Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddi Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hadrodd. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith – cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd, 2019.
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd Carwyn Jones yn bresennol yn y cyfarfod.
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 798 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Ionawr ac Awst 2020 a nodwyd y newidiadau a ganlyn:
• Eitemau Newydd
• Eitem 6 - Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2018/19 - penderfyniad dirprwyedig ar gyfer yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol i’w gyhoeddi ym Mawrth 2020. • Eitem 23 – Polisi Taliadau Tai Dewisol (ar gyfer cyfarfod 23 Mawrth, 2020 y Pwyllgor Gwaith) • Eitem 28 – Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg (ar gyfer cyfarfod Mehefin, 2020 y Pwyllgor Gwaith) • Eitem 30 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol (Ch4 2019/20) (ar gyfer cyfarfod Mehefin, 2020 y Pwyllgor Gwaith) • Eitem 31 – Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Ch4 2019/20) (ar gyfer cyfarfod Mehefin, 2020 y Pwyllgor Gwaith) • Eitem 32 - Adroddiad Monitro Cyllideb Gyfalaf 2019/20 (Ch4 2019/20) (ar gyfer cyfarfod Mehefin, 2020 y Pwyllgor Gwaith) • Eitem 33 – Adroddiad Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2019/20 (Ch4 2019/20) (ar gyfer cyfarfod Mehefin, 2020 y Pwyllgor Gwaith)
• Eitemau Ychwanegol a Chyfarfodydd na Chyhoeddwyd ar y Rhaglen Waith
• Gwasanaeth Casglu Gwastraff a Glanhau Strydoedd – ar gyfer cyfarfod 27 Ionawr, 2020. • 20 Ionawr 2020 - cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gwaith er mwyn ystyried Moderneiddio Ysgolion (cyfarfod Sgriwtini cyn y penderfyniad wedi’i raglennu ar gyfer 14 Ionawr, 2020)
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ionawr hyd at Awst, 2020 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod. |
|
Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys 2019/20 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 yn cynnwys yr Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid y cyflwynir yr Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys yn unol â gofynion Cod Ymarfer CIPFA ar Reoli Trysorlys a’i fod yn darparu diweddariad canol blwyddyn ar y sefyllfa economaidd, sefyllfa’r Cyngor o ran gwariant cyfalaf a chydymffurfiad â dangosyddion darbodus a’i weithgaredd buddsoddi a benthyca hanner ffordd drwy’r flwyddyn ariannol ac mae’n ystyried os, o ganlyniad i’r rhain, a oes angen adolygu’r Strategaeth Rheoli Trysorlys. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn gan gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wneir yn dilyn hynny gan y Pwyllgor Gwaith.
Bu i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 dynnu sylw at y canlynol –
• Bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi craffu ar yr adolygiad canol blwyddyn a'i fod wedi’i dderbyn heb unrhyw sylwadau ychwanegol gan y Pwyllgor hwnnw. • Bod y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus y mae’r Awdurdod wedi dibynnu arno yn y gorffennol fel ei brif ffynhonnell cyllid wedi cyhoeddi ar fyr rybudd bod cynnydd o 1% yn y gyfradd fenthyca ar 9 Hydref, 2019 gan olygu bod yn rhaid i’r Awdurdod bellach ystyried ffyrdd amgen, rhatach o fenthyca. • Bod amcanion buddsoddi’r Cyngor yn unol â’r Strategaeth Rheoli Trysorlys a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 27 Chwefror, 2019 a’u bod yn parhau i fod yn ddiogelwch y cyfalaf a fuddsoddwyd, argaeledd y cyllid pan fydd ei angen ac enillion ar fuddsoddiadau. Fel ar 30 Medi, 2019 roedd gan y Cyngor £8.5 miliwn o fuddsoddiadau gyda banciau gyda mynediad parod i’r arian hwnnw a rhai buddsoddiadau tymor ychydig yn hirach gydag awdurdodau lleol (fel y cyfeirir ato ym mharagraff 5.7 yr adroddiad). Gwelir hyn fel y ffordd fwyaf diogel o fuddsoddi arian ac mae’n rhoi gwell adenillion na’r rhan fwyaf o gyfrifon galw mewn banciau. • Nid yw’r Cyngor wedi benthyca i’r lefelau a ragwelwyd ar ddechrau’r flwyddyn a hynny yn bennaf o ganlyniad i’r oedi yn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion gan olygu fod llai o wariant na’r disgwyl. • Bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r holl Ddangosyddion Darbodus a osodwyd ac a gymeradwywyd fel rhan o’r Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20. • Nad oes unrhyw newidiadau polisi i’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys.
Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad ac anfon yr adroddiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylw pellach. |
|
Ffioedd a Thaliadau 2020/21 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 yn cynnwys rhestr o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2020/21 i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ystyriaeth.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid y byddai ffioedd a thaliadau diwygiedig, yn draddodiadol, yn cael eu gweithredu o’r 1af o Ebrill yn y flwyddyn ariannol nesaf. Fodd bynnag, fel rhan o nifer o fesurau angenrheidiol er mwyn gallu ymateb i’r sefyllfa ariannol heriol bresennol, gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo gweithrediad buan nifer o’r ffioedd a thaliadau hyn o 1 Chwefror, 2020. Cafodd y rhan fwyaf o’r ffioedd a thaliadau lle mae cynnig i’w cynyddu hefyd eu gweithredu ar 1 Chwefror, 2019 y llynedd gan olygu felly eu bod wedi bod yn eu lle am flwyddyn gyfan. Lle mae cynnydd mewn ffioedd a thaliadau am resymau statudol, bydd y ffioedd a thaliadau hynny yn parhau i gael eu gweithredu ar 1 Ebrill yn unol â’r flwyddyn ariannol. Mae cyllidebau incwm ar gyfer ffioedd a thaliadau anstatudol ar gyfer 2020/21 wedi eu cynyddu 3% ar gyfartaledd ar draws pob gwasanaeth unigol.
Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, er bod y targed incwm wedi’i osod ar 3% ar draws y Gwasanaethau, bod gan Benaethiaid Gwasanaeth y rhyddid i gynyddu ffioedd unigol fwy neu lai na 3% er mwyn adlewyrchu gofynion y gwasanaeth a’r galw. Bydd ffioedd a thaliadau sy’n berthnasol i ysgolion yn cael eu gweithredu ar 1 Medi, 2020.
Nododd y Cadeirydd fod y Panel Sgriwtini Cyllid yn bwriadu ymgymryd â darn o waith craffu ar ffioedd a thaliadau ac yr adroddir ar ganlyniadau adolygiad y Panel yn y man.
Penderfynwyd cymeradwyo’r atodlen Ffioedd a Thaliadau am 2020/21 fel yr amlinellir yn y llyfryn o dan Atodiad A i’r adroddiad. |
|
Newidiadau i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu Ailstrwythuro Mewnol PDF 983 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ystyriaeth, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn nodi’r diwygiadau sydd i’w gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn adlewyrchu’r newidiadau i strwythur staffio’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Penaethiaid Gwasanaeth.
Adroddodd Aelod Portffolio Busnes y Cyngor bod newidiadau gan y Prif Weithredwr i strwythurau staffio’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA) a’r Penaethiaid Gwasanaeth i gael eu hadlewyrchu yng nghyfansoddiad y Cyngor ac y bydd yr awdurdod dirprwyedig a roddwyd i bob aelod o’r UDA yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny (Strwythur staffio diwygiedig i’w weld yn Atodiad 2 o’r adroddiad). Mae’r ailstrwythuro presennol yn cynrychioli arbediad i Gyngor Sir Ynys Môn gan leihau costau’r Tîm Rheoli Corfforaethol o £682k i £568k. Gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith ystyried y newidiadau a gwneud argymhellion yn dilyn hynny i’r Cyngor Llawn.
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn –
• Nodi’r newidiadau ac yn cadarnhau ei fod yn cytuno â’r strwythur newydd fel yn Atodiad 2 yr adroddiad sy’n dangos:
• Newid i deitlau swyddi a manylebau aelodau o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth/Penaethiaid Gwasanaeth. • Diddymu dwy rôl y Prif Weithredwyr Cynorthwyol. • Creu un rôl Dirprwy Brif Weithredwr. • Diddymu dwy rôl Pennaeth Swyddogaeth. • Creu pum rôl Cyfarwyddwr newydd, a • Newid llinellau adrodd ar gyfer aelodau o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Penaethiaid Gwasanaeth.
• Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo cynnwys Atodiad 2 yng Nghyfansoddiad y Cyngor.
• Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau i’r awdurdod dirprwyedig yn Atodiad 3.
• Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo unrhyw benodiadau i swydd Cyfarwyddwr yn y dyfodol gael eu gwneud gan y Pwyllgor Penodiadau, a
• Chadarnhau ei fod yn cymeradwyo i unrhyw newidiadau ôl-ddilynol eraill gael eu gwneud i’r Cyfansoddiad er mwyn adlewyrchu’r argymhellion uchod.
Wrth gau’r cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i Staff y Cyngor a’r Aelodau Etholedig am eu gwaith a’u hymrwymiad dros y flwyddyn ddiwethaf a dymunodd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. |