Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni a Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Croesawodd y Cadeirydd Mr Aaron Evans i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Gwaith yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
|
|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hadrodd.
|
|
|
Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2025/26 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai a eglurodd ei bod yn ofynnol i’r Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) cyn dechrau pob blwyddyn ariannol ac wrth wneud hynny mae’n rhaid iddo ystyried gofynion Cod Darbodus CIPFA a Chod Ymarfer CIPFA ar Reoli Trysorlys. Mae’r DSRhT yn amlinellu sut y bydd y Cyngor yn mynd ati i reoli benthyciadau, buddsoddiadau a llif arian parod yn ystod y flwyddyn sydd i ddod ac mae’n nodi’r dangosyddion darbodus a thrysorlys sy’n sicrhau bod benthyciadau a buddsoddiadau’r Cyngor yn cael eu rheoli’n gyfrifol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi craffu ar y DSRhT ar gyfer 2025/26 ac yna’i argymell yn ei gyfarfod ar 11 Chwefror, 2025.
Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod strategaeth fuddsoddi’r Cyngor yr un fath ar gyfer 2025/26, sef blaenoriaethu diogelwch a hylifedd yn gyntaf ac elw (enillion) yn ail. O ran benthyciadau, ers nifer o flynyddoedd mae’r Cyngor wedi bod yn defnyddio ei falansau arian wrth gefn i ariannu gwariant cyfalaf yn hytrach na chymryd benthyciadau allanol. Gan fod cyfraddau llog yn weddol uchel roedd yn fwy cost effeithiol gwneud hynny. Fodd bynnag, dros oes y strategaeth, rhagwelir y byddai parhau i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso’r gyllideb refeniw a defnyddio’r CRT i ariannu gwariant cyfalaf yn lleihau cronfeydd wrth gefn arian parod y Cyngor yn sylweddol ac felly bydd llai o gyfle i fenthyca’n fewnol a bydd yn rhaid cynyddu buddsoddiadau allanol i ariannu rhaglen gyfalaf y Cyngor. Mae hyn wedi’i adlewyrchu yn Nhabl 7 yn y strategaeth sy’n dangos lefel y buddsoddiadau mewnol ac allanol yn y blynyddoedd hyd at 2028/29. Mae’r Dangosyddion Darbodus yn Nhabl 11 yn sicrhau bod benthyciadau’r Cyngor yn fforddiadwy ac o fewn y terfynau a bennwyd.
Fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith gydnabod yr adroddiad a’r gwaith yn gysylltiedig ag o a chydnabod yn ogystal bwysigrwydd y strategaeth o ran sicrhau bod adnoddau’r Cyngor yn cael eu trin yn synhwyrol ac mewn modd cynaliadwy ac nad yw’r Cyngor yn gorwario er mwyn cwrdd â’i anghenion gwariant cyfalaf.
Penderfynwyd nodi’r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2025/26 ac argymell ei gymeradwyo i'r Cyngor llawn.
|
|
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi’r cynigion manwl ar gyfer y gyllideb refeniw ar gyfer 2025/26 i’w hadolygu a’u cytuno gan y Pwyllgor Gwaith yn derfynol ynghyd â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai a roddodd drosolwg o’r cefndir gan ddweud bod y setliad gwreiddiol yn cynnig 3.6% o gynnydd ar gyfer Ynys Môn a bod y Pwyllgor Gwaith o’r herwydd wedi cynnig cyllideb ddrafft gychwynnol o £195.243m ar gyfer 2025/26 a oedd yn cynnwys defnyddio £2m o falansau cyffredinol y Cyngor, lleihau’r gyllideb £699m a chynyddu’r Dreth Gyngor 9.5%. Oherwydd cyfyngiadau amser, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus byr ar y cynnig ac mae’r canlyniadau wedi’u crynhoi yn Atodiad 3 o’r adroddiad. Cyhoeddodd Lywodraeth Cymru’r setliad terfynol ar 20 Chwefror 2025 a oedd yn cynnwys cyllid gwaelodol o 3.8%, ac o ganlyniad dyrannwyd £277k yn ychwanegol i Ynys Môn. Bydd y Cyngor hefyd yn derbyn grant pellach i helpu cynghorau yng Nghymru i gwrdd â chostau gofal ym maes gwasanaethau cymdeithasol i oedolion. Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams bod y Pwyllgor Gwaith, yn sgil y cyllid ychwanegol ac ar ôl ystyried ymatebion yr ymgynghoriad cyhoeddus, yn cynnig diwygio ei gynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb drwy beidio â chodi tâl gwasanaeth ar unedau diwydiannol a busnes, peidio â lleihau nifer y dyddiau y mae canolfannau ailgylchu’r Cyngor ar agor, lleihau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor (yn cynnwys Ardoll y Gwasanaeth Tân) 1% i 8.5% a dyrannu £217k er mwyn cwrdd â chostau adnewyddu offer TG mewn ysgolion yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams bod y Pwyllgor gwaith wedi cynnwys darpariaeth ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yn y cynnig cychwynnol ar gyfer y gyllideb, ac felly gellir defnyddio’r grant yn rhywle arall a bydd yn cael ei ddefnyddio i leihau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor i 8.5% sy’n golygu mai Ynys Môn fydd â’r ail gynnydd lleiaf allan o holl gynghorau’r Gogledd. Gyda’r newidiadau, mae’r Pwyllgor Gwaith yn cynnig cyllideb refeniw net o £195.443m.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y newidiadau rhwng setliad cychwynnol a setliad terfynol Llywodraeth Cymru a bod y data sy’n llywio cyllid grant wedi arwain at ostyngiad o £34k yn y cyllid grant ar gyfer Ynys Môn ac y bydd hynny’n cael ei wrthbwyso â’r £277k yn ychwanegol yn y cyllid gwaelodol o 3.8%. Yn amodol ar gadarnhad, rhagwelir y bydd y grant ychwanegol y bydd Ynys Môn yn ei dderbyn ar gyfer costau gofal cymdeithasol oedolion oddeutu £700k. Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 at yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb. Dywedodd bod rhai’n ffafrio defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn hytrach na chynyddu’r Dreth Gyngor i gwrdd â’r bwlch cyllidol tra bo eraill wedi dweud y dylai’r Cyngor gael ei reoli fwy fel busnes. Mae defnyddio balansau i gydbwyso’r gyllideb yn cynnig datrysiad dros dro, fodd bynnag gan mai dim ond unwaith y gellir gwario’r arian nid ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
Cyllideb Gyfalaf 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi’r gyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2025/26 i’r Pwyllgor Gwaith ei hadolygu cyn ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio, Cyllid a Thai a adroddodd bod cyllideb gyfalaf o £44.294m yn cael ei chynnig a bod y rhaglen a’r gyllideb wedi cael eu nodi ar dudalen agoriadol yr adroddiad. Fe all y gyllideb gyfalaf newid yn ystod y flwyddyn wrth i grantiau ychwanegol gael eu dyrannu ac wrth ymgeisio am grantiau a bydd gyllideb yn cael ei haddasu’n unol â hynny.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y cyswllt rhwng y strategaeth gyfalaf, y gyllideb gyfalaf a’r strategaeth rheoli trysorlys o ran darparu fframwaith ar gyfer cefnogi a rheoli amcanion a gwariant cyfalaf y Cyngor. Mae’r sefyllfa o ran y gyllideb gyfalaf wedi bod yn heriol ers tro ac er bod y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 £401k yn uwch na’r dyraniad ar gyfer 2024/25, sef y cynnydd sylweddol cyntaf y mae’r Cyngor wedi’i dderbyn ers nifer o flynyddoedd, nid yw’n gwneud iawn am werth is y cyllid hwnnw yn sgil chwyddiant. Mae Tabl 1 yn yr adroddiad yn rhagweld y bydd £32.378m o gyllid cyfalaf ar gael yn erbyn rhaglen gyfalaf sydd werth £44m. Bydd y diffyg o £11.91m yn cael ei ariannu drwy fenthyca digefnogaeth, £10.623m o’r CRT a £1.293m i’r Gronfa Gyffredinol. Er bod hyn yn newid mewn strategaeth, gan nad yw’r Cyngor wedi benthyca heb gymorth o’r blaen oni bai bod cynlluniau’n sicrhau arbedion digonol i dalu’r costau benthyca, mae’n dal i fod yn ddarbodus wrth fenthyca a bydd yn gwneud yn siŵr bod benthyciadau’n ddichonadwy o safbwynt refeniw. Mae’r benthyciadau’n hanfodol i alluogi’r Cyngor fuddsoddi yn ei asedau. Mae angen gwella nifer o’r asedau hyn ac nid yw’r cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru’n ddigonol i gwrdd â’r costau hyn. Mae benthyca digefnogaeth ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru at ddibenion priffyrdd ond nid yw’r manylion wedi’u cadarnhau eto.
Adroddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y pwyllgor wedi ystyried y Rhaglen Gyfalaf a’r Gyllideb ar gyfer 2025/26 yn ystod ei gyfarfod ar 19 Chwefror 2025 yn ogystal cyn i’r setliad terfynol gael ei gyhoeddi a chadarnhaodd bod y pwyllgor, ar ôl nodi nad oes unrhyw ffynonellau ariannu sylweddol eraill ar gael i’r Cyngor i ariannu prosiectau mawr ac eithrio'r CRT sydd wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau CRT yn unig ac nad oes modd ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall, wedi cefnogi’r cynigion ar gyfer y gyllideb gyfalaf.
Fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith gydnabod gwerth posib y prosiectau cyfalaf i’r gweithlu a chwmnïau lleol a nododd bwysigrwydd tendro ar gyfer contractau cyfalaf er budd yr economi leol. Fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith gydnabod arloesedd a menter y Swyddogion wrth sicrhau grantiau cyfalaf.
Penderfynwyd Argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol i’r Cyngor llawn ar 2025/26:- £’000
Cynlluniau 2024/25 a Ddygwyd Ymlaen – Cronfa Gyffredinol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |