Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd yr ymddiheuriad am absenoldeb.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
|
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i'w adrodd.
|
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2026. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2026 i'w cadarnhau.
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2026 fel rhai cywir.
|
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref, 2026 i'w gadarnhau.
Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Gwaith ar y newidiadau canlynol i'r Blaenraglen Waith –
· Datblygiad Gogledd Ynys Môn – cytunwyd ar fenter ar y cyd â Llywodraeth Cymru fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod mis Mai 2026. · Mae adroddiadau perfformiad a monitro cyllideb Chwarter 1 2026/27 yn eitemau newydd ar gyfer cyfarfod Medi 2026.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref 2026, gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.
|
|
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2025/26, Ch3 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3, 31 Rhagfyr 2025 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, adroddiad monitro cyllideb refeniw Chwarter 3 gan nodi bod y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn yn dangos tanwariant o £1.865m (0.95%). Er bod y sefyllfa ar ddiwedd y trydydd chwarter yn darparu mwy o sicrwydd ac yn seiliedig ar naw mis o incwm a gwariant gwirioneddol, gallai sawl ffactor ddylanwadu ar yr alldro terfynol o hyd. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau yn y galw am wasanaethau, yn enwedig gofal cymdeithasol; gwariant untro annisgwyl, heriau recriwtio a chadw staff sy'n arwain at swyddi gwag uwch na'r disgwyl, amodau tywydd annisgwyl a derbyn cyllid grant ychwanegol posibl yn y chwarter olaf.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod sefyllfa gyfunol gyffredinol gwasanaethau'r Cyngor yn dangos y rhagwelir gorwariant o £0.463m (fel y nodir yn Nhabl 4). Tynnodd sylw at yr amrywiadau yn y gyllideb, gan nodi bod Gwasanaethau Plant yn parhau i fod yn faes pryder gyda gorwariant o £1.625m o ganlyniad i’r nifer cynyddol o blant mewn gofal a chostau uchel lleoliadau. Mae meysydd eraill sy'n gorwario’n cynnwys Cynllunio a Busnes y Cyngor. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau sy'n weddill naill ai o fewn y gyllideb neu’n tanwario a hyny’n bennaf oherwydd swyddi gwag staff, cyllid grant ychwanegol ac incwm ffioedd uwch. Mae'r tanwariant ym maes Gwasanaethau Oedolion yn deillio o nifer o ddigwyddiadau untro sy’n dod i gyfanswm o £2.4m sydd naill ai wedi cynyddu incwm neu wedi lleihau costau. Heb y rhain, byddai'r sefyllfa sylfaenol yn orwariant o £1.2m.
Mae cyllidebau corfforaethol yn gyffredinol yn dangos tanwariant o £1.267m (fel y nodir yn Nhabl 6). Rhagwelir y bydd incwm craidd y Dreth Gyngor £483k yn uwch na'r gyllideb. Disgwylir i bremiwm y Dreth Gyngor gynhyrchu gwarged o £578k erbyn diwedd y flwyddyn, yn rhannol yn sgil eiddo’n trosglwyddo'n ôl i'r Dreth Gyngor o ardrethi busnes yn dilyn newid yn y rheolau cymhwysedd ar gyfer ardrethi busnes i lety hunanarlwyo. Mae perygl o hyd y gallai apeliadau sy'n ymwneud ag eiddo hunanarlwyo leihau incwm, ac mae £900k wedi'i neilltuo mewn cronfa wrth gefn i liniaru'r risg hon.
Nododd y Pwyllgor Gwaith pa mor agos yw'r gyllideb gyffredinol at y gyllideb a osodwyd ar ddechrau'r flwyddyn, gyda dim ond 0.95% o danwariant yn cael ei ragweld, a diolchodd i staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith.
Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, fod amseriad cyllid grant, yn enwedig pan gaiff ei dderbyn yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, yn parhau i’w rhwystro rhag cynllunio’n strategol, a bod hynny’n bryder a godwyd ers amser maith gyda Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd y byddai setliadau aml-flwyddyn a chynnwys cyllid grant yn y prif setliad yn rhoi mwy o sicrwydd i gynghorau, yn hytrach na derbyn dyraniadau grant ad-hoc ar hyd y flwyddyn.
Penderfynwyd -
· Nodi’r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B ac C yr ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3, 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3 2025/26 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard adroddiad monitro cyllideb gyfalaf Chwarter 3 gan nodi bod y gyllideb gyfalaf yn parhau i fod yn dynn ac nad oes llawer o sgôp i wario yn ôl disgresiwn y tu hwnt i gynnal asedau cyfredol.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2025/26 yn dod i gyfanswm o £66.945m yn dilyn llithriad a gymeradwywyd, cynlluniau ychwanegol ac addasiadau ariannol. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, 2025, roedd £36.673m (55%) o'r gyllideb flynyddol wedi'i wario neu ei ymrwymo, gyda'r CRT wedi gwario 63% o'i gyllideb flynyddol. Rhagwelir tanwariant diwedd blwyddyn o £9.849m ar raglen gyfalaf a chyllideb 2025/26 gyda hyn yn llithriad posibl i raglen gyfalaf 2026/27. Bydd y cyllid cysylltiedig hefyd yn llithro i 2026/27. Amlinellir prif feysydd y tanwariant a ragwelir a'r rhesymau drostynt yn adran 4 o'r adroddiad. Manylir ar gynnydd ar y prif brosiectau a ariennir gan grant yn adran 3 o'r adroddiad.
Tynnodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard sylw at bwysigrwydd prosiectau cyfalaf a ariennir gan grant a chyfeiriodd at ymweliad a wnaed y mis blaenorol i weld cynlluniau a ariennir gan Ffyniant Bro yng Nghaergybi. Nododd yr effaith gadarnhaol y bydd y gwaith uwchraddio yma'n ei chael ar stryd fawr y dref a diolchodd i dîm Gwasanaeth Datblygu Economaidd ac asiantaethau partner am eu gwaith cydweithredol, gan bwysleisio'r manteision sylweddol y mae prosiectau a ariennir gan grantiau o'r fath yn eu cynnig.
Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at ddibyniaeth y Cyngor ar gyllid grant ar gyfer prosiectau cyfalaf, gan nodi bod y broses ymgeisio yn aml yn gystadleuol ac yn gofyn am gapasiti, arbenigedd a mewnbwn sylweddol. Mae'r grantiau hyn yn parhau i fod yn hanfodol i'r Cyngor a'r ynys ac mae'r rhaglen Ffyniant Bro yn dangos gwerth gweithio mewn partneriaeth. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa grantiau yn newid eto gyda chyfnod o ansicrwydd o'n blaenau. Mae diogelu'r arbenigedd sy'n gallu trosglwyddo rhwng rhaglenni wrth i gyfleoedd godi yn hanfodol a bydd yn ffocws yn y misoedd nesaf.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol at brosiectau a ariennir gan y CRT gan gynnwys datblygiadau tai newydd, adnewyddu tai presennol a gwaith datgarboneiddio sydd oll yn cefnogi contractwyr lleol a'r economi lleol ehangach. Un prosiect o bwys o fewn y rhaglen yw'r cyfleuster gofal ychwanegol newydd ym Mhorthaethwy.
Penderfynwyd -
· Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2025/26 yn ystod Chwarter 3. · Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £7.276m i’r rhaglen gyfalaf a newidiadau mewn cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £66.945m ar gyfer 2025/26.
|
|
|
Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 3, 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y CRT ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Rhagfyr 2025 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd Yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, adroddiad monitro cyllideb CRT Chwarter 3.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar y sefyllfa gyffredinol gan nodi bod y CRT yn dangos bod y refeniw £715k yn well na’r gyllideb a broffiliwyd yn Chwarter 3 2025/26. Y tanwariant refeniw a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn yw £546k, a rhagwelir y bydd gwariant cyfalaf yn dangos tanwariant o £864k. Mae’r diffyg a ragwelir o gyfuno refeniw a chyfalaf bellach yn £8,436k sydd £1,403k yn well na'r disgwyl ac yn lleihau swm y benthyciadau allanol sydd ei angen. Erbyn Chwarter 3, mae cyfanswm o 29 o unedau wedi'u hychwanegu at y stoc dai, gan gynnwys tai sydd newydd eu datblygu yn ogystal ag eiddo presennol a gafaelwyd ac a adnewyddwyd gan y CRT. Mae datblygiadau a chaffaeliadau pellach yn mynd rhagddynt fel y dangosir yn Atodiad C i'r adroddiad.
Roedd balans agoriadol cronfa wrth gefn y CRT yn £7.976m. Roedd y gyllideb yn caniatáu defnyddio £6,820k o'r balans hwn, gan adael yr isafswm lefel balans wrth gefn o £1,155k fel y nodir yng Nghynllun Busnes y CRT. Ar ôl addasu’r gyllideb gyfalaf a grantiau cyfalaf, y diffyg refeniw / cyfalaf net a gyllidebwyd ar gyfer y flwyddyn yw £8,436k. Bydd hyn yn cael ei gyllido o gronfa wrth gefn y CRT a £1,616k mewn benthyciadau allanol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Gary Pritchard at yr heriau sy'n wynebu'r CRT a godwyd yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yr wythnos diwethaf. Er bod y Cyngor yn falch o gynnal rhenti ar lefel is na'r hyn y mae Ymddiriedolaeth Trussell yn ei argymell fel rhent teg, mae’r ffaith nad yw’n gallu codi rhenti i lefelau cymdeithasau tai yn rhoi pwysau ar y CRT, yn enwedig gan fod disgwyl iddo hefyd ariannu gwelliannau i sicrhau bod y stoc dai yn parhau i fodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol fod cyflawni uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer adeiladu, pryniant a datblygiadau newydd ochr yn ochr â buddsoddi yn y stoc bresennol a bodloni gofynion SATC yn parhau i fod yn her sylweddol, yn enwedig gan nad yw incwm refeniw yn cadw i fyny â chostau cynyddol. Mae'r Cyngor yn ddiolchgar am gyllid grant ac yn awyddus i sicrhau bod rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy. Serch hynny, bydd angen gwneud dewisiadau - naill ai rhaid cynyddu incwm grantiau, rhaid llacio gofynion SATC, neu rhaid i'r Cyngor adolygu ei uchelgeisiau. Mae benthyca yn opsiwn arall, ond nid yw'r Cyngor eisiau i'r CRT fod mewn gormod o ddyled.
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2025/26. · Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.
