Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -
· 16 Rhagfyr 2025 · 6 Ionawr 2026 (Arbennig) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod yn gywir -
· 16 Rhagfyr 2025 · 6 Ionawr 2026 (arbennig)
|
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: |
|
|
Cyllideb Refeniw Ddrafft 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd -
· Y gyllideb arfaethedig gychwynnol ar gyfer 2026/27 o £207.023m. · Cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor o 4.8%, ynghyd â 0.3% ar gyfer Ardoll y Gwasanaeth Tân, sy’n gyfanswm o 5.1%, gan olygu fod y gost i eiddo Band D yn £1,792.98. · Cynnig yn ffurfiol i gadw'r premiwm ar gartrefi gwag ac ail gartrefi yn 100%. · Bod £1.685m yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol y Cyngor a’r arian wrth gefn a glustnodwyd er mwyn cyd-bwyso cyllideb refeniw 2026/27.
|
|
|
Strategaeth Gyfalaf 2026 – 2031 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: |
|
|
Premiwm y Dreth Gyngor Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
|
|
|
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Di-breswyl yn y Gymuned – Ffioedd a Thaliadau 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol - · Codi’r uchafswm a ganiateir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal cartref. · Y taliadau ar gyfer gwasanaethau Teleofal, fel yr amlinellir yn Nhabl A yr adroddiad: · Haen 1 – bydd pawb yn talu £81.25 y chwarter · Haen 2 – bydd pawb yn talu £159.25 y chwarter
· Y taliadau blynyddol ar gyfer gwasanaethau Teleofal, fel yr amlinellir yn Nhabl B yr adroddiad: · Gwasanaethau a Chynnal a Chadw £147.95 · Gwasanaethau yn unig £95.00 · Costau gosod unwaith ac am byth £59.20
· Cyfradd o £17.85 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol
· Gweithredu tâl o £20.00 yr awr ar gyfer Micro Ofalwyr
· Cadw’r taliad o £10.00 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodynnau Glas a darparu bathodynnau newydd fel yr amlinellwyd
· Cynnydd o 3.8%, i £46.85 y dydd, yn y ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol
· Cynnydd o £1.38 yr awr yn y ffioedd Gofal Cartref, i gyd-fynd â’r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol
· Y taliadau ar gyfer Prydau Bwyd mewn Gwasanaethau Dydd, fel yr amlinellir yn Nhabl C yr adroddiad:
· Prydau mewn Gwasanaethau Dydd ar gyfer oedolion (ac eithrio pobl ag anableddau dysgu) - £8.10 · Byrbryd ganol dydd mewn Gwasanaethau Dydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu - £3.45 · Lluniaeth arall (te / coffi / teisen) mewn Gwasanaethau Dydd - £1.95
|
|
|
Cartrefi'r Awdurdod Lleol i Bobl Hyn - Pennu'r Ffi Safonol 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
· Mai’r ffi safonol ar gyfer cartrefi preswyl yw £1,026.52 yr wythnos, sef y gost lawn am y gwasanaeth. · Oherwydd y cytunwyd yn 2025/26 fod cost lawn y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o 3 blynedd, caiff cost lawn y gwasanaeth gofal preswyl dementia ei ostwng i £1,150.99 yr wythnos yn 2026/27.
|
|
|
Cynllun Tuag at Sero Net 2026-2031 Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2026-2031.
|