Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 24ain Mawrth, 2026 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Materion Brys Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 253 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2026 fel rhai cywir.

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 301 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ebrill i Dachwedd 2026 gyda’r newidiadau a nodwyd yn y cyfarfod.

6.

Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 3, 2025/26 pdf eicon PDF 766 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad y Cwsmer.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 3 2025/26 a nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth a’r gwasanaeth perthnasol yn eu harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol a Llesiant (ail-gyfeirio plant o fewn 12 mis); Tai (ail-osod eiddo gwag a gwireddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), yr Economi (nifer y contractau angori blynyddol ac archwilio busnesau risg uchel i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff o’r cartref) ac Iechyd Cyngor Cyfan (ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn unol â’r amserlen).

 

7.

Fframwaith ar gyfer Rhyddhad Trethi Busnes Dewisol - Elusennau a Sefydliadau Dielw pdf eicon PDF 668 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Cymeradwyo ymestyn y polisi cyfredol am gyfnod o flwyddyn, hyd at 31 Mawrth 2027.

·      Bod y Cyngor yn ymgynghori gyda’r sefydliadau hynny sy’n derbyn rhyddhad drwy’r polisi ar hyn o bryd i benderfynu ar y polisi o fis Ebrill 2027 ymlaen.

8.

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2026-2056 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2026-2056 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

9.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 131 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol; -

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, i wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y caiff ei diffinio ym mharagraffau 12, 13 a 15 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

10.

Mewnoli'r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiant ar Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Cymeradwyo’r strwythur arfaethedig (Opsiwn 4 yn y Gwerthusiad Opsiynau – Atodiad 3) ym Môn er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth i ddysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol (mae’r cyfrifoldebau hyn yn cael eu nodi yn y Ddeddf ALNET 2018, y Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol 2021 a Rheoliadau ADY 2021) a sefydlu gwasanaeth canolog newydd

·      Rhoi pwerau dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio Addysg, Deilydd Portffolio Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd a’r Deilydd Portffolio Cyllid os bydd effaith ariannol, er mwyn gwneud newidiadau yn y strwythur mewn dull amserol yn dilyn yr ymgynghoriad (gall hyn gynnwys gweithio mewn partneriaeth gyda chorff/cyrff allanol er mwyn cyrraedd y ddarpariaeth angenrheidiol os bydd angen).

·      Bod diweddariad ar gynnydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ymhen chwe mis.