Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Iau, 23ain Mai, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllog, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Llinos Medi ddatgan buddiant personol yn unig  mewn perthynas ag eitem rhif 5 gan ei bod yn cynrychioli’r Awdurdod Lleol ar gorff llywodraethol Ysgol Llanfechell. 

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 171 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024 i’w cadarnhau.

 

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024 yn gywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 209 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth, a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Mehefin 2024 i Ionawr 2025 i’w chadarnhau.

 

Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar gynnwys y Flaen Raglen Waith gan amlygu’r eitemau newydd a oedd wedi cael eu hychwanegu a’r rhai a oedd wedi cael eu haildrefnu.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Mehefin 2024 i Ionawr 2025.

 

5.

Trefniadaeth Ysgolion - Adroddiad Gwrthwynebu a dod i Benderfyniad Terfynol am Ysgol Carreglefn pdf eicon PDF 1015 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Gwrthwynebu ar y cynnig i drosglwyddo disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, a adroddodd bod y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo’r cynnig yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2024 a bod Rhybudd Statudol o fwriad y Cyngor i drosglwyddo disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell wedi cael ei gyhoeddi ar 1 Mawrth 2024. Roedd gan randdeiliaid 28 diwrnod i gyflwyno gwrthwynebiad statudol i’r cynnig.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb y cynigiwr [h.y. y Cyngor] a gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith eu hystyried cyn dod i benderfyniad terfynol ynglŷn â’r cynnig. Amlygodd yr Aelod Portffolio bod gan Ysgol Carreglefn lai na 10 disgybl ar y gofrestr pan gynhaliwyd y Cyfrifiad ym mis Ionawr 2024, ac felly mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn caniatáu i’r awdurdod lleol ddilyn proses symlach i gau’r ysgol yn swyddogol ac mae’r gofyn i gynnal ymgynghoriad cyffredinol yn cael ei hepgor.

Adroddodd yr Uwch Reolwr Addysg ar gyfer y Sector Uwchradd bod y Cyngor wedi derbyn 8 ymateb a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig - 7 gan ddisgyblion Ysgol Carreglefn a’r llall gan Gorff Llywodraethol Ysgol Carreglefn.  Mae’r materion a godwyd ac ymateb y Cyngor wedi’u crynhoi yn Nhabl 1 yn yr Adroddiad Gwrthwynebu.  Yn ogystal â’r ymatebion yma, derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Cymuned Mechell wedi i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben ar 2 Ebrill 2024.  Mae’r sylwadau hyn wedi’u crynhoi yn rhan 4 yn yr Adroddiad Gwrthwynebu a chan mai sylwadau ydynt yn hytrach na gwrthwynebiadau, a chan eu bod wedi dod i law ar ôl y cyfnod gwrthwynebu statudol, nid yw’r cyngor wedi delio â hwy ac ymateb iddynt fel gwrthwynebiadau statudol ac maent yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad er budd tryloywder. Pe byddai’r Pwyllgor Gwaith yn cadarnhau ei benderfyniad i drosglwyddo disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn bydd llythyr penderfyniad yn cael ei gyhoeddi a bydd trefniadau’n cael eu rhoi ar waith i weithredu’r penderfyniad hwnnw a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Llanfechell, a darparu cefnogaeth i’r plant a’u rhieni a staff yr ysgol yn ystod y broses.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg bod y gwrthwynebiadau wedi cael eu hystyried a bod yr ymatebion wedi’u cynnwys yn yr Adroddiad Gwrthwynebu. Cynigodd yr argymhellion yn yr adroddiad sef cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Carreglefn a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Llanfechell. Wrth wneud hynny diolchodd i’r Swyddogion a’r rhai a oedd wedi cyfrannu i’r broses a thalodd deyrnged i staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni Ysgol Carreglefn yn ogystal â’r gymuned ehangach am eu gwaith caled i gefnogi a chynnal Ysgol Carreglefn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd y diolchiadau hynny eu hategu gan Aelodau’r Pwyllgor Gwaith a wnaeth hefyd gydnabod yr urddas y mae Ysgol Carreglefn a chymuned Carreglefn wedi’i ddangos yn ystod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 98 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol ag Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ystyriwyd a phenderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd eithriad ohoni.

