Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 26ain Tachwedd, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 191 KB

Cyflwyno i’w cadarnhaugofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith, a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2024, fel rhai cywir.

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 229 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith a ddiweddarwyd ar gyfer y cyfnod rhwng Rhagfyr 2024 a Gorffennaf 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

6.

Cerdyn Sgôr Corfforaethol - Chwarter 2, 2024/25 pdf eicon PDF 480 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 2 2024/25 a nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu hystyried a’u harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn gysylltiedig ag Addysg, Tai, yr Economi, Newid Hinsawdd a Pherfformiad y Cyngor Cyfan.

 

7.

Monitro'r Gyllideb Refeniw – Chwarter 2, 2024/25 pdf eicon PDF 715 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A, B ac C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2024/25.

·      Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2024/25, y manylir arnynt yn Atodiad CH.

·      Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2024/25 yn Atodiadau D a DD.

·      Cytuno i weithredu’r Ffioedd a Thaliadau newydd ar gyfer 2024/25, a’r ffioedd a addaswyd, fel y manylir yn Atodiad E.

 

8.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2, 2024/25 pdf eicon PDF 546 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2024/25 yn ystod Chwarter 2.

·      Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £3.116m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf yn ystod chwarter 2, a newidiadau yn y cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £72.477m ar gyfer 2024/25.

·      Cymeradwyo dwyn ymlaen unrhyw danwariant posib, fel y nodir yn adran 4.2 yn yr adroddiad.

 

9.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 2, 2024/25 pdf eicon PDF 320 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r canlynol –

 

  • Y sefyllfa a nodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2024/25.
  • Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2024/25.

 

10.

Sylfaen y Dreth Gyngor 2025/26 pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·                Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2025/26, sef 31,445.15 (gweler Atodiad A ar gyfer y cyfrifiad o Sylfaen y Dreth Gyngor at y diben yma - Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad).

·                Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2025/26 (gweler Atodiad A ar gyfer y cyfrifiad o sylfaen y dreth – Rhan E5 o Atodiad A yn yr adroddiad).

·           Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561), fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935, a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y rhain yw'r cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2025/26 sef 33,472.17, ac am y rhannau hynny o'r ardal sydd wedi eu rhestru yn argymhelliad 3 yn yr adroddiad.

 

11.

Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023/24 pdf eicon PDF 576 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi a derbyn y Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ar gyfer 2023/24.

·      Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i ysgrifennu at OGCC i gadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi ystyriaeth ffurfiol i’w Llythyr Blynyddol.

·      Darparu sicrwydd y bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cwynion, a thrwy hynny, roi’r sicrwydd sydd ei angen ar Aelodau i graffu ar berfformiad y Cyngor.

·      Parhau i gefnogi’r Cyngor i ddatblygu ei system CRM fel llwyfan ar gyfer prosesu cwynion a darparu data “byw” am berfformiad trin cwynion, fesul gwasanaeth, i swyddogion perthnasol, penaethiaid gwasanaeth a’r Tîm Arweinyddiaeth.

 

12.

Cynllun Strategol Moderneiddio’r Gwasanaeth Oedolion 2024-2029 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Moderneiddio Gwasanaethau Oedolion 2024-2029.

 

13.

Cynllun Strategol Môn Actif 2024/29 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Strategol Môn Actif 2024-29.

 

14.

Asesiad y Farchnad Dai Leol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.              

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Cymeradwyo’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol 2023-28.

·      Cymeradwyo’r broses ymgynghori.

·      Cymeradwyo dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Tai, i gytuno ar unrhyw fân newidiadau golygyddol sydd angen eu gwneud i'r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol drafft cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.