Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod arbennig hwn o’r Pwyllgor Gwaith sef cyfarfod olaf Mrs Annwen Morgan fel Prif Weithredwr cyn ei hymddeoliad. Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch ar ran y Pwyllgor Gwaith i Mrs Morgan am ei harweiniad a’i hymrwymiad yn enwedig yn ystod y pandemig Covid-19, ac i ddymuno’n dda iddi yn ei hymddeoliad.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion i’w hadrodd.
|
|
Cynllun Tuag at Carbon Sero Net Cyngor Sir Ynys Môn 2022-2025 PDF 2 MB I gyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn ymgorffori Cynllun tuag at Net Sero Cyngor Sir Ynys Môn 2022-25 er ystyriaeth a sgrwitini’r Pwyllgor. Dywedodd Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol, ei bod yn bleser fel Pencampwr Newid Hinsawdd y Cyngor, cael cyflwyno’r Cynllun Tuag at Sero Net sydd yn cynrychioli cam cyntaf ar daith y Cyngor i drawsnewid i sefydliad carbon sero net erbyn 2030. Er y bydd cyrraedd y targed hwn yn heriol a bydd angen buddsoddiad ariannol sylweddol, mae'r Cyngor eisoes wedi bod yn gwneud cynnydd i leihau ei allyriadau carbon a bydd y Cynllun yn adeiladu ar lwyddiant strategaethau a phrosiectau presennol, er enghraifft y Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni a'r cynllun Ail-osod sef y buddsoddiad mwyaf a wnaed gan y Cyngor i leihau defnydd ynni ac allyriadau carbon, werth £2.4m. Mae angen cynllun clir a hyblyg sy’n mynd i’r afael â phob agwedd ar waith y Cyngor er mwyn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei uchelgeisiau sero net erbyn 2030; cam pwysig yw sefydlu llinell sylfaen a system ar gyfer monitro ac adrodd ar gynnydd. Dylid ystyried y prosiect hwn yrrwr newid cadarnhaol, yn debygol o greu cyfleoedd ar ffurf sgiliau, hyfforddiant a rolau arbenigol yn ogystal â diwydiannau newydd ac mae'n bosibl mai dyma'r newid diwylliant mwyaf y bydd y Cyngor yn ei wynebu. Mae gan y Cyngor, ei bartneriaid, trigolion a busnesau i gyd ran i'w chwarae a bydd angen iddynt weithio gyda'i gilydd i gyflawni statws sero net. Cytunodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y newid arfaethedig yn sylweddol ac yn bellgyrhaeddol a bod yr amserlen yn heriol o ran y gwaith sydd i’w wneud. Mae’r Cynllun Tuag at Sero Net yn dynodi ymrwymiad y Cyngor i’r dasg ac yn gosod cyfeiriad i’r gwaith. Mae'n gynllun uchelgeisiol ond ar yr un pryd, yn gyraeddadwy ac mae'n nodi'n glir sut y bydd y Cyngor yn dod yn sero net erbyn 2030. Bydd cyflawni'r Cynllun yn golygu bod yn rhaid blaenoriaethu a bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau, dewisiadau a chyfaddawdau anodd ar hyd y ffordd. Os caiff y Cynllun ei gymeradwyo, y camau nesaf fydd llunio cynllun gweithredu a chynllun monitro yn ogystal â chryfhau’r llinell sylfaen. Wrth osod cyfeiriad i'r gwaith y gobaith yw y gall y Cyngor ddatblygu'r cynllun yn rhaglen ehangach - un maes sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd yw cynnwys ysgolion a phobl ifanc yn yr agenda hon. Dywedodd y Rheolwr Newid Hinsawdd fod y Cynllun yn gam cyntaf ar y daith tuag at ddod yn Gyngor sero net erbyn 2030.
Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn y cyfarfod ar 28 Chwefror, 2022 yn gefnogol o’r Cynllun ac wedi ei argymell i'r Pwyllgor Gwaith.
Wrth groesawu’r Cynllun Tuag at Sero Net fel un a fydd yn dylanwadu ar weithrediadau’r Cyngor dros y blynyddoedd nesaf, cydnabu’r Pwyllgor Gwaith hefyd y bydd goblygiadau o ran arian ac adnoddau y bydd yn rhaid eu hystyried wrth gyflawni’r Cynllun yn llwyddiannus.
