Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -
· 18 Chwefror 2025 · 27 Chwefror 2025 (Cyllideb) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel rhai cywir -
· 18 Chwefror 2025 · 27 Chwefror 2025 |
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ebrill i Dachwedd 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod. |
|
Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 3, 2024/25 Cyflwyno adroddiad gan y Pennath Proffesiwn, AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cytuno i’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 3 2024/25 a nodi’r meysydd o welliannau ynghyd â’r meysydd mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn rheoli a sicrhau gwelliant pellach yn y dyfodol. Roedd y rhain mewn perthynas ag Addysg (Môn Actif), Tai (Darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a Thai Gwag), Economi (Contractau angori cwsmeriaid), Newid Hinsawdd (Ailgylchu Gwastraff) ac Iechyd Cyffredinol y Cyngor (Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth).
|
|
Cynyddu’r Cynnig Craidd i Ofalwyr Maeth Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo cynyddu’r Cynnig Craidd i Ofalwyr Maeth fel yr amlinellir i gynnwys cynnydd ar gyfer chwyddiant mewn lwfansau maethu yn unol â’r cynnydd a argymhellir gan Lywodraeth Cymru i’r isafswm lwfans cenedlaethol sydd i’w gadarnhau (wedi’i fodelu ar 5%), ailstrwythuro’r taliadau sgiliau maethu i gynnwys 3 haen yn hytrach na 5 a chynyddu’r disgownt yn y Dreth Gyngor o 50% i 100%.
|
|
Cynllun Strategol Drafft Perygl Llifogydd Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwatraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo’r Cynllun Strategol Rheoli Perygl Llifogydd Lleol. |
|
Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-2055 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Tai. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2025-2055 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. |