Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i'w adrodd.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Mai 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Mai 2024 i'w cadarnhau.
Penderfynwyd cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Mai 2024 yn gywir.
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 208 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025 i'w gadarnhau.
Diweddarodd y Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ynghylch eitemau newydd ar y Blaen Raglen Waith ynghyd ag eitemau a oedd wedi'u haildrefnu ar gyfer y cyfnod adrodd.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
|
|
Hunan Asesiad Corfforaethol 2023/24 PDF 684 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys adroddiad hunanasesu corfforaethol blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai fel y trydydd adroddiad hunanasesu a gynhyrchwyd gan y Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021. Mae'r adroddiad yn sail dystiolaeth o sut mae'r Cyngor wedi perfformio dros y flwyddyn gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael wrth reoli a lliniaru risgiau cysylltiedig. O'r saith maes allweddol sy'n ganolbwynt i'r hunanasesiad, asesir bod pedwar maes (cynllunio gwasanaethau, cynllunio ariannol, cynllunio'r gweithlu a rheoli perfformiad) yn rhagori ar ddisgwyliadau tra asesir bod tri maes (rheoli asedau, caffael a rheoli contractau, a rheoli risg ac archwilio) yn bodloni disgwyliadau. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi cyfleoedd i wella a monitro sawl maes yn ystod 2024/25 a chraffwyd ar y gwaith gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth ar yr adroddiad Hunanasesiad Corfforaethol o'i gyfarfod ar 13 Mehefin 2024 gan gadarnhau bod y Pwyllgor, wrth gymeradwyo'r adroddiad, wedi gofyn am ddiweddariad ymhen chwe mis ynghylch y cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu mewn perthynas â'r tri maes allweddol a aseswyd fel rhai sy'n bodloni disgwyliadau (yn hytrach na rhagori ar ddisgwyliadau), a bod yr adroddiad hunanasesu ar gyfer 2024/25 yn dangos sut mae'r camau hynny wedi gwella'r perfformiad ar gyfer y tri maes allweddol hynny.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y meysydd lle nodwyd bod cyfleoedd i wella a monitro a rhoddodd sicrwydd eu bod i gyd yn cael sylw a'u bod yn symud ymlaen yn dda.
Croesawodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yr adroddiad fel tystiolaeth o ymrwymiad parhaus a gwaith caled staff a'u parodrwydd i fynd y filltir ychwanegol fel yr adlewyrchir gan y meysydd yr aseswyd fel rhai sy’n rhagori ar ddisgwyliadau. Diolchodd yr Aelodau i bawb a oedd wedi cymryd rhan yn y gwaith o baratoi'r hunanasesiad a’r broses gadarn o herio perfformiad ar hyd y flwyddyn. Mae'r canlyniad yn glod i'r Awdurdod mewn cyfnod anodd yn ariannol ac mae'n dangos ei fod yn gwneud gwahaniaeth. Bydd yr Awdurdod yn parhau i ymdrechu i gynnal perfformiad a gwneud yn well lle y bo'n bosibl. Yn y cyd-destun hwn, tynnodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol sylw at wydnwch ariannol y Cyngor fel un o'r meysydd i'w monitro yn y flwyddyn ariannol bresennol yn sgil pwysau costau byw a gostyngiad mewn cyllid. Pwysleisiodd ei fod yn bwysig bod y cyhoedd yn ymwybodol y gallai gwasanaethau fod mewn risg os nad yw’r cyngor hwn a chynghorau eraill yn derbyn setliad ariannol teg ar gyfer 2025/26.