 

 

7.

Cytuno ar y Trefniadau ar gyfer Sefydlu Porthladd Rhydd Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn nodi’r trefniadau ar gyfer sefydlu Porthladd Rhydd Ynys Môn, yn cynnwys y trefniadau lywodraethu ac ystyriaethau cyllidebol, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr grynodeb o’r gwaith sydd wedi cael ei gwblhau hyd yma. Er mwyn cyrraedd y cam yma yn y broses mae’r Cyngor wedi cynnal trafodaethau helaeth â rhanddeiliaid ac mae ymgynghorwyr y Cyngor yn ogystal â Swyddogion o’r gwasanaeth Datblygu Economaidd, Adnoddau, Cyfreithiol a Rheoli Risg wedi cyfrannu at y broses, yn ychwanegol i’w dyletswyddau dydd i ddydd. Rhoddodd ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar hynt yr Achos Busnes Amlinellol drafft (OBC) ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn a’r amserlen ar gyfer ei gyflwyno a’r Achos Busnes Llawn (FBC) a’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a fydd yn cael eu cwblhau wedi hynny.

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar y dull arfaethedig ar gyfer llywodraethu endid y Porthladd Rhydd a’r gyllideb ddrafft ar gyfer y Porthladd Rhydd, fel y nodir yn yr adroddiad. Yn ei gyfarfod ym mis Mawrth penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ddirprwyo awdurdod i Swyddogion, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, i gytuno ar Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni Porthladd Rhydd arfaethedig a’r Cytundeb Aelodau ac i barhau i negodi â rhanddeiliaid allweddol a’u gwahodd i ddod yn aelodau o’r cwmni. Mae Penawdau Telerau’r cwmni arfaethedig, a fydd yn cael ei adnabod fel Porthladd Rhydd Ynys Môn Cyf., wedi cael eu drafftio ac maent ynghlwm yn Atodiad 1 yn yr adroddiad. Mae’r amserlen ar gyfer cwblhau’r OBC yn awgrymu y bydd y Porthladd Rhydd yn dod yn weithredol ym mis Gorffennaf 2024, sy’n golygu bod rhywfaint o oblygiadau mewn perthynas â sefydlu endid cyfreithiol y Porthladd Rhydd, rhoi’r cytundebau tirfeddianwyr ar waith a sicrhau bod gennym rywfaint o gapasiti i weithredu’r Porthladd Rhydd. Mae’r adroddiad yn mynd i’r afael â’r materion hyn, ac yn cyfeirio at y gweithgareddau y mae disgwyl i’r Porthladd Rhydd eu cyflawni fel rhan o’r rhaglen Porthladd Rhydd. Mae’r adroddiad hefyd yn ymhelaethu ar y gyllideb ddrafft arfaethedig. 

 

Bu i’r Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor Gwaith gydnabod y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau gan Swyddogion y Cyngor i sefydlu’r Porthladd Rhydd. Trafodwyd amserlen yr Achos Busnes Amlinellol a’r Achos Busnes Llawn a holwyd ynglyn â’r ffactorau a/neu ddatblygiadau a all effeithio ar yr amserlenni hynny yn ogystal â’r risgiau i’r Cyngor. Bu i’r Swyddogion gynnig eglurhad a sicrwydd mewn perthynas â’r materion a godwyd.

 

Penderfynwyd -

·      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Cyfarwyddwr Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Adnoddau/Swyddog Adran 151, i wneud y Cyngor yn Aelod Sefydlol o Borthladd Rhydd Ynys Môn cyf (y Cwmni Porthladd Rhydd) ar y cyd â rhanddeiliaid lleol allweddol.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Cyfarwyddwr Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Adnoddau/Swyddog Adran 151, i gwblhau ac arwyddo Erthyglau Porthladd Rhydd Ynys Môn cyf (y Cwmni Porthladd Rhydd) a’r Cytundeb Aelodau.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.