

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -

 

·     Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau

·     Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS)

·     Is-Bwyllgor Indemniadau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol: -

 

·       Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau;

·       Y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS);

·        Is-bwyllgor Indemniadau

 

14.

Rhaglen Cyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer 2026/27

Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -

 

·  24 Medi 2026                                 -           1:00 pm

·  8 Rhagfyr 2026                               -           1:00 pm

·  4 Mawrth 2027                                -           1:00 pm

·  Mai 2027 (Cyfarfod Blynyddol)      -          dyddiad i’w gadarnhau

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredinol y Cyngor Sir am y flwyddyn nesaf: -

 

·     24 Medi, 2026     -         1.00 pm

·     8 Rhagfyr, 2026 -         1.00 pm

·     4 Mawrth, 2027 -         1.00 pm

·      Mai 2027 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau

 

15.

Cydbwysedd Gwleidyddol Pwyllgorau pdf eicon PDF 211 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD :-

 

·      Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddi a ddyrannwyd i bob Grŵp o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

·      Bod y seddi sydd heb eu dyrannu yn cael eu neilltuo rhwng y ddau aelod unigol;

·      Bod Arweinyddion Grwpiau yn hysbysu’r Pennaeth Democratiaeth cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw newid o ran aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.

 

16.

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol pdf eicon PDF 228 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Demoncrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cytuno a chadarnhau’r penodiadau fel y nodir yn yr atodlen i’r adroddiad.

 

17.

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru – Adroddiad Blynyddol ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2026-27 pdf eicon PDF 217 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 12 Mawrth 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD :-

 

·        Derbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2026-27;

·        Cadarnhau y bydd deiliaid yr un swyddi â 2025-26 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau yn 2026-27, sef:-

 

Cadeirydd y Cyngor;

Is-gadeirydd y Cyngor;

Arweinydd y Cyngor;

Dirprwy Arweinydd y Cyngor;

Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (7);

Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf;

Cadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini   

(2);

Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

·        Awdurdodi Swyddogion i newid Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau) er mwyn adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2026/27.