Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim i’w adrodd.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
• 29 Tachwedd 2021 • 13 Rhagfyr 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2021 a 13 Rhagfyr 2021.
Penderfynwyd bod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn yn gywir –
· 29 Tachwedd, 2021 · 13 Rhagfyr, 2021
|
|
Panel Rhiantu Corfforaethol PDF 252 KB Cyflwyno i’w mabwysiadu, cofnodion drafft y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w mabwysiadu, cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021.
Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021.
|
|
Blaen Raglen y Pwyllgor Gwaith PDF 389 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid (a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei hystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Chwefror i Medi 2022 a thynnwyd sylw at y newidiadau a ganlyn –
· Eitem 2 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach 2020/21 sydd yn eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022. · Eitem 6 – Polisi Cynnal Ffyrdd a Rheoli Asedau Priffyrdd fydd yn cael ei haildrefnu gyda’r dyddiad i’w gadarnhau. · Eitemau 8 – 18 (sy’n ymwneud â gosod y gyllideb a monitro’r gyllideb) a gadarnhawyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. · Eitem 23 – Asesiad o Anghenion y Boblogaeth: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fydd yn cael ei symud o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022 i’w gyfarfod ar 21 Mawrth 2022. · Eitem 36 i 38 – Adroddiadau Monitro Perfformiad Chwarterol sydd yn eitemau newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi 2022. · Eitem 39 – Adroddiad Cynnydd: Rhaglen Wella’r Gwasanaethau Cymdeithasol sydd hefyd yn eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi 2022. · Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 – gweithredu trefniadau – eitem newydd sydd ddim ar y rhaglen waith a gyhoeddwyd ond y mae cais i’w chynnwys ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror.
Penderfynwyd cadarnhau blaen raglen waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Chwefror i Medi 2022 gyda’r newid ychwanegol y cyfeiriwyd ato yn y cyfarfod.
|
|
Cyllideb Refeniw Ddrafft 2021/22 PDF 512 KB Cyfwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei hystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Chwefror i Medi 2022 a thynnwyd sylw at y newidiadau a ganlyn –
· Eitem 2 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach 2020/21 sydd yn eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022. · Eitem 6 – Polisi Cynnal Ffyrdd a Rheoli Asedau Priffyrdd fydd yn cael ei haildrefnu gyda’r dyddiad i’w gadarnhau. · Eitemau 8 – 18 (sy’n ymwneud â gosod y gyllideb a monitro’r gyllideb) a gadarnhawyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. · Eitem 23 – Asesiad o Anghenion y Boblogaeth: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fydd yn cael ei symud o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022 i’w gyfarfod ar 21 Mawrth 2022. · Eitem 36 i 38 – Adroddiadau Monitro Perfformiad Chwarterol sydd yn eitemau newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi 2022. · Eitem 39 – Adroddiad Cynnydd: Rhaglen Wella’r Gwasanaethau Cymdeithasol sydd hefyd yn eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi 2022. · Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 – gweithredu trefniadau – eitem newydd sydd ddim ar y rhaglen waith a gyhoeddwyd ond y mae cais i’w chynnwys ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror.
Penderfynwyd cadarnhau blaen raglen waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Chwefror i Medi 2022 gyda’r newid ychwanegol y cyfeiriwyd ato yn y cyfarfod.
|
|
Cyllideb Gyfalaf 2022/23 – Cynnig Cychwynnol PDF 534 KB Cyfwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, yr Aelod Portffolio Cyllid, adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlinellu’r cynnig drafft ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2022/23.
Mae’r Gyllideb Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2022/23 yn ystyried yr egwyddorion a nodir yn y Strategaeth Gyfalaf a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2021. Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 yw £35.961m a bydd yn cael ei chyllido o’r ffynonellau a nodir yn Nhabl 1 yn yr adroddiad. Mae’r grant Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng gan £677k o gymharu â’r cyllid a dderbyniwyd yn 2021/22 ac felly argymhellir defnyddio £1.681m o’r Balansau Cyffredinol er mwyn cynorthwyo i ariannu’r rhaglen arfaethedig. Mae’r rhaglen gyfalaf yn argymell gwario ar asedau cyfredol (£5.042m), prosiectau unwaith ac am byth newydd yn unol â Thabl 3 yr adroddiad, gan gynnwys uwchraddio toiledau cyhoeddus a darparu arian cyfatebol ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd (£1.432m), a phrosiectau unwaith ac am byth newydd i’w hariannu o gronfeydd wrth gefn clustnodedig, cronfeydd wrth gefn gwasanaethau a benthyca heb gymorth (£783k) - Tabl 4 yn yr adroddiad. Oherwydd bod swm sylweddol o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ariannu’r cynlluniau hyn trwy ddefnyddio benthyca heb gymorth a’r derbyniadau cyfalaf yn sgil gwerthu hen safleoedd ysgol. Cost amcangyfrifedig y rhaglen yn 2022/23 yw £8.598m. Bydd y rhaglen arfaethedig o dan y Cyfrif Refeniw Tai, sydd wedi’i glustnodi ar gyfer rheoli incwm a gwariant yn gysylltiedig â stoc tai’r Cyngor, yn parhau i fuddsoddi mewn stoc bresennol yn ogystal â datblygu eiddo newydd. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y gostyngiad yn y Grant Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer 2022/23 sydd wedi arwain at ddiffyg yn y gyllideb gyfalaf ac, ar ôl ystyried yn ofalus, mae’r Pwyllgor Gwaith yn bwriadu cwrdd â’r diffyg o’r Balansau Cyffredinol gan na fyddai’n afresymol defnyddio’r balansau i gefnogi gwariant cyfalaf yn 2022/23 ac ni fyddai’n peryglu’r Balansau Cyffredinol. Er y disgwylir i’r dyraniad Grant Cyfalaf Cyffredinol gynyddu yn 2024/25, bydd sefyllfa gyffredinol y gyllideb gyfalaf yn dynnach gan olygu y bydd yn anoddach llunio rhaglen gyfalaf nad yw wedi’i chyfyngu i adnewyddu ac amnewid asedau cyfredol yn unig.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a oedd yn cyflwyno adroddiad yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor y bore hwnnw, fod y Pwyllgor Sgriwtini yn cymeradwyo’r cynnig ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2022/23 ac na chafwyd yr un bleidlais yn erbyn y cynnig. Yn yr un modd, cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Cyllid, gefnogaeth y Panel i’r gyllideb gyfalaf arfaethedig fel defnydd rhesymol o adnoddau.
