Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mr Huw Jones
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddiddordeb personol yn Eitem 12 ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio.
Datganodd y Cynghorydd R. Ll. Jones ddiddordeb personol yn Eitem 12. Caniatawyd iddo ofyn cwestiynau ynglŷn â’r eitem. |
|
|
Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog a benodwyd ganddo Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod wedi cymeradwyo ymweliad i Japan gan 3 chynrychiolydd o’r Cyngor Sir fel rhan o’r Rhaglen Ynys Ynni. |
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Mai 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w cadarnhau – cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Mai 2014.
PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Mai 2014 fel rhai cywir. |
|
|
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - Adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y diweddariad o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Gorffennaf 2014 a Chwefror 2015.
Nododd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd bod dwy eitem ychwanegol wedi eu cynnwys yn y Flaenraglen Waith :-
Eitem 11 – Opsiynau Llety Gofal Cymdeithasol i Oedolion Hŷn – Cybi Eitem 12 – Opsiynau Llety Gofal Cymdeithasol i Oedolion Hŷn – Amlwch a Llangefni
Nodwyd y bydd y ddwy eitem yn cael eu trafod gan y Pwyllgor Sgriwtini perthnasol yn y lle cyntaf.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r Flaenraglen Waith newydd am y cyfnod Mehefin, 2014 – Ionawr, 2015. |
|
|
Adroddiad Monitro Cynllun yr Iaith Gymraeg Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – Adroddiad Pennaeth Dros Dro i Gwasanaethau Democrataidd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i’r adroddiad monitro’r Iaith Gymraeg blynyddol ac i awdurdodi ei gyflwyno i Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg erbyn 30 Mehefin 2014.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer 2013/14 a chymeradwyo ei gyflwyno i’r Comisiynydd Iaith Gymraeg. |
|
|
Polisi ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor i Bensiynwyr 2014/15 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Adnoddau / Swyddog Adran 151 Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd y Deilydd Portffolio (Cyllid) y bydd cynllun y Cyngor Sir i helpu i ostwng Treth Gyngor pensiynwyr yn un am y cyfnod 2014/15 yn unig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cynllun y Cyngor Sir am 2014/15. |
|
|
Cyllideb Gyfalaf 2013-14 – Canlyniadau Dros Dro Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Adnoddau (Cyllid) / Swyddog Adran 151 Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
|
|
Cyllideb Refeniw 2013-14 – Canlyniadau Dros Dro Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Adnoddau (Cyllid) / Swyddog Adran 151 Dros Dro mewn perthynas â’r gwariant yn erbyn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
|
|
Y Ddarpariaeth o Wasanaethau Cymunedol / Gofal Cartref Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cymunedol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Cymuned mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd y Deilydd Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) y bydd yn rhaid newid y modd y bydd gwasanaethau’n cael eu darparu er mwyn sicrhau ystod well ac ehangach o wasanaethau i fwy o bobl. Nododd ei fod yn dymuno iddo gael ei gofnodi y bydd yn monitro’r ddarpariaeth yn ofalus ac y bydd yn gofyn i’r dangosydd perfformiad perthnasol gael ei fonitro ar y cerdyn sgorio corfforaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith fod ganddi bryderon ynglŷn â’r ddarpariaeth o Wasanaeth Cymunedol/Gofal Cartref oherwydd ei bod yn dymuno gweld y ddarpariaeth orau i bobl Ynys Môn. Roedd yn credu y dylai’r Cyngor llawn gael y cyfle i drafod y ddarpariaeth bwysig hon. Adleisiodd y Cynghorydd R. Ll. Jones y pryderon yng nghyswllt y ddarpariaeth hon.
Ymatebodd y Cyfarwyddwr Cymuned drwy ddweud bod dadansoddiad manwl o’r ddarpariaeth Gwasanaeth Cymunedol/Gofal Cartref wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy a’i fod yn darparu cefnogaeth i unigolion i wneud dewisiadau am eu gofynion gofal eu hunain yn y dyfodol. Mae’r AGGCC yn rheoleiddio pob agwedd o ofal cymdeithasol trwy ddefnyddio rheoliadau a safonau cenedlaethol sylfaenol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD
|
|
|
Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol) mewn perthynas â thrafodaethau anffurfiol gyda Horizon Nuclear Power dros y 12 mis diwethaf ar nifer o faterion yn cynnwys eu bwriadau i wneud/ariannu gwaith adeiladu a gwelliannau i’r A5025.
PENDERFYNWYD
|
|
|
Gostwng oed mynediad i Ysgol Llanfairpwll Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes yn mofyn caniatâd y Pwyllgor Gwaith i ddechrau’r broses ymgynghori ar y bwriad i ostwng yr oed mynediad yn Ysgol Llanfairpwllgwyngyll.
PENDERFYNWYD rhoi’r awdurdod i swyddogion ymgynghori ar y bwriad i ostwng oed mynediad i Ysgol Llanfairpwll. |
|
|
Codi Pris Prydau Ysgolion
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes yng nghyswllt y codiad angenrheidiol ym mhris prydau ysgolion o fis Medi 2014.
Mynegodd y Cynghorydd Llinos M. Huws ei phryderon y bydd rhai teuluoedd yn methu fforddio’r cynnydd. Mae rhai teuluoedd nad ydynt yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim eisoes yn dibynnu ar fanciau bwyd. Ategodd y Cynghorydd R. Ll. Jones y pryderon mew perthynas â’r codiad ym mhris prydau ysgol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes bod cost prydau ysgol ym Môn yn cymharu’n ffafriol gyda siroedd eraill. Nid oedd y Cyngor Sir wedi codi pris prydau ysgol ers Medi 2012.
PENDERFYNWYD y bydd pris pob pryd ysgol yn codi gan 10c o fis Medi 2014. |
|
|
Cynnig i ddelio â Diffyg mewn Cyllideb Ysgol Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes i geisio cael cytundeb mewn egwyddor i ddefnyddio arian wrth gefn i gefnogi cynllun adfer cyllideb yn Ysgol Uwchradd Caergybi. Roedd y cynnig yn golygu gwneud defnydd cynllunedig o arian wrth gefn Dysgu Gydol Oes i gefnogi cynllun adfer cyllideb yr ysgol i’w weithredu dros gyfnod o 3 blynedd.
PENDERFYNWYD cytuno i’r bwriad i ddefnyddio arian wrth gefn yr Adran Dysgu Gydol Oes i gefnogi cynllun adfer cyllideb ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi. |