|
|
|
Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2026/27 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Mae'r datganiad yn nodi sut y bydd y Cyngor yn rheoli ei fenthyca, ei fuddsoddiadau a'i lif arian yn y flwyddyn i sicrhau ei fod yn unol â Chodau Darbodus a Rheoli Trysorlys CIPFA.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2026/27.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 drosolwg o'r adroddiad gan nodi bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi craffu arno a heb gynnig unrhyw newidiadau. Nid yw'r strategaeth yn cynnwys unrhyw newidiadau sylweddol o fersiwn y flwyddyn flaenorol, ond mae'n cyd-fynd â'r Strategaeth Gyfalaf ac yn nodi tri senario gwariant cyfalaf – sylfaenol, uchelgeisiol a delfrydol, ynghyd â goblygiadau benthyca pob un, fel y dangosir yn Nhabl 6 yr adroddiad. Mae Tablau 7a a 7B yn amlinellu'r goblygiadau refeniw i'r Gronfa Gyffredinol a'r CRT yn y drefn honno gyda chostau refeniw yn sylweddol uwch o dan y senario delfrydol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi defnyddio benthyca mewnol, ond mae’r ffaith bod cronfeydd wrth gefn yn gostwng yn golygu y bydd angen benthyca allanol erbyn diwedd y flwyddyn neu ddechrau'r flwyddyn nesaf. Ni fydd y Cyngor yn benthyca mwy nag y mae ei angen, na chyn bod angen gwneud hynny, a hynny er mwyn elwa o fuddsoddi’r symiau ychwanegol a fenthycir. Bydd hefyd yn osgoi aildrefnu benthyciadau cyfredol, gan fod cyfraddau ad-dalu dyled yn gynnar y PWLB yn parhau i fod yn uchel ac yn fwy nag unrhyw arbedion posibl. Yn hytrach, bydd y Cyngor yn ceisio amseru benthyca allanol i gyd-fynd â gostyngiadau mewn cyfraddau llog.
Mae strategaeth fuddsoddi'r Cyngor yn parhau i flaenoriaethu sicrhau diogelwch a hylifedd adneuon dros elw, gan ddefnyddio gwrthbartïon sy’n dangos teilyngdod i gael credyd yn unig a sicrhau bod gofynion llif arian o ddydd i ddydd yn cael eu bodloni. Mae'r strategaeth hefyd yn nodi'r trefniadau llywodraethu ac adrodd.
Darperir y dangosyddion Darbodus a'r Trysorlys yn Atodiad 10 i'r adroddiad. Mae'r rhain yn cynnwys fforddiadwyedd, bod yn ddarbodus a gosod cyfyngiadau ar gyfer gwariant cyfalaf, dyledion allanol, y meincnod rhwymedigaethau a strwythur aeddfedu benthyciadau.
Penderfynwyd nodi’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2026/2027 ac i drosglwyddo’r datganiad i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylw pellach.
|
|
|
Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a oedd yn nodi ffioedd arfaethedig cartrefi gofal y sector annibynnol ar gyfer 2026/27 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofynnol i'r Cyngor adolygu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol yn flynyddol i gyd-fynd â newidiadau Llywodraeth Ganolog i lefelau budd-daliadau a phensiynau. Wrth osod lefelau ffioedd ar gyfer cartrefi gofal y sector annibynnol, rhaid ystyried amryw o ffactorau gan gynnwys amgylchiadau lleol, y pwysau o ran galw a’r ddarpariaeth sydd ar gael.
Mae'r Pwyllgor Gwaith yn cynnig cynnydd o 5% mewn ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol ar gyfer 2026/27, gan gynnwys lleoliadau preswyl, preswyl dementia, nyrsio a nyrsio dementia. Mae'r cynnydd hwn yn fwriadol uwch na chynnydd chwyddiant a nodir gan y fethodoleg ranbarthol (Tabl 1 yr adroddiad) a'r cynnydd i ddarpariaeth fewnol. Mae'r cynnydd uwch yn adlewyrchu'r pwysau ariannol lleol ar ddarparwyr a'r angen i gynnal digon o gapasiti o ran cartrefi gofal. Mae'r ffioedd wythnosol a argymhellir wedi'u hamlinellu yn Nhabl 2 o'r adroddiad ac nid ydynt yn cynnwys cyfraniadau gofal nyrsio am ddim. Maent yn berthnasol i gartrefi sy'n derbyn cyfradd uwch na chyfraddau safonol y Cyngor. Gofynnir i gartrefi sydd eisoes yn derbyn uwchlaw'r cyfraddau safonol rannu gwybodaeth ariannol a fydd yn cael ei hystyried wrth benderfynu ar unrhyw gynnydd ariannol. Bydd eithriadau i'r lefelau ffioedd yn cael eu hystyried pan fo tystiolaeth glir yn dangos nad yw'r ffioedd a osodwyd yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol. Cynigir bod penderfyniadau o'r fath yn cael eu dirprwyo i'r Swyddog Adran 151, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion.
Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod ffioedd Ynys Môn yn gystadleuol yn y rhanbarth ac yn parhau i fod ychydig yn is na chyfartaledd Cymru.
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu lefel y ffioedd fel a ganlyn:-
· Awdurdodi’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyllid i ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i ymchwilio i’w cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sail i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd a gytunwyd. Bydd rhaid i’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion gytuno ar unrhyw eithriadau o fewn y cyllidebau presennol.
|
|
|
Ffioedd a Thaliadau 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys rhestr ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer 2026/27 i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard yr adroddiad gan nodi bod y Pwyllgor Gwaith wedi gosod amcan fod yr holl ffioedd a thaliadau yn cynyddu 3% ar gyfartaledd ar draws pob gwasanaeth unigol. Mae hyn yn caniatáu i benaethiaid gwasanaeth addasu ffioedd unigol o fwy neu lai na 3%, ar yr amod bod y cynnydd cyffredinol ar gyfer y gwasanaeth yn cyfateb i 3%.
Mae'r holl ffioedd statudol wedi'u cynyddu yn unol â'r symiau a osodwyd gan y corff cymeradwyo perthnasol lle cyhoeddwyd ffigurau wedi'u diweddaru. Lle nad yw'r taliadau diwygiedig wedi'u cadarnhau eto, rhestrir y ffioedd fel rhai "i'w cadarnhau" a byddant yn cael eu diweddaru unwaith y bydd y cyfraddau newydd yn cael eu derbyn. Adroddir ffioedd sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol a thai i'r Pwyllgor Gwaith ar wahân.
Penderfynwyd cymeradwyo’r rhestr Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2026/27, fel a amlinellir yn y llyfryn a gyflwynwyd.
|
|
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys cynigion manwl cyllideb refeniw 2026/27 i'w adolygu yn derfynol gan y Pwyllgor Gwaith. Gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwaith gytuno ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2026/27, lefel y Dreth Gyngor, y defnydd o gronfeydd wrth gefn a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) wedi'i ddiweddaru cyn ei gymeradwyo'n derfynol gan y Cyngor Llawn ar 5 Mawrth 2026.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad gan nodi bod cynigion y gyllideb wedi’u trafod yn helaeth a’u herio, a bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu arno mewn dau gyfarfod ar wahân ym mis Ionawr a Chwefror 2026. Mae'r cynigion yn cynnwys cyllideb refeniw net o £207.029 miliwn, cynnydd o 5.1% yn y Dreth Gyngor gan olygu fod y tâl ar gyfer eiddo Band D yn codi i £1,792.98, defnyddio £1.685 miliwn o gronfeydd wrth gefn i helpu i gydbwyso'r gyllideb a pharhau i godi premiwm y Dreth Gyngor o 100% ar ail gartrefi a chartrefi gwag. Mae'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor yn debyg i gynnydd cenedlaethol ac yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, Ynys Môn fydd â'r cyfraddau Treth Gyngor isaf yng Ngogledd Cymru o hyd a bydd ei gynnydd ymhlith yr isaf yn rhanbarthol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod cynigion y gyllideb derfynol yn aros yr un fath â'r rhai a gyflwynwyd yn wreiddiol. Mae'r risgiau i'r gyllideb wedi'u hamlinellu yn adran 5 o'r adroddiad. Y prif risg yw ansicrwydd ynghylch dyfarniadau cyflog yn y dyfodol. Fel Swyddog Adran 151 cadarnhaodd, ar ôl ystyried yr holl risgiau a nodwyd a'r camau lliniaru, ei fod yn credu bod y gyllideb yn gadarn a bod modd ei chyflawni. Nododd hefyd fod lefel iach balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd gan y Cyngor yn ddigonol i liniaru’r risgiau a nodwyd.
Mae'r adroddiad hefyd yn diweddaru'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Yn seiliedig ar y rhagdybiaethau yn y CATC a allai newid wrth i 2027/28 agosáu, bydd angen arbedion pellach yn 2027/28 ac yn 2028/29. Mae'r defnydd o gronfeydd wrth gefn eto i gydbwyso'r gyllideb ar gyfer 2026/27 yn creu bwlch cyllido uniongyrchol yn 2027/28. Efallai y bydd / na fydd y Cyngor yn gallu mynd i'r afael â'r bwlch hwn trwy gronfeydd wrth gefn unwaith eto; fel arall bydd angen gostyngiadau yn y gyllideb a/neu gynnydd yn y Dreth Gyngor oni bai bod cyllid yn gwella. Ar hyn o bryd mae'r CATC yn tybio cynnydd yn y Dreth Gyngor o 5% yn 2027/28 a 3% yn 2028/29. Bydd CATC wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2026. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod y rhagolygon ariannol tymor canolig yn parhau i fod yn heriol ac efallai y bydd y Cyngor yn wynebu'r angen i leihau costau, gan gynnwys trwy ostyngiad posibl mewn gwasanaethau.
Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 18 Chwefror 2026 lle ystyriodd aelodau'r adroddiad a'r cynigion terfynol ar ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
|
Cyllideb Gyfalaf 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y gyllideb gyfalaf a'r rhaglen arfaethedig ar gyfer 2026/27 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad gan nodi bod y sgôp ar gyfer gwariant o fewn y gyllideb gyfalaf yn gyfyngedig ac er bod benthyca yn bosibl, mae ganddo oblygiadau o ran cost i'r gyllideb refeniw.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gyllideb gyfalaf yn amlinellu strategaeth y Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i adnewyddu asedau presennol a phrynu asedau newydd y Cyngor (£6.937 miliwn). Mae prif ffynonellau cyllido'r Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf yn cynnwys grant cyfalaf cyffredinol Llywodraeth Cymru, benthyca â chymorth, derbyniadau cyfalaf, a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd. Mae benthyca heb gymorth yn parhau i fod yn opsiwn, fodd bynnag, mewn achosion o'r fath byddai'r holl ad-daliadau am fenthyciadau a chostau llog yn dod yn gyfan gwbl o gyllideb refeniw y Cyngor ac mae cyfyngiadau ar fenthyca yn berthnasol i sicrhau nad yw'r Cyngor yn gorymestyn ei hun. Disgwylir y bydd y Cyngor yn derbyn grantiau ychwanegol yn ystod y flwyddyn fel yn y blynyddoedd blaenorol, a bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at y gyllideb. Mae Atodiad 2 i'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad manwl o'r gyllideb gyfalaf arfaethedig derfynol ar gyfer 2026/27, gan ddangos pob cynllun, ei gostau a sut y bydd yn cael ei ariannu. Mae rhai cynlluniau gwerth cyfanswm o £8.934m hefyd yn cael eu dwyn ymlaen o 2025/26 ond gall y ffigur hwn gynyddu wrth i gyfrifon y Cyngor gael eu cwblhau ym mis Mehefin a Gorffennaf 2026.
Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 hefyd at feysydd buddsoddi eraill o fewn y gyllideb gyfalaf gan gynnwys gwelliannau i isadeiledd gwastraff y Cyngor (£3.806m), a ariennir yn bennaf drwy incwm eEPR. Mae prosiectau mawr eraill yn cynnwys gwelliannau i Bier a Phontynau Porthaethwy (£225k), gwaith adnewyddu Canolfan Hamdden Plas Arthur – cam 2 (£1.65m) a Phrosiectau Cronfa Balchder Bro (£1.5m) sy'n anelu at sicrhau gwelliannau gweladwy tymor byr i lefydd a mannau gwerthfawr cymunedol erbyn mis Mawrth 2027 ac sy'n cael eu harwain gan y gymuned. Mae cyllideb gyfalaf y CRT wedi'i neilltuo ar gyfer tai ac mae'n canolbwyntio ar fuddsoddiad parhaus yn y stoc bresennol i sicrhau y cydymffurfir â SATC (£15.71m), cyfleuster gofal a phreswyl ychwanegol newydd ym Mhorthaethwy (£14.001m) a datblygiad tai newydd (£1.498m).
Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 18 Chwefror 2026, lle ystyriodd aelodau'r adroddiad a'r cynigion terfynol ar y gyllideb gyfalaf ddrafft. Adolygodd y pwyllgor y ddogfen a gyflwynwyd ac ymatebion Aelodau a Swyddogion Portffolio i'r materion a godwyd. Fe wnaethant hefyd ystyried sylwadau Cadeirydd y Panel Sgriwtini Adnoddau. Trafododd yr aelodau raglen gyfalaf y CRT a'i chyllid, gan nodi'r pwysau ar y CRT a'r angen i sicrhau bod cydbwysedd rhwng gwneud y mwyaf o incwm rhent a chadw rhenti’n fforddiadwy. Ar ôl craffu ar y cynigion ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13. |
|
|
Polisi Gostyngiadau Dewisol y Dreth Gyngor Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaethau (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnig newid i Bolisi Gostyngiadau Dewisol y Dreth Gyngor Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Byddai'r gwelliant arfaethedig yn cyflwyno gostyngiad o 100% yn y Dreth Gyngor ar gyfer aelwydydd lle mae rhywun sydd â salwch terfynol.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad gan ddiolch i'r Cynghorydd Jeff Evans am ddod â'r mater i'w sylw ar ôl gweld adroddiadau yn y wasg am Gyngor Dinas Manceinion yn cyflwyno cynllun tebyg yn unol â'r dull a argymhellir gan elusen Marie Curie. Roedd yn falch bod y Pwyllgor Gwaith wedi gallu cynnig y newid hwn a diolchodd i'r Gwasanaeth Cyllid am gynnal yr ymchwil angenrheidiol. Y cynnig yw diwygio polisi gostyngiadau dewisol presennol y Dreth Gyngor fel bod aelwydydd lle mae rhywun sydd â salwch terfynol yn derbyn gostyngiad o 100% o'r Dreth Gyngor. Byddai'r polisi, os caiff ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn, yn dod i rym o 1 Ebrill 2026 ac yn cael ei adolygu ar ôl deuddeg mis.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod staff wedi archwilio sut roedd cynghorau eraill wedi gweithredu cynlluniau tebyg, gan gynnwys y rhai sy'n seiliedig ar dystysgrif SR1 sy'n hwyluso mynediad at fudd-daliadau a chymorth i bobl sydd â salwch terfynol. Fodd bynnag, teimlwyd y gallai dibynnu ar y dystysgrif SR1 yn unig gyfyngu ar gymhwysedd i unigolion a allai fod eisoes yn derbyn cymorth drwy'r cynllun Gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Felly, cynigir ymestyn cymhwysedd i unigolion nad oes ganddynt dystysgrif SR1 ond sy'n gallu darparu llythyr gan eu meddyg teulu yn cadarnhau bod ganddynt salwch terfynol ac efallai bod ganddynt lai na deuddeg mis i fyw.
Bydd y gostyngiad yn berthnasol am hyd at ddeuddeg mis neu ddau fis ar ôl y farwolaeth, pa un bynnag sy'n dod gyntaf. Mae'r effaith ariannol yn anodd ei mesur gan ei fod yn dibynnu ar nifer yr ymgeiswyr, y band eiddo, a yw'r ymgeisydd eisoes yn derbyn gostyngiadau eraill neu ostyngiad yn y Dreth Gyngor ac a yw'r eithriad yn para am y deuddeg mis llawn. Er mwyn rheoli'r risg hon, bydd y polisi yn cael ei adolygu ar ôl deuddeg mis a chyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith.
Roedd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn gwbl gefnogol i'r gwelliant arfaethedig, gan gydnabod bod salwch terfynol yn rhoi pwysau sylweddol ar unigolion a'u teuluoedd, ac y gall straen ariannol waethygu caledi ar ddiwedd oes. Byddai'r gostyngiad yn helpu i leihau'r baich hwnnw.
Penderfynwyd gwneud yr argymhellion canlynol i’r Cyngor Llawn –
· Cymeradwyo’r newid i Bolisi Gostyngiadau Dewisol at y Dreth Gyngor, er mwyn cyflwyno gostyngiad o 100% ar gyfer aelwydydd lle mae unigolyn sydd â salwch terfynol yn byw, yn unol ag Adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. · Gweithredu’r polisi o 1 Ebrill 2026, gan sicrhau bod proses ymgeisio a dogfennau ategol (gan gynnwys ardystiad SR1) ar waith. · Dirprwyo awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau weinyddu’r cynllun a gwneud unrhyw fân addasiadau gweithredol fydd angen eu ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 14. |
|
|
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn gofyn am farn y Pwyllgor Gwaith ar y newid arfaethedig i’r Cyfansoddiad er mwyn rhoi’r hawl terfynol i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor, yn hytrach na’r Cyngor, gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor, i’w ystyried.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad gan nodi ei fod yn cynnig newid ymarferol i'r Cyfansoddiad fel bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn hytrach na'r Cyngor Llawn, yn rhoi cymeradwyaeth derfynol i'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y rhesymau dros y newid arfaethedig, sy'n cynnwys amserlen archwilio fyrrach a osodwyd gan Archwilio Cymru ar gyfer 2025/26. O dan yr amserlen ddiwygiedig, rhaid i'r cyfrifon gael eu hawdurdodi erbyn 30 Medi 2026, mis yn gynharach na'r flwyddyn flaenorol. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi y dylai'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol gael ei gyhoeddi ar yr un pryd ag y llofnodir y cyfrifon heb eu harchwilio, sy’n golygu bod yr amser yn gyfyngedig i adolygu'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar ôl iddo gael ei adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Os bydd yn dal i gael cymeradwyaeth gan y Cyngor, byddai angen aildrefnu cyfarfod y Cyngor ym mis Medi 2026 a chynnal cyfarfod arbennig.