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn y rhaglen gyfalaf a ganlyn ar gyfer 2022/23 -
£’000
Cynlluniau 2021/22 a ddygwyd ymlaen 1,322 Adnewyddu / Amnewid Asedau 5,042 Prosiectau Cyfalaf Unwaith ac am Byth Newydd 1,432 Prosiectau Cyfalaf Unwaith ac am Byth (wedi’u hariannu o Gronfeydd wrth Gefn a Benthyca heb Gymorth 783 Ysgolion yr 21ain Ganrif 8,598 Cyfrif Refeniw ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ymateb i'r Her Dai - Polisi Rhannu Ecwiti PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn ymgorffori’r Polisi Rhannu Ecwiti a ddyluniwyd i gynnig cyfle i Brynwyr Tro Cyntaf gael benthyciad ecwiti i’w galluogi i brynu tŷ addas yn eu hardal leol na fyddai’n fforddiadwy iddynt fel arall.
Fel rhan o amrywiaeth o fentrau i gynnig tai fforddiadwy, mae’r Gwasanaethau Tai yn bwriadu cyflwyno Polisi Rhannu Ecwiti fydd yn cynorthwyo’r rhai nad ydynt yn gallu prynu eu cartref ar y farchnad agored a’r rhai nad ydynt yn gallu cael mynediad i Dai Cymdeithasol. Mae prynu cartref yn parhau i fod tu hwnt i allu nifer o brynwyr tro cyntaf oherwydd prisiau uchel eiddo o gymharu ag incwm lleol a’r blaendal angenrheidiol. Mae’r Polisi Rhannu Ecwiti yn cynorthwyo i gyflawni dau amcan a nodwyd yn Strategaeth Dai’r Gwasanaeth sef – yn gyntaf datblygu’r tai cywir ar gyfer Ynys Môn yn y dyfodol ac – yn ail, gwneud y defnydd gorau o’r stoc dai bresennol a gwella cartrefi a chymunedau, a’r weithred yw cynnig eiddo rhent cymdeithasol, rhenti canolig, hunanadeiladu a chymorth i brynwyr tro cyntaf.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Polisi Rhannu Ecwiti yn un o’r opsiynau y mae’r Gwasanaeth yn eu defnyddio i ymateb i’r her tai lleol ac i gynorthwyo teuluoedd lleol i gael mynediad at dai fforddiadwy i’w prynu, ac y bydd y polisi’n ehangu ystod y tai fforddiadwy y gellir eu cynnig o ran eiddo presennol ac eiddo y mae’r Cyngor yn eu hadeiladu. Ym mis Rhagfyr 2021 roedd 458 o ymgeiswyr wedi cofrestru ar gyfer eiddo fforddiadwy ar wefan Tai Teg ac roedd 260 ohonynt yn dymuno prynu eiddo fforddiadwy ar Ynys Môn.
Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r Polisi Rhannu Ecwiti fel ychwanegiad cadarnhaol at yr amrywiaeth o gynlluniau y mae’r Gwasanaethau Tai yn eu datblygu i ymateb i’r her tai lleol a hefyd fel defnydd adeiladol o Bremiwm y Dreth Gyngor sy’n cael ei ddefnyddio i ariannu’r cynlluniau hyn.
Penderfynwyd cymeradwyo’r Polisi Rhannu Ecwiti.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 208 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.
|
|
Ymateb i'r Her Dai Lleol - Datblygiad ger Ysbysty Penrhos Stanley, Caergybi Cyflwyno adroddoiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau, adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ddatblygu 23 o dai newydd ar dir ger Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi a fydd yn cael eu cynnig fel tai fforddiadwy i drigolion lleol eu prynu neu eu rhentu mewn ymateb i’r her tai lleol.
Hysbyswyd y Pwyllgor Gwaith o leoliad a gosodiad y datblygiad arfaethedig a bod yr angen am y tai hyn yng Nghaergybi wedi’i gadarnhau gan y gofrestr tai fforddiadwy, Tai Teg. Byddai’r cynllun yn cael ei ariannu ar sail y model ariannol a ddefnyddir i asesu hyfywedd datblygiadau tai ac y mae’r Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ei gymeradwyo ar gyfer pob datblygiad unigol, gyda’r nod o fedru adeiladu tai newydd hynod o effeithlon. Yn ddibynnol ar dderbyn caniatâd, byddai amserlen y datblygiad yn unol â’r amlinelliad cyffredinol yn yr adroddiad.
Penderfynwyd cymeradwyo’r datblygiad o 23 tŷ newydd fydd ar gael i drigolion lleol fel tai fforddiadwy i’w prynu neu eu rhentu mewn ymateb i’r her tai lleol presennol, ar dir ger Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi.
|