Gofynnodd y Cynghorydd Dafydd Roberts am sicrwydd bod y mater RAAC yn asedau'r cyngor wedi cael sylw penodol.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y cyfeiriad at RAAC yn yr adroddiad mewn perthynas â chwblhau'r gwaith adnewyddu yn y ddwy ysgol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Monitro'r Gyllideb Refeniw, Alldro 2023/24 PDF 387 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 4 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn amlinellu sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 ac roedd yn cynnwys dadansoddiad o amrywiannau cyllidebol.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid. Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2023/24, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw tanwariant o £1.732m. Mae hyn yn 0.99% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2023/24. Er bod hwn yn ganlyniad cadarnhaol, rhaid cofio bod £3.78m o'r Gronfa Gyffredinol wedi cael ei ddefnyddio fel cyfraniad tuag at gydbwyso cyllideb 2023/24 felly mae'r canlyniad i bob pwrpas yn lleihau lefel cyfraniad y Gronfa Gyffredinol.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y ffaith bod ad-daliadau’n gysylltiedig â gwerth ardrethol mewn perthynas ag Oriel Ynys Môn ac eiddo arall wedi cyfrannu £1.6m yn ychwanegol tuag at incwm y Cyngor sydd i'w drosglwyddo i'r Gronfa Gyffredinol. Mae tanwariant yn y rhan fwyaf o wasanaethau ac eithrio Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac mae’r gwasanaeth hwnnw’n yn adrodd y rhagwelir gorwariant o £1.715m ar ddiwedd y flwyddyn o ganlyniad i gynnydd yn y galw am leoliadau a chostau lleoli plant. Mae perfformiad ariannol Gwasanaethau Oedolion wedi gwella oherwydd incwm grant ychwanegol. Gwasanaethau Plant yw'r risg ariannol fwyaf i'r Cyngor wrth symud ymlaen gan y gall newid bach yn nifer yr achosion gael effaith sylweddol ar gost y gwasanaeth yn gyffredinol ac mae'n faes y mae Llywodraeth Cymru yn ei adolygu. Gofynnwyd hefyd i wasanaethau leihau costau yn y flwyddyn drwy beidio â llenwi swyddi gwag cyhyd â phosibl fel strategaeth tymor byr.
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai fod y pwysau ar gyllidebau gofal cymdeithasol plant, a’r galw arnynt, i’w deimlo drwy’r wlad ac mai’r argyfwng costau byw yw un o’r ffactorau sy’n gyfrifol am hyn. Er bod y Cyngor wedi buddsoddi'n sylweddol mewn darpariaeth gofal maeth mewnol a chartrefi clyd yn ogystal ag mewn gwasanaethau ataliol, ni ellir rhagweld yr heriau o ran galw ond mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i ymateb iddynt.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mai darpariaeth arbenigol i'r unigolion hynny sydd wedi profi trawma lefel uchel sy’n costio fwyaf, ac nad yw'r Cyngor yn gallu eu diwallu oherwydd yr arbenigedd sydd ei angen a'r gost gysylltiedig. Er y byddai'r gorwariant yng Ngwasanaethau Plant wedi bod yn sylweddol uwch pe na bai'r Cyngor wedi buddsoddi i ddatblygu ei ddarpariaeth gofal maeth a chartrefi clyd, mae achosion mwy cymhleth gan gynnwys plant ag anableddau, yn aml yn gofyn am ddarpariaeth y tu allan i'r ardal, sy'n gostus.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr hefyd at y newid o ran demograffeg ac at boblogaeth sy'n heneiddio ar Ynys Môn sydd â goblygiadau o ran y galw am wasanaethau gofal. Mae'r system gyllido bresennol yn anghynaladwy ac mae angen ei diwygio o ystyried yr heriau cynyddol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Alldro Cyfalaf 2023/24 PDF 459 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 sy'n destun archwiliad i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a roddodd grynodeb o'r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 yn unol â pharagraff 1.2 yr adroddiad. Cyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 oedd £67.788m, o'r swm hwnnw, gwariwyd £50.574m neu 75% ohono hyd at 31 Mawrth 2024 gan roi tanwariant o £17.214m.
Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bwysigrwydd arian grant yn rhaglen gyfalaf y Cyngor, gyda 63% o'r gyllideb a 59% o'r gwariant gwirioneddol yn cael ei ariannu gan grantiau cyfalaf - rhai ohonynt yn cael eu sicrhau drwy broses gystadleuol. Nid yw lefel y tanwariant ar y rhaglen yn annisgwyl o ystyried nifer y prosiectau mawr, cymhleth dan sylw ac mae'r rhan fwyaf o'r tanwariant yn ymwneud â phrosiectau mawr lle mae materion neu oedi annisgwyl wedi digwydd gan achosi i brosiectau lithro; darperir trosolwg o'r prosiectau hyn ym mharagraff 2.2 o'r adroddiad. Mae'r cyllid ar gyfer y prosiectau hyn wedi'i sicrhau a bydd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2024/25 ac ni fydd y Cyngor yn colli adnoddau. Fodd bynnag, mae disgwyl i danwariant ar y Grant Anghenion Dysgu Ychwanegol gael ei ad-dalu i Lywodraeth Cymru. Eglurodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai nad oedd yn bosibl cydymffurfio â thelerau ac amodau'r grant oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor sy'n cynnwys gwaith yn gysylltiedig â RAAC yn Ysgol Uwchradd Caergybi. Gwnaed cais i Lywodraeth Cymru am ganiatâd i ddwyn y tanwariant ymlaen ond ni chafodd ei gymeradwyo.
Cydnabu aelodau'r Pwyllgor Gwaith fod y Cyngor yn dibynnu ar arian grant ar gyfer cyfran uchel o'i gynlluniau cyfalaf a diolchodd i'r Swyddogion am neilltuo eu hamser a’u gwaith yn cystadlu am nifer o'r grantiau sy'n allweddol i gynnal rhaglen gyfalaf y Cyngor. Er i'r aelodau bwysleisio pwysigrwydd gwneud y mwyaf o gyfleoedd grant, nodwyd hefyd y gall nifer o grantiau a ddyfernir fod at ddiben penodol ac ar gyfer prosiectau nad ydynt efallai'n flaenoriaeth i'r Cyngor.
Dywedodd y Prif Weithredwr, pan fo grantiau'n cael eu dyfarnu drwy broses gystadleuol, fod angen amser, arbenigedd ac elfen o fenter gan Swyddogion i nodi cyfleoedd a sicrhau'r cyllid yn ogystal â rheoli'r gwariant ar ôl hynny. Fodd bynnag, wrth i'r Cyngor gwtogi capasiti, mae perygl y bydd llai o gapasiti ac arbenigedd i ymgeisio am grantiau yn y dyfodol a fydd yn golygu bod angen rheoli disgwyliadau ac efallai y bydd yn rhaid blaenoriaethu'r grantiau y mae'r Cyngor yn cystadlu amdanynt.
Penderfynwyd –
|
|
Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai, Alldro 2023/24 PDF 236 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y CRT ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024 ar gyfer y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a nododd fod gwarged a gynlluniwyd o £8.044k. Y gyllideb cyfalaf gros ar gyfer 2023/24 oedd £19,988k gyda grant a chyllid arall o £6,898k yn lleihau'r gyllideb £13,090k. Roedd y cyfuniad o'r gyllideb refeniw a'r gyllideb gyfalaf wedi'i haddasu yn rhoi diffyg cyllidebol wedi'i gynllunio o £5,046k a fyddai'n cael ei ariannu o gronfa wrth gefn y CRT.