Felly, ystyrir bod dirprwyo cymeradwyaeth i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn broses fwy effeithlon ac mae'n sicrhau bod y broses o gymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cyd-fynd â'r broses gymeradwyo ar gyfer cyfrifon blynyddol y Cyngor sydd eisoes wedi'i ddirprwyo i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Ni fyddai'r newid arfaethedig yn anfantais i gynghorwyr na'r cyhoedd gan y byddai adroddiadau yn parhau i fod ar gael yn y ffordd arferol, a byddai'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft yn cael ei ddosbarthu i'r holl aelodau ym mis Mehefin i gael sylwadau arno.
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cymeradwyo’r newid arfaethedig i’r Cyfansoddiad er mwyn rhoi’r hawl i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor, yn hytrach na’r Cyngor, gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn derfynol.
|
|
|
Dyrannu hyd at £100k o Gyllid o’r Balansau Cyffredinol Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £100k o falansau cyffredinol y Cyngor i fynd i'r afael â materion staffio a chapasiti yng ngwasanaeth cyfreithiol y Cyngor.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad gan nodi bod y cais am gyllid yn cael ei wneud i sicrhau parhad gwasanaethau llywodraethu cyfreithiol a gwybodaeth.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro at yr anawsterau recriwtio parhaus o fewn gwasanaethau cyfreithiol y Cyngor. Mae dibyniaeth barhaus ar staff asiantaeth wedi arwain at orwariant blynyddol o £250k ar gyllideb Busnes y Cyngor, a ragwelir yr un sefyllfa eto ar gyfer 2025/26. Gyda’i gilydd, mae 41 ymgais recriwtio dros 20 mis gan gynnwys disgrifiadau swyddi a gwerthusiadau diwygiedig, hysbysebu cenedlaethol, gweithio hyblyg a dileu gofynion Cymraeg, wedi bod yn aflwyddiannus i raddau helaeth.
Mae dwy swydd wag bellach wedi'u llenwi gan gyfreithwyr sydd newydd gymhwyso sydd heb brofiad yn y meysydd arbenigol sydd eu hangen. Er mwyn rheoli'r sefyllfa yn gyfrifol, rhaid i'r gwasanaeth ddatblygu a mentora'r ddau aelod newydd o staff gan sicrhau cefnogaeth ddiogel a chyfreithlon i gleientiaid yn y cyfamser. Cais yw hwn am gyllid ar gyfer cadw staff cyfreithiol asiantaeth am chwe mis mewn un achos ac am dri mis yn y llall i ddarparu'r gefnogaeth a'r datblygiad hwn. Mae hefyd yn cynnwys cyllid parhaus i'r Swyddog Diogelu Data Dros Dro i weithredu'r Rhaglen Adfer a Gwella Llywodraethu Gwybodaeth, cefnogi'r prosiect datblygu CRM a mentora paragyfreithiwr newydd posibl.
Nododd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y gallai ceisiadau pellach ddilyn os penodir cyfreithwyr dibrofiad ychwanegol i swyddi gwag eraill, a gofynnir am awdurdod dirprwyedig i'r Arweinydd a'r Aelod Portffolio Cyllid gymeradwyo ceisiadau o'r fath. Fodd bynnag, ni ragwelir cais pellach ar unwaith, gan fod y gwasanaeth yn bwriadu dilyn y broses a nodwyd ac ymhen amser, ailadrodd y broses os oes angen. Bydd y gwasanaeth hefyd yn parhau i geisio llenwi swyddi gwag trwy'r broses recriwtio arferol.
Roedd aelodau Pwyllgor Gwaith yn cydnabod yr heriau wrth recriwtio cyfreithwyr cymwys gyda'r cymwyseddau arbenigol angenrheidiol a'r ymdrechion helaeth a wnaed i lenwi'r swyddi gwag yn y gwasanaeth cyfreithiol. Roeddent hefyd yn cydnabod y byddai'r cyllid arfaethedig yn helpu i leihau’r ddibyniaeth ar staff asiantaeth yn y tymor hir trwy allu datblygu staff mewnol parhaol. Nododd yr Aelodau fod gwasanaeth cyfreithiol mewnol yn cefnogi gwasanaethau, yn lleihau costau, yn darparu gwybodaeth gyd-destunol a sefydliadol nad yw'n bosibl trwy gymorth allanol a hefyd yn cynnig gwell cyfleoedd i ddatblygu sgiliau Cymraeg. Cyfeiriwyd hefyd at Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a'r manteision recriwtio posibl drwy gryfhau cysylltiadau â'r ysgol.
Nododd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa wedi bod yn anodd ers peth amser a phwysleisiodd fod y Cyngor fel cyflogwr wedi ystyried pob ffordd i lenwi'r swyddi gwag. Mae heriau tebyg yn wynebu cynghorau eraill ac nid ydynt yn unigryw i'r awdurdod hwn. Pwysleisiodd rôl hanfodol y gwasanaeth cyfreithiol wrth reoli risg sefydliadol, sicrhau cydymffurfiaeth â ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 16. |
|
|
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblgu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch a ddylai Ynys Môn gyflwyno Ardoll Ymwelwyr, i'w ystyried. Darparwyd manylion y gofynion ar gyfer cynnal yr ymgynghoriad yn Atodiad A yr adroddiad.
