Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllog, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024 fel rhai cywir. |
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 209 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mehefin 2024 i Ionawr 2025 fel y’i cyflwynwyd. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Trosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn o 31 Awst 2024. · Awdurdodi Swyddogion i gyhoeddi rhybudd o’r penderfyniad terfynol ar ffurf llythyr penderfyniad yn unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 011/2018. · Ymestyn dalgylch Ysgol Llanfechell i ymgorffori dalgylch presennol Ysgol Carreglefn.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 98 KB Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: |
|
Cytuno ar y Trefniadau ar gyfer Sefydlu Porthladd Rhydd Ynys Môn Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’rArweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i wneud y Cyngor yn Aelod Sefydlol o Borthladd Rhydd Ynys Môn Cyf. (y Cwmni Porthladd Rhydd) ar y cyd â rhanddeiliaid lleol allweddol. · Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’rArweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i gwblhau ac arwyddo Erthyglau Porthladd Rhydd Ynys Môn Cyf. (y Cwmni Porthladd Rhydd) a’r Cytundeb Aelodau. · Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’rArweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i gwblhau ac arwyddo Cytundebau Tirfeddiannwr rhwng CSYM, Porthladd Rhydd Ynys Môn Cyf. (y Cwmni Porthladd Rhydd) a phob perchennog tir a/neu feddiannwr perthnasol yn ôly gofyn. · Cymeradwyo cyllideb ddrafft arfaethedig Porthladd Rhydd Ynys Môn a rôl CSYM fel Corff Atebol. · Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â’rAelod Portffolio Cyllid i adolygu a chymeradwyo’r gyllideb derfynol pan gaiff ei chyflwyno gan Gwmni Porthladd Rhydd Ynys Môn. Disgwylir gwariant (gan gynnwys cyllideb wrth gefn) yn unol â’r tabl ar dudalen 7 yr adroddiad. · Nodi y bydd unrhyw oblygiadau fydd yn effeithio ar gyllideb y Cyngor yn cael eu cynnwys i’w cymeradwyo yng Nghyllideb y Cyngor Llawn ar gyfer 2025/26. |