Penderfynwyd cefnogi Cynllun Tuag at Carbon Sero Net Cyngor ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn PDF 432 KB I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn ymgorffori Crynodeb o Gynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry, OBE, FRAgS, wrth gyflwyno’r Crynodeb o’r Cynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan, ei fod yn cysylltu â’r eitem flaenorol o ran cefnogi amcan y Cyngor o ddod yn sefydliad sero net erbyn 2030. Mae cyflawni’r Cynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan yn dibynnu ar sicrhau cyllid allanol; bydd mabwysiadu'r Cynllun yn rhoi llwyfan i'r Cyngor wneud bidiau cryf yn seiliedig ar dystiolaeth am gyllid o'r fath a darparu dull gweithredu cyson ar gyfer y cyfnod cyflawni.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) fod y Cynllun Gweithredu Cerbydau Trydan yn ymwneud â gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn asedau’r Cyngor i’w defnyddio gan staff a cherbydau’r Cyngor a hefyd lle bo’n briodol, i’r cyhoedd eu defnyddio; bydd unrhyw ddarpariaeth breifat yn ychwanegol at ddarpariaeth y Cyngor. O ystyried bod bwriad dod a gwerthu cerbydau petrol a disel i ben yn 2030, mae'n bwysig bod gan y Cyngor gynllun yn ei le i fod yn barod ar gyfer y newid i gerbydau trydan; mae Cynllun Trawsnewid Fflyd yn cael ei baratoi ar wahân i egluro a dangos sut y bydd y Cyngor yn datgarboneiddio ei gerbydau fflyd ei hun. Mae'r Cynllun Gweithredu Cerbydau Trydan yn uchelgeisiol ac mae ei gyflawni yn amodol ar sicrhau cyllid grant allanol, mae'r costau llawn yn amodol ar gadarnhad a gwaith ymchwil pellach sydd ei angen o ran y mathau o seilwaith gwefru sydd eu hangen ac argaeledd cyflenwad pŵer. Mae’r Cyngor mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Scottish Power ynghylch y materion hyn. Mae'r Cynllun Gweithredu wrth ddangos ymrwymiad y Cyngor i weithredu isadeiledd gwefru sy'n cwrdd â gofynion trigolion ac ymwelwyr yr Ynys, ac wrth fod yn glir sut y mae'n bwriadu gwneud i hynny ddigwydd, yn golygu y bydd y Cyngor mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd cyllid grant pan fyddant ar gael. Dylid nodi hefyd y bydd seilwaith gwefru cerbydau trydan y Cyngor yn gwbl ddwyieithog ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth yr iaith Gymraeg.
Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Cludiant Strategol a Chynaliadwy) y bydd y Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan yn cyfrannu at ddatgarboneiddio’r sector trafnidiaeth o safbwynt Ynys Môn a’i fod yn cyd-fynd â Llwybr Newydd – Strategaeth Trafnidiaeth Cymru sy’n gosod y fframwaith ar gyfer datgarboneiddio’r sector trafnidiaeth yng Nghymru gyfan a Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan i Gymru. Cyfeiriodd at yr heriau wrth gyflawni'r Cynllun gyda chyllid a chyflenwad pŵer ymhlith yr heriau mwyaf sylweddol. Bydd monitro datblygiadau wrth i dechnolegau esblygu a rhai newydd gael eu cyflwyno hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gyfredol o ran y sector newydd hon sy’n newid o hyd. Fodd bynnag, bydd y Cynllun Gweithredu yn darparu llinell sylfaen gadarn i adeiladu arni a symud ymlaen.
Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn y cyfarfod ar 28 Chwefror, 2022 wedi cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu gyda ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Drafft Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 PDF 298 KB I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn ymgorffori Crynodeb o Gynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry, OBE, FRAgS, wrth gyflwyno’r Crynodeb o’r Cynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan, ei fod yn cysylltu â’r eitem flaenorol o ran cefnogi amcan y Cyngor o ddod yn sefydliad sero net erbyn 2030. Mae cyflawni’r Cynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan yn dibynnu ar sicrhau cyllid allanol; bydd mabwysiadu'r Cynllun yn rhoi llwyfan i'r Cyngor wneud bidiau cryf yn seiliedig ar dystiolaeth am gyllid o'r fath a darparu dull gweithredu cyson ar gyfer y cyfnod cyflawni.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) fod y Cynllun Gweithredu Cerbydau Trydan yn ymwneud â gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn asedau’r Cyngor i’w defnyddio gan staff a cherbydau’r Cyngor a hefyd lle bo’n briodol, i’r cyhoedd eu defnyddio; bydd unrhyw ddarpariaeth breifat yn ychwanegol at ddarpariaeth y Cyngor. O ystyried bod bwriad dod a gwerthu cerbydau petrol a disel i ben yn 2030, mae'n bwysig bod gan y Cyngor gynllun yn ei le i fod yn barod ar gyfer y newid i gerbydau trydan; mae Cynllun Trawsnewid Fflyd yn cael ei baratoi ar wahân i egluro a dangos sut y bydd y Cyngor yn datgarboneiddio ei gerbydau fflyd ei hun. Mae'r Cynllun Gweithredu Cerbydau Trydan yn uchelgeisiol ac mae ei gyflawni yn amodol ar sicrhau cyllid grant allanol, mae'r costau llawn yn amodol ar gadarnhad a gwaith ymchwil pellach sydd ei angen o ran y mathau o seilwaith gwefru sydd eu hangen ac argaeledd cyflenwad pŵer. Mae’r Cyngor mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Scottish Power ynghylch y materion hyn. Mae'r Cynllun Gweithredu wrth ddangos ymrwymiad y Cyngor i weithredu isadeiledd gwefru sy'n cwrdd â gofynion trigolion ac ymwelwyr yr Ynys, ac wrth fod yn glir sut y mae'n bwriadu gwneud i hynny ddigwydd, yn golygu y bydd y Cyngor mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd cyllid grant pan fyddant ar gael. Dylid nodi hefyd y bydd seilwaith gwefru cerbydau trydan y Cyngor yn gwbl ddwyieithog ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth yr iaith Gymraeg.
Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Cludiant Strategol a Chynaliadwy) y bydd y Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan yn cyfrannu at ddatgarboneiddio’r sector trafnidiaeth o safbwynt Ynys Môn a’i fod yn cyd-fynd â Llwybr Newydd – Strategaeth Trafnidiaeth Cymru sy’n gosod y fframwaith ar gyfer datgarboneiddio’r sector trafnidiaeth yng Nghymru gyfan a Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan i Gymru. Cyfeiriodd at yr heriau wrth gyflawni'r Cynllun gyda chyllid a chyflenwad pŵer ymhlith yr heriau mwyaf sylweddol. Bydd monitro datblygiadau wrth i dechnolegau esblygu a rhai newydd gael eu cyflwyno hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gyfredol o ran y sector newydd hon sy’n newid o hyd. Fodd bynnag, bydd y Cynllun Gweithredu yn darparu llinell sylfaen gadarn i adeiladu arni a symud ymlaen.
Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn y cyfarfod ar 28 Chwefror, 2022 wedi cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu gyda ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 219 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.
