Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Medi, 2024 fel cofnod cywir.
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 238 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2024 i Mehefin 2025 gyda’r newidiadau ychwanegol a nodwyd yn y cyfarfod.
|
|
Adolygiad Rheoli’r Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2023/24 PDF 177 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: · Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad yn parhau dros dro tan y bydd Archwiliad o Ddatganiad y Cyfrifon 2022/23 wedi ei gwblhau a’i lofnodi; bydd unrhyw addasiad sylweddol i’r ffigyrau yn yr adroddiad yn cael ei adrodd fel bo’n briodol. · Nodi dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro 2022/23 yn yr adroddiad. · Trosglwyddo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24 i gyfarfod nesaf y Cyngor llawn gydag unrhyw sylwadau.
|
|
Cynllun Strategol Rheoli Risg Llifogydd Lleol PDF 3 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PEDNERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Strategol Rheoli Llifogydd drafft a'r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol (LFRMS) ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 144 KB Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: |
|
Diweddariad ar Gynnydd Rhaglen 'Cysylltu Gofal' - Caffael a Chyllid Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Penderfyniad: PENDERFYNWYD:- · Cymeradwyo’r dull a ffafrir, fel y disgrifir yn yr Adroddiad hwn, ac yn unol â pharagraff 3.5.1.6 i awdurdodi’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (neu ei enwebai) i gymryd rhan llaw yn nyfarniad y contract a’r gwaith o ffurfioli’r contract. · Petai Llywodraeth Cymru yn methu â darparu’r cyllid disgwyliedig, neu os yw’r cyllid yn annigonol, bydd y Gyllideb arfaethedig i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2025/2026 yn cynnwys:- · Swm untro o rhwng £276,000 a £313,000 ar gyfer y gost gweithredu contract; · Swm refeniw bob blwyddyn o rhwng £108,000 a £153,000 (ar gyfer trwyddedau a chostau lletya): · Swm untro o £58,000 er mwyn ariannu swydd Graddfa 5 i gefnogi gweithrediad, hyfforddiant a chefnogaeth i’r system bresennol o Ebrill 2025 am gyfnod o flwyddyn. · Yn amodol ar gymeradwyaeth Cadeirydd y Cyngor, o ganlyniad i’r amserlen dynn a ddisgrifir yn yr Adroddiad, mae’r Pwyllgor Gwaith yn eithrio’r penderfyniad rhag gallu cael ei alw i mewn gan Sgriwtini gan y byddai’r amserlen angenrheidiol ar gyfer y broses alw i mewn yn niweidiol i fudd gorau’r Cyngor a’r cyhoedd.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 101 KB Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: |
|
Porthladd Rhydd Ynys Môn - Cynnydd Paratoadau'r Achos Busnes Llawn
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Penderfyniad: Penderfynwyd dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Deilydd Portffolio Datblygu Economaidd, Cyfarwyddwyr Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro ac Adnoddau/Adran 151, i gymeradwyo a chyflwyno’r Achos Busnes Llawn drafft i’r Llywodraeth i’w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
|