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad, gan nodi bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ymgynghori â thrigolion, busnesau a sefydliadau lleol eraill cyn penderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ymwelwyr. Mae Cynghorau cyfagos Gwynedd a Chonwy yn bwriadu cynnal proses ymgynghori ym mis Mehefin/Gorffennaf 2026 ac mae Ynys Môn o'r farn ei bod yn synhwyrol cydweithio â Gwynedd a Chonwy ar y dull a'r amserlen, er y byddai pob cyngor yn cynnal ei ymgynghoriad ei hun yn annibynnol.
Nododd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo fod yn rhaid i'r ymgynghoriad arfaethedig ddilyn Egwyddorion Gunning a argymhellir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys cynnal ymgynghoriad yn gynnar, darparu digon o wybodaeth ar gyfer ymatebion sy’n seiliedig ar wybodaeth, caniatáu digon o amser – argymhellir 12 wythnos, a sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn ystyried yr ymatebion yn iawn. Rhaid i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud gan y Cyngor Llawn.
Pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith ei fod yn bwriadu gofyn am farn yr holl bartïon a rhanddeiliaid â diddordeb ac anogodd bawb i gyfrannu. Nodwyd hefyd y bydd yn ofynnol i bob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru ar y gofrestr genedlaethol p’un ai a yw'r Cyngor yn mabwysiadu'r ardoll ai peidio yn y pen draw.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod y gofrestr genedlaethol yn dal i gael ei datblygu gan Lywodraeth Cymru. Unwaith y bydd rhagor o fanylion ar gael, trefnir sesiwn briffio aelodau i amlinellu sut y bydd y gofrestr yn gweithio ac a fydd gan y Cyngor unrhyw gyfrifoldebau o ran gweithredu neu orfodi.
Penderfynwyd cefnogi’r canlynol –
· Ymgymryd â phroses ymgynghori gyhoeddus mewn perthynas â’r posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr ar Ynys Môn (yn unol â chanllawiau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru). · Bod y broses ymgynghori yn cael ei chynllunio ar y cyd â Chynghorau Gwynedd a Chonwy, ond yn cael ei gweithredu’n annibynnol.
|
|
|
Datganiad Polisi Trwyddedu 2026 - 2031 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Datganiad Polisi Trwyddedu 2026-2031, i'w ystyried. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i'r polisi i'w gyflwyno i'r Cyngor Llawn.
Cyflwynodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofynnol i Gyngor Ynys Môn, fel yr Awdurdod Trwyddedu, adolygu, ymgynghori a chyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu bob pum mlynedd. Mae'r polisi yn nodi sut y bydd yr Awdurdod yn arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, gan gynnwys sut y bydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch trwyddedau ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol, adloniant trwyddedig a lluniaeth hwyr y nos. Rhaid i'r awdurdod trwyddedu gyflawni ei swyddogaethau gyda'r bwriad o hyrwyddo'r pedwar amcan trwyddedu statudol ac mae'r polisi wedi'i seilio ar y rhain – atal troseddu ac anhrefn, sicrhau diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed.
Cyhoeddwyd polisi drafft i ymgynghori arno rhwng 14 Tachwedd 2025 a 5 Ionawr 2026. Derbyniwyd ymatebion gan BIPBC, Iechyd y Cyhoedd, Iechyd yr Amgylchedd ac un deiliad trwydded. Mae'r adborth yn cyfrannu at gyfres o welliannau wedi'u targedu i gryfhau adrannau penodol o'r polisi.
Penderfynwyd cefnogi cyflwyno’r datganiad Polisi Trwyddedu 2026 - 2931 drafft i’r Cyngor Llawn er mwyn ei fabwysiadu.
|
|
|
Maes Parcio Ger y Castell, Biwmares Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn ymateb i gais mewn cynllun busnes gan Gyngor Tref Biwmares (sydd wedi’i gynnwys fel Atodiad 1 i'r adroddiad) i gymryd perchnogaeth o Faes Parcio'r Castell, Biwmares, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard wrth y cyfarfod ei fod wedi derbyn cais gan Gyngor Tref Biwmares i ohirio'r penderfyniad heddiw. Fel Arweinydd a rhywun sy’n byw ym Miwmares, roedd o'r farn bod y Cyngor Tref eisoes wedi cael cyfle teg i gyflwyno achos busnes, gan nodi bod y brydles ar y maes parcio wedi dod i ben ym mis Gorffennaf 2025. Nid oedd yn credu bod unrhyw sail bellach dros ohirio a chadarnhaodd y byddai'r mater felly yn cael ei benderfynu yn y cyfarfod heddiw.
Cyflwynodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd yr adroddiad, gan nodi bod y Cyngor wedi trosglwyddo Carchar a Llys Biwmares i'r Cyngor Tref ym mis Gorffennaf 2020, yn dilyn asesiad yn seiliedig ar farn ymgynghorydd bod angen tua £600k o fuddsoddiad ar yr adeiladau. Er mwyn cefnogi'r Cyngor Tref i dalu'r costau hyn, rhoddwyd prydles 5 mlynedd ar Faes Parcio'r Castell rhwng 15 Gorffennaf 2020 a 15 Gorffennaf 2025 gyda'r bwriad bod yr incwm (tua £100k y flwyddyn) yn cyfrannu at y costau uwchraddio. Ers hynny, cafwyd cais gan y Cyngor Tref i Faes Parcio'r Castell gael ei drosglwyddo i'w berchnogaeth am byth heb unrhyw gost. Mae'r cais wedi'i ystyried a'r argymhelliad yw ei wrthod. Yn hytrach, cynigir ymestyn y brydles tan 31 Mawrth 2026 ar yr un telerau ag o'r blaen i gydnabod yr incwm a gollwyd yn ystod pandemig Covid 19. Mae'r Pwyllgor Gwaith yn argymell gwrthod am y rhesymau canlynol –
· Mae adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gwahardd cynghorau rhag gwaredu eiddo (ac eithrio drwy denantiaeth fer) am lai na’r gwerth gorau y gellir ei sicrhau yn rhesymol (heb ganiatâd y Gweinidog). Mae'r maes parcio yn werth rhwng £900k a £1.2m, yn seiliedig ar yr elw gros cyfartalog a nodir yng nghynllun busnes Cyngor Tref Biwmares. · Byddai trosglwyddo ased o'r fath i'r gymuned am ddim neu am lai na’r pris gorau sy’n bosibl yn rhesymol yn gosod cynsail newydd trwy wyro o bolisi'r Cyngor ar gyfer gwaredu eiddo. Byddai hefyd yn tanseilio polisi'r Cyngor ar waredu asedau, yn debygol o annog ceisiadau tebyg gan gymunedau eraill ar sail y cynsail newydd, a gallai o bosibl leihau derbyniadau cyfalaf yn y dyfodol o safleoedd tebyg. · Mae cynllun busnes y Cyngor Tref yn awgrymu mai prif bwrpas y cais yw cynnal y praesept ar lefel isel. Nid yw'n nodi bod incwm o'r maes parcio yn cael ei fuddsoddi yn y Carchar a'r Llys, sef y bwriad gwreiddiol y tu ôl i roi'r brydles. Praesept presennol Cyngor Tref Biwmares yw £39k sy'n sylweddol is na phraesept pob un o'r pedwar cyngor tref arall.
Pwysleisiodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y byddai'r maes parcio yn parhau i fod ar gael i'r dref ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 19. |
|
|
Cynllun Strategol Manddaliadau 2026-2031 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd yn cynnwys Cynllun Strategol Rheoli Mân-ddaliadau 2026-2032, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo, y Cynllun Strategol yn amlinellu sut y bydd y Cyngor yn rheoli ei ystâd Mân-ddaliadau amaethyddol dros y pum mlynedd nesaf. Nod y cynllun yw sicrhau hyfywedd hirdymor yr ystâd trwy sicrhau ei bod yn darparu enillion ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol priodol sy'n adlewyrchu ei gwerth cyfalaf. Mae'n nodi pedwar maes blaenoriaeth – ystâd gynaliadwy yn ariannol, ystâd a reolir yn dda, ystâd lle mae risg yn cael ei lleihau a'i rheoli, ac ystâd sy'n cefnogi amcanion Cynllun y Cyngor. Pwysleisiodd y Cynghorydd Alun Roberts fod yr ystâd yn destun balchder a bod y cynllun yn ceisio ei gosod ar sail ddiogel ar gyfer y dyfodol.
Adroddodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ar waith y Grŵp Llywio Mân-ddaliadau amlbleidiol a sefydlwyd i adolygu'r polisi blaenorol a fabwysiadwyd dros 15 mlynedd yn ôl. Cyfarfu'r grŵp bedair gwaith ac mae’n argymell y cynllun diwygiedig fel y'i cyflwynir. Ailadroddodd y balchder yn yr ystâd a'i chyfraniad i'r sector ffermio, cymunedau gwledig a'r Gymraeg. Mae barn bendant y dylid cadw'r ystâd, ac nid oes unrhyw ddymuniad i’w gwaredu ar raddfa fawr.
Ar hyn o bryd mae'r ystâd yn cynhyrchu elw o tua £200k i'r Cyngor ac mae ei gwerth a'i rheolaeth yn cyfiawnhau buddsoddiad parhaus. Fodd bynnag, mae costau cynnal a chadw yn codi'n gyflymach na'r gyllideb ac mae'r cynllun yn argymell cynyddu'r gyllideb atgyweirio a chynnal a chadw flynyddol o £102k yn 2026/27 i fynd i'r afael â'r gwaith sy’n cronni. Er nad oes unrhyw fwriad i werthu unedau, mae'r grŵp o'r farn ei bod yn rhesymol asesu'r achos busnes ar gyfer cadw neu waredu pan fydd daliadau'n dod yn wag, cadw tir lle bo'n bosibl ac ail-fuddsoddi unrhyw dderbyniadau cyfalaf yn ôl i'r ystâd. Dylid diogelu tenantiaid, ond mae angen adolygu rhenti yn unol â'r darpariaethau a'r cytundebau teg a sefydlwyd. Ystâd Mân-ddaliadau Ynys Môn yw'r ail fwyaf yng Nghymru ac mae'n amrywio o ran maint, defnydd a lleoliad. Y nod yw ei rheoli mor effeithiol â phosibl.
Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 18 Chwefror 2026, lle ystyriodd yr aelodau Gynllun Strategol Rheoli Mân-ddaliadau. Adolygodd yr Aelodau y ddogfen a rhoddwyd sicrwydd y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i sut y bydd cynnydd yn cael ei adrodd. Trafodwyd gwerth am arian ac ymgysylltu â thenantiaid. Ar ôl trafod ac ystyried y materion a godwyd a'r ymatebion a ddarparwyd, penderfynodd y pwyllgor argymell Cynllun Strategol Rheoli Mân-ddaliadau 2026-2031 i'r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo.
Diolchodd y Cynghorydd Gary Pritchard i'r Grŵp Llywio Mân-ddaliadau a’u gwaith sy’n sylfaen i'r cynllun strategol.
Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Rheoli Mân-ddaliadau 2026-2031.
|