|
|
Datblygiad Gofal Ychwanegol - Tyddyn Mostyn, Porthaethwy I gyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn nodi cynnig i ddatblygu cynllun Gofal Ychwanegol ar dir y Cyngor yn Nhyddyn Mostyn, Porthaethwy er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod Cynllun y Cyngor wedi nodi'r angen am gynllun Gofal Ychwanegol yn Ne'r Ynys. Bydd y cynllun hwn yn helpu i fynd i’r afael â’r angen hwn drwy ddarparu 40 o fflatiau gyda’r potensial i gynnwys 15 o ystafelloedd gofal preswyl arbenigol cofrestredig, yn ogystal â lle i leoli Tîm Adnoddau Cymunedol sy’n cynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol i wasanaethu de’r Ynys. Mae safle ar dir y Cyngor ger Tyddyn Mostyn, Porthaethwy wedi ei adnabod fel y lleoliad gorau allan o chwe safle a gafodd eu hystyried ac a gafodd eu hasesu yn erbyn set o feini prawf penodol. Byddai'r adeilad arfaethedig yn cael ei adeiladu i safonau carbon niwtral yn unol ag amcan y Cyngor o gyflawni statws carbon sero net erbyn 2030. Mae'r cynllun wedi'i asesu ar gyfer fforddiadwyedd ac mae'r model cychwynnol yn dangos bod y cynllun yn hyfyw ar y costau amcangyfrifedig ac yn cydymffurfio â gofynion arweiniad yr Awdurdod ar ddatblygiadau tai newydd. Mae ffynonellau cyllid amrywiol wedi'u hadnabod ar gyfer y cynnig gan gynnwys cyllid grant a'r CRT. Mae'r cynnig yn cefnogi cyflawni un o'r amcanion a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor i gefnogi oedolion a theuluoedd agored i niwed a'u cadw'n ddiogel, yn iach ac mor annibynnol â phosibl. Pe byddai'r datblygiad hwn yn cael ei gymeradwyo, byddai'n gwella'r adnodd cymunedol i gefnogi cyfleoedd i fyw'n annibynnol.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod y cysyniad o ofal ychwanegol wedi cryfhau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ddau gynllun sefydledig yn Llangefni a Chaergybi wedi’u gwerthuso a bydd y gwersi a ddysgwyd o’r cynlluniau hynny’n llywio’r gwaith o gyflawni’r datblygiad arfaethedig tra hefyd yn sicrhau ei fod yn berthnasol i’w ardal.
Cadarnhaodd y Cadeirydd gefnogaeth Sgriwtini i’r cynnig gyda’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi trafod yr adroddiad yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2022 ac wedi argymell y cynllun i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo.
Croesawyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams ac R. Meirion Jones fel Aelodau Lleol a'r Cynghorydd Alun Mummery fel Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau.
Penderfynwyd symud ymlaen i ddatblygu cynllun Gofal Ychwanegol ar dir Cyngor Sir Ynys Môn yn Nhyddyn Mostyn, Porthaethwy.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 240 KB Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.
|
|
Moderneiddio Ysgolion – Ardal Llangefni: Achos Busnes Ysgol y Graig I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg a Phobl Ifanc yn ymgorffori’r Achos Busnes Llawn ar gyfer cynyddu capasiti Ysgol Y Graig drwy adeiladu bloc Cyfnod Sylfaen newydd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.
Darparodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid grynodeb byr o'r daith i'r pwynt hwn o dan y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar gyfer y rhan hon o Langefni. Cadarnhaodd fod y Cyngor wedi derbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod yr Achos Amlinellol Strategol/Achos Busnes Amlinellol (SOC/OBC) a gymeradwywyd i’w gyflwyno gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2021 wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a thrwy hynny wedi galluogi’r prosiect i symud ymlaen i gyflwyno Achos Busnes Llawn i sicrhau 65% o'r cyllid cyfalaf ar gyfer y prosiect o dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Mae’r Achos Busnes wedi’i baratoi yn unol â’r canllawiau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n nodi gofynion achos busnes y Rhaglen, ac yn manylu ar yr achos strategol, economaidd, masnachol, ariannol a rheolaethol ar gyfer y cynnig.
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer y bloc Cyfnod Sylfaen newydd yn Ysgol y Graig. · Cymeradwyo cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru. · Cymeradwyo clustnodi derbyniadau cyfalaf ar gyfer adeiladu bloc Cyfnod Sylfaen newydd yn Ysgol y Graig. · Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i ddiwygio’r Achos Busnes Llawn os oes angen - os nad yw’r newidiadau’n arwain at newid sylweddol (o ran polisi, egwyddorion, cyfraniad ariannol, risgiau a niwed i drydydd parti). · Neilltuo arian datblygwyr o ddatblygiadau Tai o fewn dalgylch Ysgol Y Graig i gyfrannu tuag at gost y prosiect. · Ymrwymo i ariannu gofyniad cyfalaf y Cyngor – tuag at gost y prosiect. · Ariannu costau trosiannol tymor byr sy'n gysylltiedig â'r prosiect .
|