Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau y cyfeirir atynt uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i Mr Dylan Williams, y Prif Weithredwr, ddatgan diddordeb personol ond nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 8 ar yr agenda oherwydd mai ef ar hyn o bryd yw unig gyfarwyddwr Porthladd Rhydd Ynys Môn yn rhinwedd ei swydd fel Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.
|
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w adrodd.
|
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2025.
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2025 fel rhai cywir.
|
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Mai a Rhagfyr 2025 i'w gadarnhau.
Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i'r Pwyllgor Gwaith am y newidiadau i'r Blaen Raglen Waith. Roedd y rhain yn cynnwys ychwanegu Hunanasesiad Corfforaethol Drafft 2024/25, y Ddogfen Gyflawni Flynyddol 2025/26 a Phrofion Modd - Grant Cyfleusterau i'r Anabl at agenda cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 24 Mehefin 2025. Hefyd, mae'r Hunanasesiad Corfforaethol a'r Adroddiad Perfformiad a Lles Blynyddol 2024/25 wedi'i ychwanegu at agenda cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Medi 2025.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi'i diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng Mai a Rhagfyr 2025 gyda'r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
|
|
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach 2023/24 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Ystâd Elusennol David Hughes ac Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Yn ôl y Comisiwn Elusennau mae’n ofynnol i’r cyfrifon blynyddol gael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith fel corff cyfrifol yr Ymddiriedolaethau.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, yr adroddiad gan amlinellu cefndir Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn, ei statws cyfreithiol a'r gwahanol elfennau ynddi. Mae'r adroddiad hefyd yn darparu crynodeb o berfformiad ariannol yr Ymddiriedolaeth yn 2023/24 ac yn diweddaru aelodau ar y cynnydd a wnaed i ddosbarthu mwy o gronfeydd yr Ymddiriedolaeth i ddiwallu dibenion elusennol yr Ymddiriedolaeth. Ym mis Hydref 2019 penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ddyrannu swm untro o £55,280 i bob ysgol uwchradd, wedi’i ariannu gan Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 1/3 (Gyfyngedig), i dalu costau Anogwyr Dysgu. Hefyd penderfynodd y Pwyllgor Gwaith i ddyrannu swm ychwanegol o £8,000 i bob ysgol uwchradd i ddarparu grantiau i fyfyrwyr dan anfantais ariannol. Pwrpas y grantiau oedd helpu myfyrwyr i gael lleoedd mewn colegau a phrifysgolion a / neu brynu llyfrau ac offer sydd eu hangen i ddilyn cyrsiau yn ystod y flwyddyn gyntaf. Ariannwyd cyfanswm y gost o £40,000 gan Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2/3 (Gyfyngedig). Mae adran 5 o'r adroddiad yn manylu ar sut y defnyddiodd ysgolion y cronfeydd hyn yn 2023/24.
Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw at y ffaith bod Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach yn dibynnu ar Ystâd Elusennol David Hughes i gynhyrchu gwarged sy'n cael ei drosglwyddo wedyn i'r Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach. Er bod yr enillion ar y buddsoddiadau masnachu yn dda, mae perfformiad eiddo buddsoddi'r ystâd Elusennol yn wael iawn, gan ddangos enillion negyddol yn 2022/23 a 2023/24. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod cytundebau tenantiaeth yn gyfyngedig ac wedi ein hatal rhag cynyddu rhenti'n sylweddol dros amser ynghyd â chostau cynnal a chadw cynyddol oherwydd bod cyflwr yr eiddo’n dirywio. O ganlyniad i’r enillion gwael ar eiddo, nid yw Ystâd Elusennol David Hughes wedi llwyddo i gyfrannu at Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn yn y 2 flynedd ddiwethaf gan nad oedd unrhyw warged. Mae hyn yn golygu nad yw'r Ymddiriedolaeth wedi gallu darparu cymorth i ddisgyblion presennol a chyn-ddisgyblion pum ysgol uwchradd y Cyngor, sef ei phrif bwrpas. Heb newid mewn strategaeth mewn perthynas ag ystâd elusennol David Hughes, mae'r sefyllfa hon yn debygol o barhau. Nodwyd yr her hon yn flaenorol ym mis Mawrth 2024 pan ddirprwywyd awdurdod i Swyddogion gan y Pwyllgor Gwaith i edrych ar opsiynau ar gyfer cynyddu incwm o'r ystâd i ddiogelu hyfywedd hirdymor Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn er budd pobl ifanc Ynys Môn. Fodd bynnag, oherwydd materion capasiti, nid oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud i weithredu'r argymhelliad hwn. Gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith awdurdodi comisiynu cymorth allanol i gynnal yr adolygiad angenrheidiol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad yw eiddo buddsoddi Ystâd Elusennol David ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ystyriwyd a phenderfynwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym mharagraff 14 o Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd. |
|
|
Porthladd Rhydd – diweddariad a chymeradwyo Cytundeb Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth arfaethedig rhwng y partïon perthnasol mewn perthynas â Phorthladd Rhydd Ynys Môn.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog Datblygu Economaidd a ailgyflwynodd y cefndir gan gadarnhau bod fersiwn drafft o Achos Busnes Llawn (Abl) Ynys Môn wedi'i gyflwyno i Lywodraethau San Steffan a Llywodraeth Cymru ar 17 Ionawr 2025 ac yn dilyn adborth ysgrifenedig ar 11 Mawrth, ailgyflwynwyd yr Abl drafft gyda'r disgwyliad y byddai'n cael ei lofnodi ddechrau mis Ebrill 2025. Ar ôl cymeradwyo ABLl, rhaid cytuno i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Pwrpas y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw nodi'r telerau, yr egwyddorion a'r arferion sy'n llywodraethu'r berthynas waith rhwng y partïon perthnasol - Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Phorthladd Rhydd Ynys Môn, a'r gofynion sy'n weddill. Llofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw'r cam olaf cyn daw’r Porthladd Rhydd yn weithredol. Mae'n ffurfioli'r ymrwymiadau allweddol a wnaed gan y Porthladd Rhydd yn yr ABLl ac yn amlinellu pa gefnogaeth y gall ei ddisgwyl gan Lywodraethau'r DU a Chymru. Mae'r Cyngor wedi adolygu a gwneud sylwadau ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ddrafft ac mae'n aros am fersiwn derfynol Llywodraeth Cymru. Unwaith y bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi'i adolygu gan Brif Weithredwr y Cyngor, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen i’w lofnodi. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, bydd yn cael ei lofnodi cyn diwedd mis Mai fel bod y Porthladd Rhydd yn gwbl weithredol erbyn 1 Mehefin 2025.
Wrth fynd i'r afael ag ymholiadau'r Pwyllgor Gwaith ynghylch cynnydd ac amserlenni, diweddarodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd aelodau ar ddatblygiadau llywodraethu gan gynnwys statws cytundebau aelodau a thirfeddianwyr. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y bwrdd cysgodol ym mis Ionawr 2025 gyda rhanddeiliaid allweddol i ddechrau newid i weithredu Porthladd Rhydd. Hefyd rhoddodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf am Safleoedd Treth dynodedig y Porthladd Rhydd a materion cysylltiedig.
Penderfynwyd –
|