Mae gwir warged refeniw CT o £8, 727 yn uwch na'r lefel gwarged a gynlluniwyd o £683k fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad. Roedd tanwariant o £182k ar alldro o ran gwariant cyfalaf fel y nodir yn Atodiad B. Roedd incwm grant £801k yn uwch na'r gyllideb gyda chyfraniadau eraill £538k yn is na'r gyllideb. Ar alldro, roedd tanwariant o £44k o ran gwariant cyfalaf net. Derbyniwyd swm ychwanegol o £509k trwy werthu 4 annedd dan drefniant rhannu ecwiti, cafodd hwn ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn a glustnodwyd. Ar alldro, roedd y diffyg (gan gyfuno refeniw a chyfalaf) yn £3,918k, £1,127k yn is na’r gyllideb. Mae hyn yn golygu fod balans cau cronfa wrth gefn y CRT yn £8,189k. Mae'r balans wedi'i glustnodi a dim ond ar gael i ariannu gwariant y CRT yn y dyfodol.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y strategaeth CRT fel y'i nodir yng Nghynllun Busnes 30 mlynedd y CRT fel un sydd i ddefnyddio gwarged refeniw y CRT fel cyfraniad tuag at wariant cyfalaf i gynnal y stoc bresennol yn unol â safonau SATC gyda chronfa wrth gefn y CRT yn cael ei defnyddio i ariannu datblygiad cartrefi newydd. Wrth i gronfa wrth gefn y CRT ostwng i'r lefel y cytunwyd arni yn y Cynllun Busnes, sef tua £1m i £1.5m, bydd y cyngor yn benthyca i barhau â'r broses adeiladu a'r costau’n cael eu hariannu o'r incwm a geir o'r cartrefi newydd a ddatblygwyd eisoes.
Penderfynwyd nodi’r sefyllfa a osodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24.
|
|
Cyfrifon Terfynol Drafft 2023/24 a defnydd o Gronfeydd with Gefn a Balansau PDF 361 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft (CIES) ar gyfer 2023/24 a chyflwynwyd y Fantolen ddrafft ar 31 Mawrth 2024 i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o falansau cyffredinol y Cyngor, cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi, balansau ysgolion a chronfa’r CRT.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a nododd fod cyfrifon drafft y Cyngor wedi cael eu hanfon ymlaen i Archwilio Cymru i'w harchwilio o fewn y dyddiad cau a bennwyd ac wedi cael eu hadolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 18 Gorffennaf 2024.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y CIES sy'n dangos sefyllfa incwm a gwariant y Cyngor ar gyfer 2023/24 gan gynnwys cost gwasanaethau yn seiliedig ar arferion cyfrifyddu yn hytrach na'r swm sydd i'w ariannu o drethi. Adroddodd ar y newidiadau yng nghronfeydd wrth gefn a balansau'r Cyngor ar 31 Mawrth 2024 fel y'u crynhoir ym mharagraff 3.4 o'r adroddiad a dywedodd fod y ffigurau a gyflwynir yn destun archwiliad ac y gallent newid. Y balans ar y Gronfa Gyffredinol ar 31 Mawrth 2024 yw £15.604m (gan gynnwys y tanwariant o 2023/24) neu 8.95% o gyllideb gwariant net 2023/24. Defnyddiodd y Cyngor £4.425m o'r gronfa wrth gefn hon fel cyllid ar gyfer cyllideb 2024/25 sy'n lleihau'r balans net sydd ar gael i £11.179m neu 6.08% o gyllideb gwariant net 2024/25. Argymhelliad y Swyddog Adran 151 a gymeradwywyd gan y Cyngor yw y dylid cadw 5% o'r gyllideb gwariant refeniw net fel isafswm balans o'r gronfa wrth gefn ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Yn seiliedig ar yr argymhelliad hwn, dylai'r isafswm balans fod yn £9.2m sy'n golygu bod £2m o falansau i'r Cyngor uwchlaw'r isafswm ffigur hwn. Yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael, mae'r sefyllfa ariannol ar gyfer 2025/26 yn ymddangos yn heriol. Mae'r gwarged mewn balansau cyffredinol yn cryfhau sefyllfa'r Cyngor ac yn rhoi cyfle iddo ddefnyddio ei falansau cyffredinol yn 2024/25 yn ychwanegol at setliad Llywodraeth Cymru a chyllid y Dreth Gyngor. Hefyd bydd cadw at y gyllideb yn helpu sefyllfa’r Cyngor gan y bydd yn rhaid i unrhyw orwariant ddod o'r balansau cyffredinol. Mae'r gwaith cynllunio ar gyfer 2025/26 eisoes wedi dechrau.
Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 hefyd at falansau ysgolion sydd, er eu bod wedi gostwng, yn parhau i fod mewn cyflwr cymharol iach yn gyffredinol, ac at gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ac a gedwir at ddibenion penodol. Mae Tabl 4 yr adroddiad yn nodi'r cronfeydd wrth gefn newydd a grëwyd yn 2023/24 a'r rhesymau dros eu creu a gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo hyn.
Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith yn cwblhau'r cyfrifon drafft ar amser a'u cyflwyno i'w harchwilio.
Penderfynwyd –
|
|
Newid i'r Cyfansoddiad: Cynllun Dirprwyo i Swyddogion PDF 177 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i sefydlu cynllun dirprwyo i sicrhau bod Cyngor yn cyflawni ei swyddogaeth statudol mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad sy'n Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd.
Rhoddodd Rheolwr Rhaglen Ynys Ynni drosolwg o broses archwilio'r NSIP a rôl statudol y Cyngor mewn perthynas ag NSIP a dywedodd ei bod yn ystyried bod angen sefydlu cynllun dirprwyo i sicrhau y gall y Cyngor gyflawni ei ddyletswyddau statudol yn effeithiol o ran ymwneud â phrosiect mawr sy'n Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol er mwyn gallu cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau a bennir gan yr Arolygiaeth Gynllunio a chymryd rhan yn y broses archwilio naill ai drwy wrandawiadau neu ymchwiliadau. Gan mai’r Arolygiaeth Gynllunio sy’n gosod amserlen yr archwiliad, nid yw'n bosibl sicrhau bod y dyddiadau cau i'r Cyngor gyflwyno sylwadau a thystiolaeth yn cyd-fynd â chylch pwyllgorau'r Cyngor. Am y rheswm hwn, gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith gefnogi cynllun dirprwyo sy'n caniatáu i'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor mewn perthynas â NSIP. Rhoddodd Rheolwr Rhaglen Ynys Ynni sicrwydd y bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud ym mhob cam i roi cyfle i gymaint o fewnbwn gwleidyddol â phosibl drwy drefniadau llywodraethu presennol.
Yn yr un modd, nid yw'r amserlen archwilio a gadarnhawyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn caniatáu digon o amser i gyfieithu ceisiadau’r Cyngor erbyn y dyddiad cau. Felly gwneir cais i wyro oddi wrth ofynion polisi Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn caniatáu i'r gwaith o gyfieithu ceisiadau'r Cyngor ar gyfer y broses archwilio gael ei wneud ar ôl y dyddiad cau. Ni fydd hyn yn cael effaith ar gydymffurfio â safonau darparu gwasanaeth statudol, sy’n sicrhau gohebiaeth Gymraeg/ddwyieithog gyda’r cyhoedd a phobl eraill yng Nghymru. Darperir fersiwn Gymraeg o geisiadau'r Cyngor bob amser ac ni fydd unrhyw ddogfen yn cael ei chyhoeddi nac ar gael i’r cyhoedd nes bod cyfieithiad Cymraeg ar gael.
Ychwanegodd y Cynghorydd Nicola Roberts eu bod wedi trafod yn anffurfiol y posibilrwydd o ysgrifennu at yr Arolygiaeth Gynllunio i dynnu sylw at y ffaith nad yw’r amserlen archwilio fel y'i pennwyd yn caniatáu i’r cyngor gyflwyno dogfennau dwyieithog, gyda'r bwriad o adolygu'r amserlen ar gyfer y dyfodol fel bod modd gwneud hynny.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai llythyr i'r perwyl hwnnw'n cael ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.
Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn cefnogi’r canlynol -
· I ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad a’r Arweinydd (neu pa bynnag wedi ei ddirprwyo i Ddeilydd Portffolio a enwebwyd gan yr Arweinydd), i gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad sydd yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) ac sy'n gofyn am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cynllunio 2008 fel y diwygiwyd gan yr Ysgrifennydd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cyflwr economaidd-gymdeithasol Gogledd Ynys Môn a’r achos dros fuddsoddi a chymorth PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Adroddiad Effaith Economaidd-Gymdeithasol Gogledd Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai fel sail dystiolaeth i nodi'r sefyllfa a'r heriau presennol sy'n wynebu Gogledd Ynys Môn yn ogystal ag uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer buddsoddi i fynd i'r afael â'r heriau economaidd-gymdeithasol penodol yn yr ardal. Mae Gogledd yr Ynys wedi bod yn dirywio ers nifer o flynyddoedd wrth i fusnesau cyflogi mawr gau, wrth golli swyddi o ansawdd da ac wrth i siaradwyr Cymraeg a phobl o oedran gwaith adael yr ynys gan adael ar ei hôl boblogaeth sy'n heneiddio ac economi sydd mewn trafferthion. Er bod Gogledd Ynys Môn yn cynnwys traean o'r Ynys, mae gan yr ardal lai na 10% o'r holl swyddi yn Ynys Môn ac mae ei thref fwyaf, Amlwch, o fewn y 30% uchaf o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth gadarn a chyfiawnhad dros ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at y materion, yr heriau a'r cyfleoedd o ran Gogledd Ynys Môn ac i ddadlau dros fuddsoddi a chymorth i fynd i'r afael â dirywiad economaidd yr ardal.
Dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd, er bod yr adroddiad wedi'i lunio o safbwynt datblygu economaidd, ei fod yn berthnasol i holl wasanaethau'r Cyngor a’i fod yn bwysig felly bod unrhyw ymyriadau/atebion yn cael eu gwneud ar sail Cyngor cyfan a bod y Cyngor hefyd yn parhau i ymgysylltu'n agos â Llywodraethau Cymru a San Steffan a gyda phartneriaid strategol eraill i fwrw ymlaen â'r mater hwn.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi cymryd y cam beiddgar o ddod â'r heriau sy'n wynebu Gogledd Ynys Môn i sylw'r cyhoedd mewn adroddiad sy'n ddeunydd darllen dyrys iawn. Er bod y Cyngor yn gwneud pob ymdrech gyda'r adnoddau sydd ar gael i fynd i'r afael â'r sefyllfa yng Ngogledd Ynys Môn, mae ystyriaethau polisi ar lefelau llywodraeth Cymru a'r DU a thrwy'r NDA sy'n ymestyn y tu hwnt i gyrhaeddiad y Cyngor. Mae'r llythyr arfaethedig at Lywodraeth Cymru yn bwysig ac mae angen ei gylchredeg yn fwy eang a chynnal trafodaethau brys am y sefyllfa er mwyn osgoi dirywiad pellach. Mae'r sefyllfa yng Ngogledd Ynys Môn hefyd yn gysylltiedig â newid o ran demograffeg a cholli trigolion rhwng 25 a 50 oed dros y degawd diwethaf a fydd, os bydd y tueddiad yn parhau, yn arwain at oblygiadau ar gyfer darparu gwasanaethau. Mae'n gofyn am gynllun strategol i nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer yr ardal gan ystyried anghenion y genhedlaeth nesaf. Mae'r Cyngor, drwy gyhoeddi'r adroddiad a'r asesiad o'r materion, yn cymryd y dull strategol hwnnw gyda'r nod o ddod â'r sefydliadau perthnasol ynghyd i osod amcanion a sicrhau y bydd y penderfyniadau a wneir yn creu dyfodol gwell i'r genhedlaeth nesaf yng Ngogledd Ynys Môn.
Cytunodd y Pwyllgor Gwaith fod Gogledd Ynys Môn yn ardal sydd angen sylw a’i bod yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11. |