Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys i’w hadrodd ond manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i bawb fu’n gweithio’n galed dros y penwythnos, mewn amgylchiadau anodd iawn, er mwyn ymateb i Storm Darragh ac ymdrin â’i effeithiau, gan gynnwys staff y Cyngor, contractwyr, aelodau’r gymuned, ffermwyr lleol fu’n cynorthwyo i glirio malurion oddi ar y ffyrdd a pheirianwyr Scottish Power fu’n gweithio i ailgysylltu cartrefi i’r cyflenwad trydan.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei ddiolch yntau at ddiolch y Cadeirydd a dywedodd fod Tîm Môn wedi dangos ei hun ar ei orau mewn sefyllfa ddifrifol ac roedd yn hyderus fod pawb a gyfrannodd wedi gwneud eu gorau er budd trigolion Môn.
|
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr ac Awst 2025.
Diweddarodd y Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ar yr eitemau a oedd yn newydd i’r Flaen Raglen Waith a nododd fod dwy eitem wedi cael eu haildrefnu ar ôl cyhoeddi’r rhaglen, sef – Cartrefi’r Awdurdod Lleol ar gyfer pobl hŷn, gosod y tâl safonol – sydd wedi symud o fis Chwefror i Ionawr 2025 a – Ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol ar gyfer 2025/26 a symudwyd o Ionawr i Chwefror 2025.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ionawr i Awst 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
|
|
|
Cynllun Strategol Caffael a Rheolau Gweithdrefn Contractau Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Cynllun Strategol Caffael drafft a’r Rheolau Gweithdrefnau Contractau drafft. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, a chafwyd amlinelliad o’r cefndir ganddo, sef bod Llywodraeth y DU wedi adolygu’r ddeddfwriaeth yn gysylltiedig â chaffael yn y sector cyhoeddus trwy gyflwyno Deddf Caffael 2023 a ddaw i rym ar 24 Chwefror 2025, a hynny’n hwyrach na’r dyddiad arfaethedig gwreiddiol, sef 28 Hydref 2024. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi pasio Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, sy’n gosod cyfrifoldebau a dyletswyddau ychwanegol ar sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru mewn perthynas â chaffael. Comisiynodd y Cyngor gwmni allanol i adolygu parodrwydd y Cyngor ar gyfer y newid mewn deddfwriaeth a darparu cynllun gweithredu i’r Cyngor er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn gallu cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, sy’n cynnwys nifer o feysydd, gan gynnwys y strategaeth gyffredinol. Mae’r Cynllun Strategol yn nodi ymagwedd y Cyngor mewn perthynas â chaffael ac mae’n sicrhau bod y dull caffael yn cydymffurfio â deddfwriaeth, polisïau a phrosesau mewnol, ei fod yn foesegol, yn agored, yn deg a thryloyw a’i fod yn cynnwys ffactorau economaidd, cymdeithasol, llafur ac amgylcheddol yn y broses. Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams mai’r bwriad yw caffael yn lleol lle bo hynny’n bosib, a thynnodd sylw at y ffaith fod tua chwarter o gontractau’r Cyngor yn nwylo cwmnïau lleol ac, mewn rhai achosion, lle nad yw’r contract yn nwylo cwmni lleol, mae adnoddau lleol, megis staff, yn cael eu defnyddio i gyflawni’r contract.
Dywedodd hefyd fod y newid yn y ddeddfwriaeth caffael yn golygu bod rhaid i’r Cyngor ddiweddaru’r Rheolau Gweithdrefnau Contractau, sef y rheolau sy’n nodi’r broses ar gyfer cynnal ymarfer caffael, y gwahanol ddulliau caffael, a phryd y dylid eu defnyddio. Drafftiwyd y Rheolau Gweithdrefnau Contractau diwygiedig i sicrhau eu bod yn ddigon hyblyg i ganiatáu i swyddogion gynnal ymarfer caffael yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol, wrth barhau i sicrhau fod unrhyw ymarfer caffael yn cael ei reoli a’i fod yn sicrhau gwerth am arian i’r Cyngor.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y byddai gwaith ar y cynllun gweithredu, os yw’r Cynllun Strategol a’r Rheolau Gweithdrefnau Contractau’n cael eu cymeradwyo, yn cychwyn o dan oruchwyliaeth tîm prosiect. Mae hyfforddiant staff wedi’i drefnu ym mis Ionawr a Chwefror cyn i’r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym ar 24 Chwefror 2025. Cyfeiriodd at y meysydd blaenoriaeth a nodwyd yn y Cynllun, sef arweinyddiaeth a diwylliant, defnyddio data a bod yn wybodus yn fasnachol, gwerth cymdeithasol a’r amgylchedd, gan sicrhau cydymffurfiaeth a chanolbwyntio ar yr economi lleol. Mae’r Cynllun yn nodi sut y caiff yr agweddau hyn eu cyflawni a sut fydd llwyddiant yn y meysydd hyn yn cael ei asesu a’i arfarnu. Y bwriad yw adrodd yn rheolaidd ar gynnydd i’r Tîm Arweinyddiaeth ac yn flynyddol i’r Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Gwahoddwyd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
Rhenti a Thaliadau Gwasanaethau Tai 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynnydd mewn rhenti a thaliadau gwasanaeth ar gyfer 2025/26.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, a dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd o hyd at 2.7% mewn lefelau rhenti cymdeithasol ar gyfer 2025/26. Mae’r taliadau ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod yn ystod 2025/26 yn seiliedig ar y costau gwirioneddol a gafwyd yn 2023/24 ac maent yn cael eu rhannu’n gyfartal rhwng y tenantiaid a’r lesddeiliaid sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Gan nad yw Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru’n darparu unrhyw ganllawiau ar sut i gynyddu rhenti garejys, mae’r Cyngor felly’n cynnig codi rhenti garejys gan 10%, neu £1.00 yr wythnos, i £11.02 yr wythnos. Bydd hyn yn cynhyrchu incwm o £290k ar ôl hepgor garejys gweigion, a bydd yn cael ei ddefnyddio i greu cynllun strategol ar gyfer garejys. Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod rhenti garejys y Cyngor yn sylweddol is na’r taliadau ar gyfer llogi cynhwysyddion. Nododd hefyd y bwriedir ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru er mwyn amlygu nad yw’r cynnydd blynyddol mewn rhenti yn ddigonol i ganiatáu i’r CRT ariannu costau ychwanegol o ganlyniad i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ychwanegol gan y cyflogwr a gyhoeddwyd yn y Gyllideb ym mis Hydref, y safonau SATC 2023 newydd a chwyddiant mewn costau adeiladu. Bydd gweithredu’r cynnydd o 2.7% yn golygu cynnydd o rhwng £2.20 a £3.98 yr wythnos ar gyfer pob tenant. Er hynny, ni fydd 2,931 (74.5%) o denantiaid y Cyngor yn wynebu unrhyw galedi ychwanegol yn sgil y cynnydd mewn rhenti a thaliadau gwasanaeth gan eu bod yn derbyn Budd-dal Tai llawn neu rannol, neu’r Credyd Cynhwysol. Bydd yr un cynnydd o 2.7% yn berthnasol hefyd i 37 eiddo rhent canolradd y Cyngor.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod polisi rhenti 5 mlynedd Llywodraeth Cymru’n dod i ben ar ddiwedd 2025/26 a bod un ar ddeg trysorydd y cynghorau sydd wedi cadw eu stoc dai wedi cychwyn trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru sydd yn arwain ar y polisi newydd, er mwyn codi pryderon nad yw lefelau rhenti’n ddigonol i gwrdd â’r costau ychwanegol sy’n wynebu’r CRT yn 2025/26 a thu hwnt. Bydd Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar bolisi rhenti newydd yn y Flwyddyn Newydd a bydd y Cyngor, fel cyngor sydd wedi cadw ei stoc dai, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y broses honno. Un awgrym sy’n cael ei gwneud yw y dylid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn y fformiwla ar gyfer penderfynu ar y cynnydd mewn rhenti a defnyddio mesur o chwyddiant yn ei le sy’n adlewyrchu’n fwy cywir y cynnydd mewn costau a wynebir gan y sector tai. Er y derbynnir bod angen i dai cymdeithasol fod yn fforddiadwy i denantiaid, mae angen i gynghorau sicrhau bod y CRT yn parhau i fod yn ariannol hyfyw.
Dywedodd y Cadeirydd iddo fanteisio ar y cyfle i godi’r mater mewn cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |