Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 24ain Mehefin, 2025 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau y cyfeirir atynt uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 179 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 22 Mai 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 22 Mai 2025 i’w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 22 Mai 2025 fel rhai cywir.

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 226 KB

Cyflwyno Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf 2025 a Chwefror 2026.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar y newidiadau yn y Flaen Rhaglen Waith, fel a ganlyn -

 

  • Mae adroddiadau monitro’r Gyllideb Gyfalaf a Chyllideb y CRT ar gyfer Chwarter 4 2025/26 wedi’u symud o gyfarfod mis Mehefin i gyfarfod mis Gorffennaf 2025.
  • Mae Adroddiad Rheoli’r Trysorlys – Adolygiad blynyddol 2024/25 ac adroddiad ar Gyfrifon drafft 2024/25 ac Arian Wrth Gefn ar ddiwedd Mawrth 2025 hefyd wedi eu hychwanegu at gyfarfod mis Gorffennaf. Mae’r adroddiad ar yr Asesiad Panel Perfformiad yn eitem newydd ar gyfer cyfarfod mis Gorffennaf nad oedd wedi ei chynnwys ar y Rhaglen Waith a gyhoeddwyd.
  • Bydd adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar y cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad Ysgol newydd ar gyfer dysgwyr 11-18 oed, ynghyd â’r dogfennau Moderneiddio Cymunedau Dysgu, yn cael eu symud o fis Tachwedd i’r cyfarfod ym mis Hydref 2025.
  • Mae adroddiadau monitro’r gyllideb a’r Datganiad Polisi Trwyddedu Alcohol ac Adloniant Rheoledig wedi’u hychwanegu ar gyfer y cyfarfod ym mis Chwefror 2026.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Gorffennaf 2025 i Chwefror 2026 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

6.

Monitro’r Cerdyn Sgorio - Chwarter 4, 2024/25 pdf eicon PDF 489 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 4 2024/25, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad cerdyn sgorio olaf ar gyfer 2024/25 gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a nododd bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu’n fanwl ar yr adroddiad yn ei gyfarfod yr wythnos gynt.

 

Cyfeiriodd at feysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn mynd ati i’w monitro er mwyn sicrhau gwelliant yn y dyfodol, fel y nodir yn adran 2 yn yr adroddiad. Maent yn cynnwys nifer y plant sy’n cael gwersi nofio drwy gydol y flwyddyn (Môn Actif); darparu grantiau cyfleusterau i’r anabl, ail-osod unedau tai sy’n rhai y mae modd eu gosod, nifer y cytundebau angori blynyddol, cyfraddau ailgylchu gwastraff domestig a cheisiadau rhyddid gwybodaeth a dderbyniodd ymateb o fewn yr amserlen. Nodwyd bod gwelliant amlwg yn chwarter 4 mewn perthynas â’r pwynt olaf, a dim ond 14 cais rhyddid gwybodaeth, o gyfanswm o 260, oedd wedi derbyn ymateb hwyr.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones hefyd at berfformiad cryf mewn sawl maes, gan gynnwys cefnogaeth i fusnesau ddatblygu’r Gymraeg trwy’r rhaglen ARFOR, cynnydd o 50,000 yn nifer yr ymweliadau â Chanolfannau Hamdden Môn Actif ar gyfer gweithgareddau corfforol, gostyngiad yn nifer y disgyblion blwyddyn 11 sy’n gadael yr ysgol heb fynd ymlaen i waith, addysg neu hyfforddiant (NEET), canran uchel o denantiaid sy’n fodlon â gwaith trwsio ymatebol, ceisiadau cynllunio sy’n cael eu penderfynu mewn pryd a chyfraddau cadarnhaol ar gyfer cyflwr ffyrdd dosbarth A, B ac C.

 

I gloi, dywedodd bod perfformiad wedi bod yn gyson trwy’r flwyddyn a phwysleisiodd werth y cerdyn sgorio wrth fonitro perfformiad.

 

Croesawyd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Gwaith a gofynnwyd iddo gyflwyno adborth o gyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Mehefin. Er bod y pwyllgor wedi nodi bod 82.5% o’r dangosyddion perfformiad allweddol sy’n cael eu monitro wedi cyflawni eu targedau yn ystod y pedwerydd chwarter, gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn â’r dangosyddion sy’n tanberfformio a gallu’r Cyngor i wella’n barhaus. Roedd y materion a godwyd yn ystod y drafodaeth yn cynnwys yr amser a gymerir i ailosod unedau tai, disgyblion blwyddyn 11 sydd ddim yn mynd ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant, allyriadau carbon, gwahardd disgyblion a’r amser a gymerir i ymateb i ymholiadau diogelu oedolion. Ar ôl adolygu’r cerdyn sgorio corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 ac yn dilyn trafodaeth lawn, penderfynodd y pwyllgor nodi’r adroddiad, gan gynnwys y meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn sicrhau gwelliannau, ac argymell y cerdyn sgorio a’r mesurau lliniaru i’r Pwyllgor Gwaith. Cytunwyd hefyd y dylid cyflwyno’r dadansoddiad diwedd cyfnod drafft o’r “Cynllun Tuag at Sero Net 2022-2025” i’r Pwyllgor Sgriwtini yn yr hydref ac y dylid gofyn i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai a’r Aelod Portffolio Cyllid a Thai holi awdurdodau lleol eraill, er enghraifft, Harlow, Rotherham a North Ayrshire, am arferion gorau ar gyfer lleihau’r amser a gymerir i ailosod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Dogfen Gyflawni Blynyddol 2025/26 pdf eicon PDF 619 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2025/26, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynwyd y ddogfen gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer ac roedd yn amlinellu’r gweithredoedd sydd ar y gweill yn 2025/26 i gyflawni’r amcanion strategol yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028. Cynlluniwyd y gweithredoedd lefel uchel hyn er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn cyflawni ei ymrwymiadau o dan bob un o amcanion strategol Cynllun y Cyngor erbyn 2028. Y bwriad yw bod y gweithredoedd yn fesuradwy ac maent yn cynnwys targedau a cherrig milltir eglur lle bynnag y bo hynny’n bosib, gan olygu bod modd iddynt gael eu monitro’n effeithiol trwy gydol y flwyddyn. Bydd cynnydd yn cael ei adolygu’n chwarterol gan y Bwrdd Rhaglen Gwella a Moderneiddio a chaiff ei adlewyrchu yn yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad a Llesiant.

 

Rhannodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, safbwyntiau Sgriwtini yn dilyn y drafodaeth yng nghyfarfod y pwyllgor hwnnw ar 17 Mehefin. Roedd y pwyllgor yn cydnabod uchelgais y ddogfen a gofynnodd am sicrwydd y byddai’n bosib ei chyflawni, cadernid y fframwaith rheoli perfformiad sy’n cefnogi’r cynllun, a sut fyddai cynnydd yn cael ei olrhain a’i fonitro. Roedd yr aelodau wedi gofyn am ddiweddariad ar sawl maes, gan gynnwys y system ddata a gwybodaeth arfaethedig ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol, y datblygiad gofal ychwanegol arfaethedig ym Mhorthaethwy, rheoli llifogydd a chefnogaeth i gystadleuwyr di-Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn yn 2026. Ar ôl ystyried y ddogfen a derbyn sicrwydd ynglŷn â’r materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell y ddogfen i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei chymeradwyo.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor Sgriwtini am eu hadborth a phwysleisiodd fod y Ddogfen Gyflawni’n nodi dyheadau’r Cyngor ar gyfer 2025/26 a’i bod yn cyfrannu at amcanion ehangach Cynllun y Cyngor. Mae’n ddogfen lefel uchel ac mae’n cael ei chefnogi gan strategaethau gwasanaeth manwl a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd mabwysiadu’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer ei chyflawni yn 2025/26.

 

8.

Monitro'r Gyllideb Refeniw – Alldro 2024/25 pdf eicon PDF 762 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor hyd at ddiwedd Chwarter 4, 31 Mawrth 2025, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, yr adroddiad ac mae’n nodi bod y Cyngor yn rhagweld tanwariant o £3.873m ar gyfer 2024/25, yn cynnwys Cyllid Corfforaethol a’r gronfa Treth Gyngor, ac mae hynny gyfystyr â 2.15% o gyllideb net y Cyngor. Dywedodd bod yr alldro drafft gryn dipyn yn well na’r rhagolwg yn Chwarter 3 ac mae’r dadansoddiad o’r amrywiannau yn Nhabl 5 yn yr adroddiad yn dangos symudiad cadarnhaol o £3.11m. Mae’r ffactorau sydd wedi cyfrannu’n bennaf at wella’r sefyllfa yn cynnwys tanwariant o £936k yn y Gwasanaethau Oedolion, yn bennaf o ganlyniad i dderbyn incwm grantiau ychwanegol, swyddi gweigion, arbedion yn gysylltiedig â chontract cyfleustodau newydd a chynnydd mewn incwm ffioedd a thaliadau, yn enwedig yn y gwasanaethau Priffyrdd, Cynllunio ac Oedolion.

 

Nododd y Cynghorydd Robin Williams fod newidiadau yn y rheolau cymhwyso ar gyfer trethi busnes ar lety hunanarlwyo yn golygu bod nifer o eiddo wedi trosglwyddo’n ôl i’r gofrestr Treth Gyngor, gan olygu fod mwy o eiddo’n gorfod talu’r premiwm ar ail gartrefi. Mae’r Cyngor yn rhagweld y gallai nifer o apeliadau yn erbyn y penderfyniadau hyn fod yn llwyddiannus, a gallai eiddo gwrdd â’r trothwyon newydd ar ôl cael eu hail-asesu, gan olygu eu bod yn symud yn ôl i’r gofrestr trethi busnes. Oherwydd hyn, mae’r Cyngor wedi neilltuo £900k o arian ychwanegol mewn cronfa glustnodedig er mwyn gwneud ad-daliadau yn 2025/26 os bydd angen.

 

Mae’r alldro drafft a’r tanwariant a nodwyd, a’i effaith ar falansau cyffredinol y Cyngor, yn cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor a bydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddo wrth gynllunio cyllideb refeniw 2026/27. Cyflwynir adroddiad pellach i’r Pwyllgor Gwaith ar ôl cwblhau’r Datganiad o Gyfrifon drafft ar gyfer 2024/25.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod buddsoddiadau diweddar yn adeiladau’r Cyngor oedd â’r nod o leihau allyriadau carbon, wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn costau ynni yn ystod Chwarter 4.

 

O ran y tanwariant yng nghyllideb gyffredinol y Cyngor ar gyfer 2024/25, esboniodd bod nifer o ffactorau unwaith ac am byth wedi cyfrannu at y tanwariant, megis grantiau ychwanegol nad yw’r Cyngor yn debygol o’u derbyn eto, swyddi gweigion dros dro a chynnydd mewn incwm oherwydd cynnydd yn y galw a allai ostwng eto yn 2026/27. Pwysleisiodd nad yw’r datblygiadau yn 2024/25 wedi newid fawr ar sefyllfa ariannol sylfaenol y Cyngor, na’r heriau y mae’n eu hwynebu. Bydd yr alldro a ragwelir ar gyfer cyllideb 2024/25 yn atgyfnerthu balansau cyffredinol y Cyngor, gan gynnig mwy o ddewisiadau wrth gynllunio cyllideb 2026/27, ond nid yw’r datrys y pwysau sylfaenol, yn arbennig ym maes gofal cymdeithasol i Oedolion a Phlant. Rhagwelir gorwariant o £1.948m yn y Gwasanaethau Plant yn 2024/25, er bod y Cyngor wedi buddsoddi’n sylweddol wrth bennu’r gyllideb. Mae arian ychwanegol wedi’i gynnwys ar gyfer y gwasanaethau hyn yn y gyllideb ar gyfer 2025/26,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.